gan Elidir Jones
Dimiwch y goleuadau. Goleuwch y tân. Steddwch lawr yn yr hen gadair freichiau ‘na. Mae’n amser agor y Clwb Llyfrau unwaith eto.
Ar ôl darllen Seren Wen Ar Gefndir Gwyn a Samhain, a chwyno hyd syrffed bod ‘na ddim mwy o weithiau ffantasi ar gael yn Gymraeg, ro’n i’n ysu i ddod o hyd i fwy o enghreifftiau. Diolch i’n cohort Miriam, felly, am dynnu fy sylw at Gardag, “nofel ffantasi i blant o bob oed” gan Bryan Martin Davies, gafodd ei chyhoeddi yn 1988.
Doeddwn i ddim yn gwybod unrhywbeth mwy na hynny (a’r ffaith bod ‘na lun stoncin’ o lwynog ar y clawr) am Gardag cyn ei ddarllen. Ac wrth ddarllen y rhagair, wnes i ddechrau poeni chydig bach mai dim dyma’r math o lyfr ffantasi dwi’n hoff o ddarllen. Y dylanwad mwya sy’n cael ei grybwyll gan yr awdur ydi The Wind In The Willows, felly ro’n i’n disgwyl stori eitha tebyg am anifeiliaid bach cydli yn bwnglera o gwmpas mewn coedwig, a dim y math o ffantasi epig sydd ei angen gymaint yn y Gymraeg.
Ro’n i’n anghywir. Iawn.
Er bod Gardag yn dilyn hynt a helynt llwyth o lwynogod, ac wedi ei anelu at blant, mae’n aros yn eitha agos at rai o gonfensiynau ffantasi, a ges i fy siomi ar yr ochr ora gan y gyfrol yn gyffredinol.
Mae’r llyfr yn cymryd ffurf cyfres o flashbacks, wrth i hen lwynog o’r enw Gardag edrych yn ôl dros y cyfres o ddigwyddiadau wnaeth arwain ato’n dod yn arweinydd ei lwyth, gan gychwyn yn ei ieuenctid cynnar. Mae’r confensiynau ffantasïol yn cychwyn yn syth, wrth i ni ddysgu am grefyddau dychmygol y llwynogod – am yr holl Dduwiau mae nhw’n eu addoli, ac am fyth yn cread fyddai ffitio’n deidi i mewn i unrhyw stori ffantasi epig.
Mae’r penodau cynta hefyd yn cynnwys nodwedd sy’n gyffredin i sawl nofel ffantasi: yr info-dump. Yma, ‘da ni’n cael ein bombardio gan wybodaeth am holl deulu, cyfeillion a gelynion Gardag (ac yn wir, fyddai’r goeden deulu enfawr ddim yn teimlo allan o’i le yn A Song Of Ice And Fire), ac yn dysgu am holl fanylion y diwylliant diarth ‘ma cyn i unrhywbeth mawr ddigwydd go-iawn yn y naratif. Dydi hyn ddim yn beth positif am y nofel, wrth gwrs, ond mae o’n sicr yn ei leoli’n amlwg slap bang yng nghanol y genre ffantasi.
Ac mae’r cymhariaethau yn parhau. Mae’r llwynogod yn mynd ar ambell siwrne beryg, gan gyfarfod i’w cynllunio nhw fel yn y “Council of Elrond” o Lord Of The Rings. Mewn un pennod braidd yn ddi-bwynt, mae dau o’r llwynogod yn ymweld â phentre’r dynion a chael eu tywys o amgylch y lle gan gi sy’n siarad mewn odlau. Mae’r cymhariaethau i Tom Bombadil yn ddiddiwedd! Ac wrth i’r llyfr fynd yn ei flaen, mae ‘na fwy a mwy o gerddi yn ymddangos allan o nunlle. Dwi’n meddwl y byddai J.R.R. Tolkien yn cymeradwyo’r holl beth, deud y gwir.
Mae ‘na amryw o bwyntiau arall fedrwn i ei wneud am hyn, ond ‘da chi’n ca’l y neges, dwi’n siŵr. Dyma fyd wedi ei seilio ar gymdeithas ganoloesol, yn llawn antur, peryg, hud a lledrith…
(Tua diwedd y stori. Neu ella ddim. Trafodwch.)
… a hyd yn oed gelynion drygionus ac anwaraidd (ond cŵn a dynion yn hytrach nac orcs a choblyniaid). Mae ‘na lot o feddwl wedi mynd i ddylunio’r byd, sy’n hanfodol ar gyfer unrhyw stori ffantasi dda, ac er bod ‘na dipyn o’r cymeriadau reit gonfensiynol, mae ‘na ambell dro yn y gynffon sy’n gwneud y nofel dipyn yn fwy unigryw nac mae’r “benthyciadau” ‘ma yn eu hawgrymu. Mae ‘na hefyd ambell i beth reit dywyll yma, sy’n cyfiawnhau’r cymhariaethau i Watership Down yn y rhagair. Efallai wir mai i blant mae Gardag wedi ei anelu’n bennaf, ond mae’n ddigon hawdd i oedolion ei fwynhau.
Nofel ddiddorol iawn ar y cyfan, felly, ac yn haeddu llawer mwy o drafodaeth yn y cyd-destun yma. A hyd yn oed os ‘da chi braidd yn alergaidd i ffantasi draddodiadol, mae Gardag hefyd yn gweithio’n dda fel rhyw fath o chwedl fodern. Fel mae’r awdur yn ei nodi yn y rhagair:
“Hen Gymry [yw’r llwynogod] mewn gwirionedd, hen Gymry anorchfygol, pobl sy’n dal i oroesi yn nhueddau mwyaf anghysbell y Mynydd Du, ac yn wir, yn haenau isaf ein hymwybyddiaeth genedlaethol.”
Meynhau darllen rhein – mwy plis! Ambell ilyfr ffantasi/ffugwydd gymraeg dwi ‘di mwynhau dros y flynyddoedd ‘dwetha, off top y mhen – Ar Drywydd y Duwiau, Y Dinas ar DDiwedd y Byd, Igam Ogam Nico. Siwr bod rhan fwyaf o rhein yn llyfre i blant, ond ambell un yn itha disglar, a phob un gyda syniadau gwreiddiol ynddynt.
Diolch!
[…] nofel ffantasi, ond un sy’n anwybyddu lot o gonfensiynau a thraddodiadau’r genre. Mae Gardag yn ticio lot o’r bocsys cywir, ond mae o hefyd yn nofel i blant am lwynogod sy’n […]