Amser dychwelyd i Glwb Llyfrau f8 – fy nhaith bersonol i drwy bob un llyfr gwyddonias gafodd erioed ei sgwennu yn y Gymraeg. Dwi’n ddim byd oni bai am uchelgeisiol…
Felly. Seren Wen ar Gefndir Gwyn. Y llyfr ffantasi cynta i ymddangos yn y Clwb Llyfrau, sydd braidd yn rhyfedd ar un llaw, achos dwi’n lot mwy o ffan o weithiau ffantasi nag ydw i o ffuglen wyddonol. Ar y llaw arall, does ‘na ddim lot o ffantasi Cymraeg, yn anffodus. Ac o’r dewis braidd yn bitw sydd ar gael, Seren Wen ydi’r enwoca, a’r unig nofel o’i fath i ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol.
Wna i ddim trio esbonio’r plot, dim ond ei fod yn gyfres o anturiaethau episodig, yn dilyn y prif gymeriad, Gwern Esgus, yn ei ymdrechion yn erbyn grymoedd sinistr Gwlad Alltud. Wna i adael i chi ddatrys holl gylymau’r stori eich hun!
Wnes i ddarllen y nofel gynta pan o’n i’n y coleg… ryw ddeng mlynedd yn ôl bellach. Aw. Aw, mae hwnna’n brifo. Beth bynnag. Do’n i ddim yn hoff iawn o’r llyfr bryd hynny. Fel ffan o Tolkien a gweithiau ffantasi mwy ‘traddodiadol’ – sy’n cael eu crybwyll fel dylanwad ar gefn y llyfr, gyda llaw – ro’n i’n gweld Seren Wen yn rhy wahanol i’r math yna o beth. Do’n i ddim yn gallu cael gafael arni, rywsut.
Fyswn i’n hoff o ddweud ‘mod i wedi newid fy meddwl ar ail ddarlleniad… ond dwi’n dal i deimlo fwy neu lai yr un ffordd.
Mae ‘na lot o resymau pam dwi’n hoff o ffantasi. Ond y mwya ohonyn nhw, dwi’n meddwl, ydi’r teimlad o fynd ar goll mewn byd arall. Y grêd ‘na bod byd cwbwl wahanol yn bodoli ar yr ochr arall i’r dudalen. Roedd gan Tolkien ei ieithoedd a’i legendarium, mae gan lyfrau George R.R. Martin eu hanes swmpus eu hunain, ac mae gan gyfresi eraill systemau hud a lledrith cywrain, neu fapiau manwl, neu gymeriadau crwn, neu rhywbeth sy’n eich tynnu i mewn.
Dwi ddim yn meddwl bod yr un peth yn wir am Seren Wen. I mi, does ‘na ddim lot o dystiolaeth yn y testun bod Robin Llywelyn wedi eistedd i lawr a meddwl am ei fyd. Mae’r broses yna – y world-building, fel mae’n cael ei alw – mor hanfodol i unrhyw waith ffantasi. Yn hytrach, mae’r llyfr yn teimlo fel llwyth o enwau od wedi eu taflu at ei gilydd. Dydw i ddim yn gweld lot o reswm i falio am be sy’n digwydd. Ac mae ‘na anghysondebau hefyd – yng nghanol y teyrnasoedd ffantasi gwallgo, a’r creaduriaid gwyllt, mae ‘na gyfeiriadau prin ac anesboniadwy at ein byd ni. Digon teg – ella bod y byd yma’n fersiwn o’r Ddaear wedi mynd yn hollol sgi-wiff, ond dydi’r agwedd yna o’r peth byth yn cael ei esbonio. Ac mae’r darnau ffantasïol mor nyts, mae’r cyfeiriadau yna’n sefyll allan dipyn gormod.
Mae ‘na ffyrdd eraill o ddod at y nofel. Yn hytrach na meddwl amdani fel ffantasi epig, fedrwch chi ei chysidro fel parhad o draddodiad y chwedlau, neu o straeon tylwyth teg. Drwy’r prism yma, mae’r nofel yn edrych dipyn gwell. Mewn straeon fel hyn, does dim angen cymeriadau dwfn, na chefndir manwl i’r byd. Y daith sy’n bwysig – y wefr sy’n dod o ddarllen am anturiaethau a champau amhosib. Dwi’n gallu gweld sut ellith rhywun gael y wefr yma o ddarllen Seren Wen… ond do’n i yn bersonol ddim yn gallu gweld heibio gwendidau’r nofel i allu ei mwynhau fel’ma. Dwi’n meddwl bod y Mabinogion yn gwneud y math yma o beth yn lot gwell!
Ond mae ‘na un ffordd arall o edrych ar y nofel. Mae lot o weithiau ffantasi, er gwell neu waeth, yn ymateb i waith arall, ac efallai wir bod Seren Wen yn dilyn y traddodiad yma. Mae’n rhyfeddol o debyg i’r byd y creodd Jack Vance yn ei gyfres The Dying Earth. Wnes i drafod y llyfrau yma o’r blaen, fan hyn, ond yn fyr: mae The Dying Earth yn gyfres o straeon ffantasi episodig, wedi eu seilio yn nyfodol ein byd ni, efo elfen gref o ffuglen wyddonol, â thinc o hiwmor iddyn nhw, efo’r pwyslais ar y daith a’r stori yn hytrach na’r byd ei hun. Swnio’n gyfarwydd?
Dwi ddim yn siŵr oes ‘na unrhywun erioed wedi gwneud cymhariaeth uniongyrchiol rhwng gweithiau Robin Llywelyn a Jack Vance. Dwi’n amau’r peth. Does gen i ddim syniad chwaith ydi Robin Llywelyn yn gyfarwydd â The Dying Earth. Ond mae’r tebygrwyddau yn rhy fawr i’w hanwybyddu, dwi’n meddwl. Ac ella mai dyma’r ffordd orau o feddwl am Seren Wen. Fel rhywbeth wedi ei ddylanwadu gan waith Jack Vance, neu hyd yn oed fel homage i’r math yna o ysgrifennu, mae’n gweithio’n… iawn. Dwi dal ddim yn siŵr ydi o’n unrhywbeth sbeshal, ond o leia bod ‘na sail llenyddol i’r math yma o beth.
Dwi’n gwbod ‘mod i’n fflio yn erbyn y farn boblogaidd fan hyn, ond dwi ddim yn deall pam bod gymaint yn cysidro Seren Wen ar Gefndir Gwyn yn glasur modern. Ydi’r ffaith ei fod yn wahanol i’r rhan fwya o nofelau Cymraeg eraill yn ddigon? Dwi ddim yn credu. Mae gan y nofel ei chryfderau, ond dim digon ohonyn nhw i ddal fy sylw i. Fyswn i wrth fy modd yn clywed gan unrhywun sy’n hoff o’r nofel, i ddeall lle dwi ‘di mynd yn rong.
Tro nesa ar y Clwb Llyfrau, fyddwn ni’n darllen un arall o’r gweithiau ffantasi Cymraeg prin sy’n llechu rhywle ar silffoedd llyfrgell y wlad. A rhywbeth ychydig mwy traddodiadol, o bosib. Hwyl fawr tan hynny… ac mae’n wir ddrwg gen i am yr holl gontrofyrsi dros y lle i gyd.
– Elidir
Cytuno’n llwyr efo’r syniad bod y nofel yma yn cael ei hystyried yn glasur am y rheswm syml ei fod mor “wahanol” – a nad ydi hyna wastad ddigon i wneud nofel yn un sy’n haeddu’r clod. Anodd dianc rhag y syniad o awdur yn neidio ar bandwagen ffantasi, heb wir gofleidio y gifal ac adeiladu byd cywrain sydd angen i greu campwaith.
Wff, heb sgwennu gymaint hyna am ddarn o gelf ers coleg! (oedd hefyd 10 mlynedd nôl, aw)
[…] Tro diwetha yn y Clwb Llyfau, fe wnaethon ni droi at lyfrau ffantasi, a Seren Wen Ar Gefndir Gwyn. Ffantasi sydd ddim yn draddodiadol iawn, ac un dwi ddim yn hoff iawn ohoni. […]
[…] ôl darllen Seren Wen Ar Gefndir Gwyn a Samhain, a chwyno hyd syrffed bod ‘na ddim mwy o weithiau ffantasi ar gael yn Gymraeg, […]
[…] y Gymraeg. Dwi wedi bod yn reit barticiwlar o ran diffinio nofelau fel ffantasi go-iawn ar f8. Mae Seren Wen Ar Gefndir Gwyn yn sicr yn nofel ffantasi, ond un sy’n anwybyddu lot o gonfensiynau a thraddodiadau’r […]