Ar Yr Olwg Gynta: Fallout 4

Dwi ddim yn dda am weithio’n hwyr, nac ar Ddydd Sadwrn. Mae Dydd Sul off-limits, beth bynnag sy’n digwydd. Ond dros y wythnosau diwetha, dwi wedi gwneud fy ngora i wasgu gwaith i mewn i oriau rhyfedd, achos ro’n i’n gwbod bod Fallout 4 allan wythnos yma. Gymris i ddeuddydd i ffwrdd i’w chwarae… a hyd yn hyn, dwi ‘di rhoi bron i 20 awr i mewn i’r gêm.

Ia, Fallout 4 ydi gêm fwya’r flwyddyn. Ar sawl lefel. Dyma’r gêm mae pobol wedi edrych ymlaen ati fwya, a dyma hefyd gêm fwya’r flwyddyn. Mae’r peth yn chyffing anferth. Prin ydw i wedi cyffwrdd â’r prif stori. Yn hytrach, dwi ‘di treulio fy amser yn gwneud swyddi bach di-nod, fel plannu tomatos i blesio pentre o bobol dlawd, neu mynd i nôl casgliad o drugareddau pêl-fas o ganol llyn, neu gael paent er mwyn i hen ddyn allu paentio ffens.

Mae’r pethau yna i gyd yn y gêm. Ac mae’n fwy hwyl na mae’n swnio. Onest.

Wna i adolygiad fideo yn y man, a fydd o’n dipyn o fwystfil, mae’n debyg. Sgen i ddim cliw pryd fydd hwnna’n cael ei wneud. Am y tro, felly, dyma ychydig o sylwadau gwasgarog ar ôl treulio “dim ond” 20 awr yn y byd ‘ma.

fallout-4-protectron_1920.0

Felly. Heb sbwylio dim byd sydd ddim yn yr hysbysebion yn barod – ‘da chi’n byw bywyd hapus braf efo’ch gwraig (neu’ch gŵr) a’ch plentyn, wedyn yn sydyn reit mae rhyfel niwclear yn taro. ‘Da chi’n cael ei taflu i mewn i vault tanddearol, ac yn deffro tua 200 mlynedd wedyn. Eich job chi wedyn ydi gwneud eich ffordd yn y byd newydd ôl-apocalyptaidd, sut bynnag ‘da chi’n licio.

Hyd yn hyn, dwi’n meddwl bod hi’n deg dweud bod Fallout 4 wedi hollti barn. Mae’r bygs (sy’n codi eu pen mewn bob gêm gan Bethesda, yn anffodus) wedi sbwylio’r peth i rai, mae ‘na gwynion wedi bod am faint y byd, ac mae eraill wedi honni nad ydi’r holl beth yn teimlo’n ddigon newydd a next-gen, yn arbennig wedi ei gymharu efo gemau fel Metal Gear Solid 5 The Witcher 3.

Y bygs i ddechra. Ydyn, mae nhw’n broblem. Dim gymaint i fi’n bersonol – y petha gwaetha dwi ‘di eu profi ydi gweld ci yn mynd yn styc mewn drws, a chael fy arfau i gyd yn troi’n anweledig am dipyn bach. Ond i eraill, mae’r problemau cynnar wedi sbwylio’r holl brofiad iddyn nhw – fel yn achos y dyn druan yma, gafodd ei hun yn styc mewn lifft oedd byth yn agor. Yn y rhan fwya o achosion, mae’n bosib chwerthin am y peth a symud ymlaen, ond byddwch yn ymwybodol eu bod nhw’n taflu cysgod mawr dros yr holl brofiad… cyn i’r gêm gael ei drwsio, o leia.

Mae’r byd yn llai na Skyrim, mae’n wir, a Grand Theft Auto 5, a gemau tebyg… ond c’mon. ‘Da ni wedi cael ein sbwylio. Ac ella wir bod ‘na ddim gymaint o filltiroedd sgwâr yma, ond mae ‘na fwy i’w wneud ynddyn nhw nac yn Skyrim, er enghraifft. Mae ‘na lot llai o gerdded di-bwynt o gwmpas y lle. A mewn gêm sy’n debyg o roi 100+ awr o gynnwys i chi, dwi’n meddwl bod hi’n wirion cwyno am y math yma o beth.

O ran teimlo’n hen-ffasiwn… wel, dwi ddim ‘di chwarae MGS 5 na The Witcher 3 eto, ond ar brydiau, mae’n wir bod hwn yn teimlo fel estyniad o Fallout 3 yn hytrach na gêm newydd sbon. Mae’n glir ei fod wedi bod mewn datblygiad am flynyddoedd. Ac mae ‘na elfennau newydd, fel y system grefftio… ond dwi’n meddwl bod ‘na ffyrdd ellith yr elfennau yna gael eu gwella. Mae nhw’n teimlo fymryn yn hanner pob ar y funud.

Ond, i fod yn deg, mae’r gêm yn edrych yn grêt ar adegau, yn enwedig pan mae rhai o’r effeithiau tywydd syfrdanol yn cael eu hychwanegu i mewn i’r gymysgedd. Ac yn y diwedd, y peth pwysica sy’n effeithio ar eich gwerthfawrogiad o Fallout 4 ydi eich hoffter o’r fformiwla mae Bethesda wedi ei ddefnyddio gymaint o weithiau o’r blaen. Os ydych chi’n ffan o’r fformiwla, gewch chi hwyl yma, dim ots be sy’n digwydd. Os ddim, fyddwch chi’n ei ffeindio hi’n anoddach. Weithia, mae pethau mor syml â hynny. Dwi wrth fy modd efo’r fformiwla. Felly dyna ni.

Un peth penodol arall i’w drafod, cyn i fi adael chi lonydd. Y system perks , sy’n rhoi galluoedd newydd i chi wrth i’ch cymeriad ddod yn fwy pwerus. Yn hytrach na’r dewis braidd yn bitw roeddech chi’n gael ar ddechrau gemau fel Fallout 3 Skyrim, mae Fallout 4 yn rhoi dewis gwirioneddol wallgo i chi. Sy’n braf iawn mewn theori, achos fedrwch chi fod yn wirion o benodol pan yn cynllunio eich cymeriad. Ond mewn practis, dwi jyst ‘di bod yn syllu ar y sgrîn yma am oesoedd, a wedyn dewis y gallu mwya cŵl, yn hytrach na’r un sy o ddefnydd i fi. Felly gwyliwch am y peryg yna.

Gymaint mwy i ddweud wrth gwrs, ond mae ganddon ni gyd fywydau i fyw, gwaetha’r modd. Fel dwi’n deud, fydd ‘na fwy ar Fideo Wyth am Fallout 4 yn y man, ar ôl i fi dreulio nifer gwirioneddol anweddus o oriau yn ei chwarae. Ac os ‘da chi wrthi efo’r gêm eich hun ar y funud, sticiwch sylw ar y wefan, da chitha. Mae’r berthynas ‘ma’n mynd y ddwy ffordd, wyddoch chi. Rargol.

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s