Y Profiadau Coll

Ro’n i am dreulio heddiw yn trafod rhai o hoff gemau fy mhlentyndod, fel wnes i o’r blaen, fan hyn. Ond y mwya y meddyliais i am y peth, y mwya wnes i ddod i sylweddoli mai dim y gemau eu hunain sy’n sefyll allan, ond y profiadau – y rhannau elfennol ‘na o chwarae gemau sydd wedi diflannu dros y blynyddoedd.

Achos mae pethau wedi newid lot ers i mi fod yn blentyn. Pam ddim neidio i mewn i’r DeLorean efo fi?

Ailchwarae gemau

Dim rhywbeth sydd ddim yn bodoli bellach, ond yn hytrach rhywbeth sy’n newid wrth i chi fynd yn hŷn. Dwi bron byth yn ailchwarae gemau bellach. Unwaith i’r credydau rowlio, dyna ni. Ymlaen i’r nesa. Wnes i ailddechrau Bloodborne yn ddiweddar, yn barod am yr estyniad, ac roedd o’n teimlo’n rhyfeddol o od.

Wrth gwrs, yn blentyn do’n i ddim yn cael lot o gemau, ac felly doedd dim i’w wneud ond eu hailchwarae. Drosodd a throsodd a throsodd. Ac roedd y diweddglo i gemau yn meddwl mwy hefyd. Heddiw, fedrwch chi sticio diweddglo sinematig ar ddiwedd eich gêm, sy’n para ugain munud, a fydda i ddim yn batio amrant. Ond nôl yn y dydd, doedd dim byd gwell nac eistedd i lawr efo paced o Golden Wonder a gwylio diwedd Super Mario Bros 2 am y canfed gwaith. Ac i wneud hynny, wrth gwrs, roedd rhaid chwarae drwy’r holl gêm gynta.

Breuddwyd oedd yr holl beth! Athrylith pur.

Ond wrth fynd yn hŷn, a chael mwy o bres, roedd gen i fwy o gemau i ddewis ohonyn nhw, felly aeth y fath ymddygiad allan o’r ffenest. Ac ar ben hynny, ro’n i’n gallu…

Rhentu gemau

Pan ddaeth y Nintendo 64 allan, fe wnaeth y siop fideo leol (Domino, ym Mangor, diolch am ofyn) ddechrau cynnig gemau i’w rhentu. Ac OK, digon teg, doedd gan y Nintendo 64 ddim lot o ddewis i ddechrau. Ro’n i fwy neu lai yn gorfod rhentu Turok: Dinosaur Hunter bob wythnos. Ond o fewn amser, ges i chwarae lot mwy o gemau ar y system na fyswn i wedi gallu gwneud fel arall.

Heddiw, mae’r siopau fideo wedi diflannu. Wel… mae Domino yn dal i fodoli, ond mae gwlâu haul wedi cymryd lle’r gemau. Sy’n… bisâr. Fedrwch chi wastad fenthyg gemau gan eich ffrindiau, fel yn yr hen ddyddiau, ac mae gwasanaethau fel Playstation Now yn gadael i chi rentu stwff… ond mae hynny’n dibynnu ar eich cysylltiad i’r we, ac mae’r gemau i gyd yn dod o’r genhedlaeth gynt. I bob pwrpas, mae rhan bwysig o fy ‘addysg’ i mewn gemau wedi ei golli. Ac fel canlyniad, dydi’r plantos bondigrybwyll ‘ma heddiw ddim yn gwbod be sy’n mynd ymlaen.

Wel… oni bai am un rhan allweddol o’r profiad o chwarae…

Mynd yn styc

Mae bron yn amhosib mynd yn styc mewn gemau erbyn hyn. Hyd yn oed os ‘da chi ddim yn trafferthu troi at y we ar gyfer atebion, mae’r gemau yn fwy na aml na pheidio yn ateb posau i chi os ‘da chi’n sefyllian o gwmpas am ddigon o amser. Mae rhai gemau Nintendo hyd yn oed yn rhoi’r opsiwn o chwarae eu hunain, er mwyn i’r chi allu cyrraedd y lefelau ola, be bynnag eich sgil.

Nôl yn y dydd, os oeddech chi’n mynd yn styc, roedd rhaid i chi ffonio rhywun. Roedd gan y cwmnîau mawr rif i ddeialu, efo ryw lanc yn ei arddegau ar y pen arall yn barod i ateb eich cwestiynau, wedi diflasu’n llwyr. Wnes i hynny sawl gwaith. Ond, ar brydiau eraill, doedd gen i ddim mynadd efo’r fath lol. Roedd gen i’r gêm The Incredible Hulk ar y Super Nintendo, a wnes i erioed basio’r lefel cynta. Wnes i jyst chwarae’r chwe munud yma, drosodd a throsodd, a thaflu’r controller yn erbyn y wal pan o’n i’n mynd yn styc yn yr un lle bob tro.

Fysa’r fath beth jyst ddim yn digwydd heddiw. Ac wrth edrych yn ôl ar glipiau o’r gêm, dwi’n synnu es i mor bell â hynny, hyd yn oed.

Ond roedd ‘na un lle arall i droi at atebion, sydd hefyd – i bob pwrpas – wedi mynd yr un ffordd â’r dodo.

Effaith cylchgronau

More_Retro_Magazines-THUMB

Cylchgronau. Y stop-gap rhwng comics a phapurau newydd. Ydyn, mae nhw’n dal o gwmpas, ond does prin neb yn eu darllen – sy’n siom mewn ffordd, achos bod nhw’n aml yn brydferth iawn, ac mae’r ysgrifennu fel arfer yn lot mwy aeddfed na’r stwff sydd ar gael ar-lein, a ‘da chi’n teimlo’n cŵl yn eu darllen nhw ar y trên.

Ond ar y llaw arall, dwi’n dyfaru’r ffaith ‘mod i wedi treulio cymaint o fy mhlentyndod yn darllen cylchgronau. Rhai ohonyn nhw, o leia. Os ‘da chi’n darllen cylchgronau yn trafod gemau ar un system yn unig, neu wedi eu cyhoeddi gan Nintendo, neu Microsoft, neu Sony, neu pwy bynnag… wel, dydi’r cylchgronau yna ddim yn mynd i roi lot o falans i chi. Eu hunig bwrpas ydi gwneud i chi brynu mwy o gemau ar y system yna – er mwyn i chi ddal i brynu’r cylchgrawn, wrth gwrs. Wnes i dreulio lot gormod o fy mywyd yn osgoi unrhywbeth doedd ddim ar y PC, neu ar gonsol Nintendo, oherwydd y propganda moel o’n i’n ei ddarllen bob mis.

Mae plant heddiw yn dal i lynu wrth un cwmni yn aml, ond mae natur y we – lle mae gwefannau, yn fwy aml na pheidio, yn trafod bob math o gemau – yn gwneud hynny’n anoddach, dwi’n meddwl. Dyma un ffordd, o leia, mae byd y gemau wedi gwella.

Gemau wedi torri

A dyma un arall. Mewn ffordd. Ella.

Mae’r ffaith bod gemau mawr heddiw (fel Assassin’s Creed: Unity, Batman: Arkham Knight, ac unrhywbeth gan Bethesda) yn aml yn cael eu rhyddhau heb eu gorffen yn broblem enfawr. Fyswn i’n gallu sgwennu cofnod llawn am y peth. Ond o leia bod y gemau yna’n cael eu patshio a’u gwella nes ymlaen. Doedd yr opsiwn yna ddim ar gael tan yn ddiweddar.

Mae ‘na rai hen gemau sy’n chwerthinllyd o wael. Fel E.T.neu Dr. Jekyll & Mr Hydeneu Big Rigs Over The Road RacingDwi’n synnu gafodd y cwmnîau sy’n gyfrifol amdanyn nhw ddim eu herlyn. Dychmygwch wario £50 ar rhywbeth sydd jyst ddim wedi ei orffen, a dim ffordd o newid y sefyllfa. Nyts.

Fe allech chi ddadlau bod mwy o gemau anorffenedig yn cael eu rhyddhau heddiw, oherwydd bod ‘na ffordd o newid pethau nes ‘mlaen. Ond dwi ddim yn gwybod ydi hynny’n wir. A beth bynnag, mae ‘na rai cwmnïau sydd wastad yn rhyddhau cynnyrch efo polish, a rhai sydd ddim. Mae hynny’n broblem yn ymwneud ag agwedd y cwmnïau yna, ac mae’n debyg na fydd hynny’n newid yn fuan. Ond o leia bod y dechnoleg ar gael i drwsio pethau erbyn hyn.

Waw. Y mwya dwi’n meddwl am y peth, y mwya mae’r holl hobi wedi newid mewn chwarter canrif. Oes ‘na unrhywbeth dwi ‘di anghofio? Unrhyw ffyrdd roedd pethau’n llawer gwell nôl yn y dydd, neu vice versa? Rhowch wybod yn y sylwadau.

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s