Y Dyddiau Da

Mae’n amser digon tawel ym myd y gemau. Dwi wedi bod yn cadw’n brysur efo Hearthstone, Rocket League, a cwpwl o hen bethau sy wedi bod yn disgwyl yn amyneddgar i fi eu chwarae. Ond fel arall, does ‘na ddim byd mawr yn digwydd tan Super Mario Maker mis nesa.

Felly be am droi’r cloc yn ôl, a chofio rhai o’r adegau yn ystod fy mhlentyndod lle wnes i ddisgyn mewn cariad efo gemau. Nostalgia-ffest llwyr. Y math o bethau mae pobol ar Youtube fel Happy Console Gamer yn eu trafod drwy’r amser.

Wrth gwrs, fyswn i’n gallu siarad am bethau fel hyn drwy’r dydd, felly wna i gadw hwn yn weddol fyr, ac achub chydig o’r perlau at eto.

Ffraeo dros NBA Jam

Does dim byd fel gêm chwaraeon i achosi ffeit dda. Yn ddiweddar, wnaeth ‘na ffrind i fi ddangos y cannoedd o negeseuon cas mae plant yn eu harddegau yn gyrru dros y PS3 wedi iddo fo eu curo nhw mewn gêm o FIFA arlein. A dwi’n cofio “trafodaethau” reit fywiog dros gemau fel Sensible Soccer Premier Manager hefyd.

Ond wnaeth dim byd achos mwy o ffraeo na NBA Jam. Dro ar ôl tro, roedd fy mrawd a fi yn troi’r gêm ymlaen a thrio curo’r cyfrifiadur. Efo’n gilydd. Dyna oedd y peth – roedden ni fod yn dîm. Ac eto, roedd bob un sesiwn yn gorffen mewn ffrae enfawr beth bynnag. Am ba bynnag reswm, roedden ni wastad yn dewis chwarae fel y Detroit Pistons. Ella mai dyna’r broblem. Ella bod nhw’n hollol rybish. Achos roedden ni wastad yn colli. Dwi wir ddim yn cofio ni’n ennill gêm. Ac o hynny i gyd roedd y ffraeo yn dod – roedden ni’n trio penderfynu (efo dyrnau yn cael eu taflu, yn amlach na pheidio) bai pwy oedd o ein bod ni wedi colli. Nyts.

Ac eto, roedden ni’n dod yn ôl dro ar ôl tro. Achos hyd yn oed pan mae pethau’n mynd yn hollol Horlix, mae gan gemau ryw bŵer rhyfedd i’ch tynnu’n ôl.

Ac os oes rhywun yn meddwl bod hyn i gyd yn swnio braidd yn anghynnes, a bod neb yn arfer ffraeo fel hyn dros bethau dibwys nôl yn y dydd, mae gen i un gair i chi: Monopoly.

The Settlers ar Ddydd Sul

And now for something completely different.

Mae hwn yn brofiad dwi ‘di trio ei ailgreu sawl gwaith, ond erioed wedi gallu gwneud. Roedd ‘na rywbeth am yr awyrgylch, a’r gêm ei hun, a fy oed i ar y pryd…

Ar ddyddiau Sul, pan o’n i o gwmpas naw oed, ro’n i’n deffro yn gynnar yn y bore, troi’r Amiga ymlaen – ac am erthygl neis iawn yn cofio’r Amiga, ewch fan hyn – ac yn chwarae’r gêm strategaeth The Settlers. Dyma oedd pinacl gemau strategaeth ar y pryd. Roedd y graffeg cartwnaidd, y gerddoriaeth esmwyth, a’r ffordd oedd eich pentrefwyr bach yn ateb eich gorchmynion efo “Iyp!”, neu’n dod o hyd i aur yn y mynyddoedd efo “Woo-hoo!”, mor gwbwl hudolus. Jyst sbiwch ar y fideo isod a thriwch peidio cael eich swyno fel neidr mewn basged.

Roedd ‘na brif gêm lle oeddech chi’n trio creu teyrnas enfawr a dinistrio’r gelyn, ond dwi’m yn meddwl i fi gyffwrdd hwnna. Be o’n i’n eu wneud oedd chwarae heb elynion, a jyst… adeiladu. Drwy’r dydd. Yn gwbwl heddychlon. Yn hapus braf.

Ers hynny, dwi ‘di trio ailfyw’r peth – efo Age Of Empires, neu Minecraft, neu’r gemau Settlers ddaeth wedyn. Ond does dim byd yn dod yn agos. Ella bod gen i ormod o ddyletswyddau erbyn hyn i allu ymlacio’n llwyr fel’na. Ella tysa gen i Ddydd Sul gwag, ac yn bŵtio’r gêm i fyny eto, fyswn i’m yn teimlo unrhywbeth tebyg.

Ella mai peiriant amser dwi isio go iawn.

Waw. Well i ni symud mlaen cyn i betha fynd yn rhy dipresing.

Goldeneye. Jyst Goldeneye.

maxresdefault

Reit. Grandewch, chi blantos modern, efo’ch cyfrifiaduron ffansi a’ch we bondigrybwyll. Yn fy nydd i, doeddech chi ddim yn gallu chwarae gemau arlein efo’ch ffrindiau, wili-nili. Yn fy nydd i, roedd rhaid i chi ddod at eich gilydd, ar soffa o bopeth, a chwarae gemau yn yr un ystafell.

A – sori – ond roedd hwnna gymaint gwell. Dim nostalgia ydi hwn yn siarad. Mae sesiwn o Destiny efo ffrindiau yn dda a bob dim, ond dydi pawb ddim yna, nag ydyn? I bwnio eu gilydd ac i weiddi ac i fynd tu allan i gicio pêl wedyn. Pan o’n i yn fy arddegau, roedd diwrnod rownd tŷ ffrind yn chwarae Goldeneye yn dipyn o achlysur. Rhywbeth i edrych ymlaen ato fo am wythnosau, ac i’w gofio am wythnosau wedyn. Achos doedd o ddim yn digwydd yn hanner digon aml.

Dwi’n cofio un diwrnod yn nhŷ fy ffrind David. Fi, fo, ei frawd Sion, a’n ffrind Aled, i gyd wedi gwasgu i mewn i stafell fach. Y cyrtans wedi cau, er ei bod hi’n ferwedig tu allan. Yn chwarae drwy’r prynhawn, heb frêc. Yn lefel y Facility (wrth gwrs). A doedd neb yn cael chwarae fel Oddjob (wrth gwrs). Jyst oriau o weiddi a sgrechian a chwerthin a herio’n gilydd. Profiad arall dwi ddim cweit, yn fy sinigaeth ac fy “aeddfedrwydd”, wedi gallu ei ailgreu.

Ac unwaith eto, ella dydi’r math yma o ymddygiad ddim yn swnio’n hollol iach i rai sydd ddim yn gyfarwydd iawn efo gemau. Ond dyma’r math o brofiadau mae ieuenctid heddiw yn eu trysori. Waeth i ni dderbyn a dathlu’r peth, yn hytrach na hiraethu am ryw oes aur lle oedd yr haf yn para am byth, doedd ‘na ddim trosedd na direidi, a roedd pawb yn hapus yn chwarae efo bricsan.

Mwy o atgofion rhywdro eto, dwi’n siŵr. Ond am y tro, dwi am drio gwneud rhai newydd. Adios.

– Elidir

One comment

Leave a comment