Mae’n amser i ni barhau ar ein taith drwy ffuglen wyddonol yn Gymraeg. A tro ‘ma, golwg ar nofel gan un o hoff awduron Cymru, Islwyn Ffowc Elis.
Na, dim yr un yna.
Wedi ei gyhoeddi yn 1968, Y Blaned Dirion oedd ail ymdrech Islwyn Ffowc Elis i lunio nofel o’r math yma, ar ôl Wythnos Yng Nghymru Fydd yn 1957. Pa fath o nofel, medda chi?
Wel, nofel wyddonias, siŵr iawn. Dyna’r defnydd cynta o’r gair yna. Gair bach da, fyd.
Felly. Cardiau ar y bwrdd. Dwi ddim yn ffan mawr o Islwyn Ffowc Elis. Dwi ddim yn dallt pam bod nofelau Lleifior wedi cael gymaint o sylw, ac mae Wythnos Yng Nghymru Fydd yn bropaganda llwyr. Propaganda reit effeithiol, ond propaganda serch hynny. Dwi ddim yn hoff o’r ffaith bod ‘na ddim lot o gynildeb yn ei waith. Mae bob dim yn FAWR ac yn DDU A GWYN a’r metafforau yn GWBWL AMLWG. Efo hynny i gyd mewn golwg, be o’n i’n feddwl o Y Blaned Dirion ta? Daliwch i ddarllen…
Mae’r nofel yn dechrau mewn cynhadledd wyddonol yn Llundain yn ystod yr Ail Ryfel Byd, lle mae’r ffisegydd Dr Teyrnon Williams, y seryddwr Dr Emrys Morgan, a’r anthropolegydd Dr Elen Powel – Cymry Cymraeg da bob un, thgwrs – yn cyfarfod i drafod y syniad o deithio drwy’r gofod. Mae Teyrnon, sy’n cael ei ‘arwain’ gan ryw ymwybyddiaeth rhyfedd, yn rhan o brosiect gan y llywodraeth i drio gwneud hynny’n union. Mae Elen yn neidio at y cyfle, gan bod hi’n credu bod y ddynol ryw yn dod o blaned arall yn wreiddiol…
Ydi. Mae hi’n un ohonyn nhw. Ac mae Emrys isio bod yn ran o’r peth achos ei fod o’n ffansïo Elen. Job done.
Wedi i’r prosiect gael ei gau i lawr, mae’r daith yn cael ei ariannu gan y miliwnydd Owen D. Lewis, ac mae’r peilot Capten Stevens a’r peiriannydd ‘Twm Sbanar’ hefyd yn ymuno â’r criw. I gyd yn Gymry eto, wrth gwrs. Dyna gyd-ddigwyddiad.
Mae nhw’n cael ei cludo yn eu roced i’r Blaned Dirion – cartref hil o greaduriaid wnaeth unwaith yrru rhai o’u nifer i gychwyn y ddynol ryw ar y Ddaear, cyn esblygu ymhell tu hwnt i ni. A wna i ddim sbwylio dim mwy o’r plot, ond mae’n ddigon amlwg bod pethau’n mynd braidd yn sgi-wiff erbyn y diwedd, a bod y paradwys cosmic yma ddim am aros yn berffaith am byth…
Gwendidau’r nofel gynta. Yn gyffredin efo lot o stwff Islwyn Ffowc Elis, mae ‘na eitha dipyn o foesoli yma. Mae’r diwedd, yn enwedig, yn litani o’r holl bethau mae’r prif gymeriadau wedi ei wneud o’i le – diota, cenfigennu, a.y.y.b. Dydi hi ddim yn syndod chwaith bod trigolion y Blaned Dirion yn Gristnogion mewn popeth ond enw, a bod stori Adda ac Efa yn cael ei blethu i mewn i’r naratif. Ond do’n i ddim yn meddwl bod y moesoli ‘ma cweit yn claddu gweddill y stori. Dwi ‘di gweld gwaeth.
Mae ‘na ddarnau hynod o ddigri yn y nofel, ond dwi’m yn meddwl bod Islwyn Ffowc Elis wedi bwriadu iddyn nhw fod! Yn ystod diwedd y stori, er enghraifft, mae’r cymeriad Elen Powel yn treulio 99% o’i hamser yn llewygu unrhywbryd mae rhywbeth syfrdanol yn digwydd. Ac mae ‘na hefyd ryw fath o gag (sydd ddim i fod yn gag o gwbwl) yn rhedeg drwy’r llyfr, lle mae trigolion y Blaned Dirion yn mynnu bod dim angen enwau arnyn nhw… cyn dod i fyny efo enw anhygoel o grand a gwirion beth bynnag. Mae hyn i gyd yn arwain at fy hoff frawddeg i yn y llyfr… ac ella mewn unrhyw lyfr erioed, pan dwi’n meddwl am y peth.
“Dyma’r ddinas,” clywodd Araon yn dweud. “Does dim enw arni hithau. Er eich mwyn chi fe’i galwn hi’n Cosmopolis.”
Waw.
Ond alla i ddim bod lot mwy beirniadol na hynny. Wnes i fwynhau Y Blaned Dirion eitha lot. Yn gyffredinol, roedd y profiad o’i ddarllen yn fy atgoffa i o wylio hen ffilm ffuglen wyddonol ddu a gwyn ar brynhawn Sul. Ydi, mae’r actio yn brennaidd, a’r sets yn ysgwyd, ond mae o’n gymaint o hwyl, ‘da chi ddim wir yn meindio. Ac mae’r ffordd y mae Islwyn Ffowc Elis wedi plethu mytholeg a chrefydd i mewn i’w stori yn gweithio’n reit dda, os nad ydi o’n anhygoel o soffistigedig.
Stori neis sy’n pasio amser felly. Dim byd i roi’r byd ar dân, ond mae o’n well na Cysgod Y Cryman, o leia. Ella wir bod o’n well na Wythnos Yng Nghymru Fydd hefyd, ond dwi ddim wedi darllen hwnna ers rhai blynyddoedd. Bosib bod hi’n bryd i fi wneud eto…
– Elidir
[…] gyffredinol, mae’n bosib y bydd adolygiadau Elidir ar FideoWyth o rhai o glasuron Gymraeg y genre o […]
[…] i fy atgoffa o ddwy nofel arall sydd wedi ymddangos yn y Clwb Llyfrau – Y Blaned Dirion gan Islwyn Ffowc Elis a Rhys Llwyd y Lleuad gan E. Tegla Davies. Fel Rhys Llwyd, mae’n […]