Clwb Llyfrau f8: Gwalia

gan Elidir Jones

Rhaid i fi wneud un peth yn glir cyn cychwyn ar y rhifyn yma o’r clwb llyfrau. Fe wnaeth yr awdur Llŷr Titus adolygu fy nofel i, Y Porthwllyng nghylchgrawn Barn. Roedd ei adolygiad yn hynod o deg, ac yn dangos dealltwriaeth go-iawn o ffuglen wyddonol, sef sut wnes i ddod i wybod bod o hefyd yn dablo ym myd ffug-wydd ei hun.

A pan dwi’n dweud ‘dablo’, fe wnaeth o ennill un o wobrau Tir na n-Og ar gyfer llenyddiaeth plant eleni. Felly mae o’n dipyn o ddablwr, deud y gwir.

Beth bynnag. Dwi ddim eisiau i chi feddwl bod adolygiad Llŷr o fy llyfr i yn cael unrhyw effaith ar fy adolygiad i o’i lyfr o. Er na fyddai’r adolygiad yma wedi digwydd oni bai am ei un o, ac… o, anghofiwch y peth.

Mae Gwalia yn nofel i blant sy’n dilyn merch ifanc o’r enw Elan, yn teithio o gwmpas y gofod yn y dyfodol pell ar long o’r enw yr Enterprise, yn troedio’n ddewr lle does neb wedi troedio o’r blaen…

333914-starship

Na, jôc. Gwalia ‘di enw’r llong. Yn amlwg. Ac mae o’n long fasnach yn hytrach nac un wedi ei adeiladu yn unswydd er mwyn anturiaethu. Ond dydi hynny ddim yn golygu, wrth gwrs, bod anturiaethau ddim yn sticio i Gwalia fel glud wrth i Elan, y capten Ari (sy’n treulio ei amser sbâr yn chwarae gemau! Ies!), a dau fachgen sydd wedi sleifio ar y llong, fynd ar drywydd planed ddirgel sydd wedi arwain dwsinau o bobol at eu marwolaeth, a datod un o gyfrinachau hil o fodau arallfydol sy’n llawer, llawer hŷn na’r ddynol ryw…

Felly mae’n glir o’r cychwyn mai nofel antur ydi hon yn y bôn, sy’n siwtio’r gynulleidfa ifanc i’r carn. Mae’r cychwyn yn eithriadol o weledol a sinematig, countdown clasurol yn cyfri i lawr i ddim wrth i beilot anffodus gael ei lyncu gan y blaned ddirgel. Fedrwch chi bron ddychmygu’r llais robotaidd yn cyfri, y seirenau’n udo, a’r goleuadau coch yn fflachio.

Mae’n wir bod pethau’n arafu fymryn bach wedi hynny wrth i ni gael ein cyflwyno i holl griw y Gwalia, pob un yn cyflawni swydd unigol, Star Trek-aidd ar y llong. Yma, dwi’n meddwl, mae’r nofel yn teimlo fwyaf fel llyfr i blant, wrth i’r awdur ymfalchïo mewn disgrifiadau hir a hamddenol o’i fyd dyfodolaidd, yn hapus i brocio dychymyg ei gynulleidfa ifanc heb symud y stori ymlaen fawr ddim. Ond wedi i Elan a’i ffrindiau gael eu hunain ar y blaned, mae pethau’n cyflymu eitha dipyn, a’r delweddau a’r syniadau yn mynd yn llawer mwy creadigol.

Pan yn darllen Gwalia, ges i fy atgoffa o ddwy nofel arall sydd wedi ymddangos yn y Clwb Llyfrau – Y Blaned Dirion gan Islwyn Ffowc Elis a Rhys Llwyd y Lleuad gan E. Tegla Davies. Fel Rhys Llwyd, mae’n nofel i blant am griw o bobol ifanc sy’n ffeindio eu hunain mewn lle diarth ac – yn y man – yn trio eu gorau i wneud eu ffordd adre. Ond eto, mae lot o fanylion am y daith ei hun yn weddol debyg i’r confensiynau sydd i’w gweld yn Y Blaned Dirion, llyfr i oedolion, gydag un gwahaniaeth mawr: mae Gwalia yn teimlo fel nofel llawer mwy aeddfed.

Mae hynny’n destament i ddau beth, dwi’n meddwl: gwybodaeth Llŷr Titus o ffuglen wyddonol, a cymaint mae’r genre wedi datblygu dros y blynyddoedd. Yn gyffredinol, mae gan bobol lawer mwy o barch tuag at ffuglen wyddonol heddiw nac yn 1968, pan gafodd Y Blaned Dirion ei chyhoeddi. I lawer, genre braidd yn ffwrdd-a-hi oedd hi bryd hynny, sy’n esbonio pam bod cymaint o Y Blaned Dirion yn teimlo fel B-movie, a ddim wedi ei seilio mewn unrhyw realaeth ‘da ni’n ei hadnabod.

Mae Llŷr Titus, ar y llaw arall, yn trin ei chymeriadau a’i fyd gyda pharch, a ddim yn teimlo fel ei fod yn gorfod ymddiheuro am ysgrifennu ffuglen wyddonol. Ro’n i, sinig 31 oed, yn edmygu hyn yn fawr iawn, a fedra i werthfawrogi sut y byddai plentyn yn ymateb i’r peth. Dyma nofel i blant sydd byth yn siarad i lawr iddyn nhw. Mae hynny’n beth i’w drysori.

A dydi’r holl linynnau storïol ddim wedi eu clymu’n neis ar ddiwedd y nofel, sy’n braf gweld. Mae Elan yn gymeriad ag iddi orffennol sydd heb ei lawn esbonio, dipyn bach fel Rey o Star Wars: The Force Awakens… fyswn i yn tynnu mwy o sylw at y tebygrwydd yna oni bai am y ffaith bod cefndir digon tebyg i brif gymeriad y nofel dwi’n gweithio arni rŵan. Wna i gadw fy ngheg ar gau.

Fyddwn i wrth fy modd yn dysgu am holl gyfrinachau Elan mewn cyfrolau i ddod. Fel dwi wedi ei ddweud o’r blaen, mae cyfresi ffug-wydd / ffantasi o safon yn rhywbeth sydd wir ei angen ar y Gymraeg, ac mae’n falch gen i ddweud fy mod i’n gwbwl sicr y gall Llŷr Titus lunio un.

 

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s