Ffrydiau Byw f8

gan f8

Nodyn byr heddiw i dynnu’ch sylw at rhywbeth ella nad oeddech chi’n ymwybodol ohono fo…

Fyddwch chi’n gwybod, wrth gwrs, am y cynnwys fideo ar ein sianel Youtube. Am yr adolygiadau, ein eitemau ar Y Lle, fideos comedi (hmm… mae hi wedi bod yn sbel ers i un o rheini ymddangos…), ac yn y blaen.

Ond ‘da ni hefyd, o dro i dro, yn gwneud ffrydiau byw o gemau, weithiau ar ôl dipyn o waith paratoi, a weithiau ar ollyngiad het, jyst achos ein bod ni’n gallu.

Yr unig ffordd o fod yn sicr y byddwch chi byth yn colli ein holl ogoniant amaturaidd, wrth gwrs, ydi i danysgrifio i’n sianel. Mae ‘na lot mwy o’r math yma o beth yn dod, siŵr o fod.

Ond am y tro, beth am ddal i fyny ar y stwff ‘da chi wedi ei golli? Fel…

Wythnos yma, fe wnaeth Daf neidio i mewn i’r gêm enfawr am grwydro’r bydysawd, No Man’s Sky, efo Elidir yn gwylio. Gafodd o ffeit efo cranc a threulio’r rhan fwya o’i amser yn chwilota am zinc. Mae’n well na mae o’n swnio.

Ac yna, yn mynd yn ôl mewn amser, dyma Daf ac Elidir yn herio ei gilydd mewn gêm hegar o Blood Bowl 2

Profiadau cynta Daf o’r “walking simulator” gwych Firewatch

A dyma Daf ac Elidir yn profi The Division am y tro cynta, yn union ar ôl i Elidir neidio oddi ar fws tair awr a hanner i Aberystwyth. Doedd o ddim yn y mŵd gora.

Mwynhewch! Ac fel mae’r hen ddywediad yn mynd, cofiwch hoffi, rhannu, a thanysgrifio.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s