Adolygiad: Preacher – Cyfres 1

gan Elidir Jones

Bosib iawn mai’r gyfres o gomics Preacher gan Garth Ennis a Steve Dillon ydi’r rheswm fy mod i’n darllen comics a nofelau graffeg heddiw. Wnes i ddeifio i mewn i’r gyfres yn y coleg, eu hailddarllen rai blynyddoedd wedyn, a symud ymlaen yn y man at gyfres arall Garth Ennis, The Boys… a llwyth o gomics eraill, wrth gwrs.

Dyma, heb os, oedd y gyfres wnaeth fy nghyflwyno i’r ffaith bod comics yn medru apelio at oedolion hefyd. Ro’n i wrth fy modd efo’r hiwmor tywyll (iawn), y stori gafaelgar… ac ia, gan ‘mod i ar ddiwedd fy arddegau ar y pryd, roedd y ffiedd-dra o bob math yn apelio hefyd. Mae’n dal i fod yn agos iawn at fy nghalon. A dwi’n 31.

Mae ‘na gyfres deledu yn seiliedig ar y comics wedi bod yn styc mewn limbo ers blynyddoedd maith. Roedd HBO yn datblygu un sbel yn ôl, ac wedi mynd mor bell a chynhyrchu profion colur (arhoswch yn glir o’r linc yna os ‘da chi newydd fwyta, gyda llaw). Ond daeth hynny i ddim yn y diwedd, gan arwain at y tîm rhyfedd o AMC (Breaking Bad, The Walking Dead) a Seth Rogen & Evan Goldberg (Knocked Up, Superbad, The Interview) yn ei roi ar ein sgrîns o’r diwedd yn gynharach y flwyddyn yma.

Gan bod y gyfres gynta yn adrodd y stori yn ara deg iawn, ac yn cyflwyno rhai elfennau gweddol sylfaenol o’r comics yn eitha hwyr, mae’n anodd trafod y plot heb sbwylio pethau i’r rhai sy’n dod i mewn i’r peth yn hollol ffresh. Ond yn ei hanfod…

Anadl ddofn…

preacher-ensemble-xlarge_trans++KY-t8uJBLObWrDJgfDYVZbCApOYwN50r8XONg47YFRI

Ein prif gymeriad ydi Jesse Custer (Dominic Cooper) – pregethwr o dref fach o’r enw Annville, Texas, sy’n prysur golli ei ffydd, ac yn trio ei orau i ddianc o’i orffennol tywyll a threisgar. Mae hyn oll yn dod braidd yn anodd pan mae ei gorff yn cael ei feddiannu gan Genesis – nid y band, ond creadur rhyfeddol o’r ffiniau rhwng Uffern a’r Nefoedd, sy’n rhoi pwerau arbennig iddo. O, ac yng nghanol hyn i gyd mae ein gyn-gariad Tulip O’Hare (Ruth Negga) yn troi fyny allan o nunlle ac yn mynnu ei fod o’n dychwelyd at ei hen ffordd o fyw a gadael y goler wen ar ei ôl.

A wedyn dyna Cassidy (Joseph Gilgun) – vampire Gwyddelig gyda chalon o aur sy’n dod yn ran ganolog o fywyd Jesse ar ôl glanio (yn llythrennol) yn ei ardd gefn. A’r barwn cigoedd Odin Quincannon (Jackie Earle Haley) a’i gwmni, sy’n teyrnasu’n ddigwestiwn dros Annville. A’r sheriff Hugo Root (W. Earl Brown) a’i fab Eugene (Ian Colletti), eu perthynas dan bwysau wedi i Eugene saethu ei hun yn ei wyneb. A byw. A’r angylion Fiore a DeBlanc (Tom Brooke ac Anatol Yusef) sy’n cyrraedd Texas yn unswydd er mwyn hela Genesis… a Jesse.

A thrwy hyn i gyd, cawn gipolwg ar gowboi (Graham McTavish) sy’n byw yn Annville y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yntau’n delio efo gorffennol hyd yn oed tywyllach nac un Jesse, sy’n bownd o ddod wyneb-yn-wyneb â’r presennol mewn ffordd waedlyd iawn…

preacher-season-1-108-blog-post-graham-mctavish-saint-of-killers-1200x707

Mae ‘na fwy na hynny, coeliwch neu beidio. Annifyr felly bod y gyfres – oni bai am y dechrau a’r diwedd, ac ambell olygfa ymladd cwbwl boncyrs yn y canol – yn teimlo braidd yn ara deg. Mae saith rhifyn o’r comics wedi eu hymestyn yma i tua wyth awr o deledu, ac fel canlyniad, mae ‘na lot o badio pethau allan. Dydi’r cymeriadau sy’n newydd i’r gyfres ddim bob tro yn taro deuddeg, ac mae ‘na gyfnodau hir lle mae’n hen ffefrynnau yn gwneud dim byd ond golchi’r eglwys (Cassidy) a bwhwman o gwmpas y dre yn gwneud dim (Tulip).

Os rhywbeth, mae Preacher yn teimlo fel rhaglen fyddai’n llawer gwell wedi ei wylio mewn un go yn hytrach na dros ddeg wythnos, fel y gwnes i. Mae ‘na ambell i linyn storïol sy’n mynd ar goll yn y shyffl, a chithau’n debyg o anghofio amdanyn nhw ar ôl cyfnod hir. Ond, dros ddiwrnod neu ddau o wylio, does ‘na ddim peryg y bydd hynny’n digwydd. ‘Da chi hefyd yn fwy tebyg o faddau’r ffaeleddau pan mae’r bennod nesaf ychydig funudau i ffwrdd, yn hytrach na wythnos.

Ar yr un pryd, mae’n gredyd i’r syniadau craidd y tu ôl i’r gyfres eu bod nhw yn dal eich sylw, hyd yn oed pan mae pethau’n ymlusgo yn eu blaenau yn boenus o ara deg. Ac mae’n gredyd hefyd i’r actorion. Mae Joseph Gilgun a Ruth Negga yn trio eu gorau i wneud i chi anghofio bod gan Cassidy a Tulip ddim lot i wneud, ac yn aml yn llwyddo. Ar yr un pryd, mae’r ysgrifennu yn craclo efo hiwmor, a byth yn teimlo fel esboniadau sych o’r plot – er bod ‘na lot i’w esbonio.

Ond yn y pen draw, gwallgofrwydd pur Preacher ydi’r peth mawr sy’n cynnal y gyfres: y cyfuniad nyts o gymeriadau a genres gwahanol sy’n ei wahanu oddi wrth 99% o raglenni eraill. Dwi ddim yn meddwl bod y gyfres gynta ‘ma yn cymharu’n ffafriol iawn efo’r comics, ond fel ffan ohonyn nhw, alla i ddim disgwyl i weld lle mae pethau’n mynd, a pha mor bell y cawn nhw eu gwthio. Achos ar y dudalen, mae nhw’n cael eu gwthio’n bell iawn.

Un gair i ffans o’r comics: “Humperdido”. Allwch chi ddychmygu hwnna’n gwneud ei ffordd ar y sgrîn?

Beth bynnag. Dydi Preacher ddim i bawb. Dydi o’n sicr ddim wedi bod yn llwyddiant ysgubol fel Game Of Thrones neu’r Sopranos. Ond mae o’n sicr yn pricio’r dychymyg, os nad unrhywbeth arall, ac yn gwneud i chi awchu am fwy. Mae ‘na gymaint o addewid yn y gyfres gynta, gan gofio bod ‘na rai o’r prif gymeriadau ddim hyd yn oed wedi cyfarfod eto. Fydda i’n sicr yn dod yn ôl am fwy, allan o deilyngdod i’r comics. Gawn ni weld a fydd gweddill y gynulleidfa yn fy nilyn.

O, ac mae ‘na hefyd olygfa lle mae Tom Cruise yn ffrwydro. Mae hi werth gwylio’r peth jyst oherwydd hynny.

Sori. Ella ddylswn i ‘di dweud hynny i gychwyn.

One comment

  1. […] Dewis Arall: Preacher Ro’n i bron a dewis rhaglen arlein Louis CK, Horace And Pete, fan hyn. Ond dwi’n meddwl bod Preacher yn ei guro. Ydi, mae’r gyfres gynta braidd yn ara deg, ond mae’r rhai ohonom ni sydd wedi darllen y comics yn gwybod bod ‘na bethau mawr iawn ar y ffordd. Os allen nhw gael getawê efo eu dangos nhw ar y teli. A beth bynnag, mae’r gyfres gynta yn cynnwys ambell i olygfa ymladd sy’n eiconig yn syth. Gewch chi ddarllen fy adolygiad o’r gyfres i gyd fan hyn. […]

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s