gan Elidir Jones
Amser edrych yn ôl ar y flwyddyn unwaith eto, gan osgoi’r holl stwff drwg a chanolbwyntio ar y da.
Wna i drio ‘ngora, beth bynnag.
Cyn i ni drafod gemau’r flwyddyn wythnos nesa – mewn print ac yn y podlediad – mae’n bryd edrych ar yr holl stwff arall sydd wedi’n ticlo ni. Ffilmiau, rhaglenni teledu, llyfrau a cherddoriaeth. Hyfryd, hyfryd. Dwi’n teimlo’n well yn barod.
Yn anffodus, dwi ddim wedi cael cyfle i chware unhryw gemau bwrdd newydd flwyddyn yma, na darllen unrhyw gomics newydd chwaith. Dwi wedi’ch gadael chi gyd i lawr. I gael gwybod am yr holl gemau bwrdd newydd, ewch i weld dewisiadau The Dice Tower. Ac ar gyfer comics… dwn i’m. Gofynnwch i unrhyw un ar hap ar Twitter.
Ond mae ‘na gymaint o stwff arall sydd wedi mynnu fy sylw. Fel…
Ffilm: Captain America: Civil War
Bois bach, dyma ddewis anodd. Roedd ‘na ambell i ffilm arbennig wedi eu rhyddhau flwyddyn yma, ond dwi’n meddwl – dwi’n meddwl – mai Captain America: Civil War sy’n cyrraedd y brig i fi.
Dwi wastad wedi edmygu’r ffilmiau Avengers am lwyddo gwasgu cymaint o gymeriadau i mewn, a rhoi stori i bob un ohonyn nhw sy’n gwneud synnwyr ac yn slotio’n berffaith i mewn i’r naratif mwy. Wel, mae Captain America: Civil War yn gwneud yr un peth… ond hyd yn oed yn well… ac efo’r nifer o gymeriadau wedi mwy na dyblu. Sgen i wir ddim syniad sut wnaethon nhw hyn.
Ychwanegwch hynny at y portread gora o Spider-Man ar sgrîn erioed (o bell, bell ffordd), golygfeydd ymladd sydd yn hwyl gwyllt ac yn meddwl rhywbeth ar yr un pryd, baddie ac iddo gymhelliad go-iawn i wneud yr holl bethau ffiaidd ‘na, effeithiau chwyldroadwy (Robert Downey Jr ifanc!), a Chadwick Boseman fel Black Panther yn rheoli’r sgrîn unrhyw bryd mae o arni, ac mae ganddoch chi rysait ar gyfer ffilm popcorn berffaith.
Jyst gwnewch yn siŵr eich bod chi ‘di gweld yr holl ffilmia Marvel eraill gynta. Wnewch chi’m deall dim byd fel arall.
Dewis Arall: Rogue One: A Star Wars Story
Fel dwi’n deud. Dewis anodd. Yn enwedig achos mai jyst neithiwr welis i Rogue One am y tro cynta, a ddim wedi cael cyfle i brosesu’r profiad eto. Aeth o heibio i fy holl ddisgwyliadau, ac yn ddechrau penigamp i’r holl sbin-offs Star Wars sy’n mynd i’n bombardio ni bob blwyddyn tan i ni gyd farw.
Mae’r cymeriadau newydd i gyd yn wych ac yn gwneud i chi fod isio gweld mwy, mae’r effeithiau (heb sbwylio dim) hyd yn oed yn fwy chwyldroadwy na Civil War, mae ‘na gymaint o wyau pasg neis ar gyfer nyrd Star Wars fel fi, ac ro’n i’n gwylio rhan helaeth o’r ffilm yn gegagored. Mae’n siŵr gen i y bydda i’n gwylio hon lot mwy na Civil War yn y dyfodol ‘fyd. Ond dwi’n meddwl jyst oherwydd y gamp o ddweud stori dealladwy ac effeithiol efo gymaint o gymeriadau, ffilm Marvel sy’n cael y nod flwyddyn yma. Jyst abowt. Ella.
O, mae Arrival yn wych hefyd. Ond dwi ddim am ychwanegu ffilm arall i’r mics. Dwi’n ddigon conffiwsd yn barod.
Rhaglen Deledu: Game Of Thrones
Ia, dwi’n gwbod ein bod ni wedi dewis Game Of Thrones fel y rhaglen orau flwyddyn diwetha ‘fyd. Ond roedd y gyfres yma oddi ar y tsaen. Ar ôl dipyn o droedio dŵr, mae’n teimlo o’r diwedd fel bod y dominos yn disgyn i’w lle, a bod y byd yma’n paratoi ei hun ar gyfer y smackdown mwya a welodd teledu erioed.
Ac er bod y gyfres yma wedi cynnig digon o stwff ‘da ni wedi bod yn ei ddisgwyl ers i’r holl beth ddechra, mae’n rhaid dweud mai’r golygfeydd annisgwyl oedd fwyaf trawiadol. O ddial tanllyd Cersei ym mhennod deg, i’r ergyd emosiynol yna ar ddiwedd pennod pump. Os ‘da chi ddim wedi gweld y gyfres, arhoswch i ffwrdd o’r clip ‘ma, wrth reswm. Fydd o ddim yn gwneud math o synnwyr, beth bynnag. Ond os ydych chi’n hen gyfarwydd â Thrones… wel, mae’n bryd estyn am yr hancesi ‘na. Eto.
Os oes ‘na bethau hyd yn oed yn fwy ar y ffordd – a mae ‘na, dwi’n siŵr – dwi’n ein gweld ni’n dewis GoT fel rhaglen y flwyddyn tan i’r holl beth ddod i ben yn 2018.
Ond wedyn fydd ‘na sbin-offs, debyg. Gwd thing.
Dewis Arall: Preacher
Ro’n i bron a dewis rhaglen arlein Louis CK, Horace And Pete, fan hyn. Ond dwi’n meddwl bod Preacher yn ei guro. Ydi, mae’r gyfres gynta braidd yn ara deg, ond mae’r rhai ohonom ni sydd wedi darllen y comics yn gwybod bod ‘na bethau mawr iawn ar y ffordd. Os allen nhw gael getawê efo eu dangos nhw ar y teli. A beth bynnag, mae’r gyfres gynta yn cynnwys ambell i olygfa ymladd sy’n eiconig yn syth. Gewch chi ddarllen fy adolygiad o’r gyfres i gyd fan hyn.
Llyfr: Keza Macdonald & Jason Killingsworth – You Died: The Dark Souls Companion
Mae’n siŵr gen i bod ‘na ddigon o lenyddiaeth barchus wedi ei gyhoeddi flwyddyn yma. Ond ‘da chi ddim yn disgwyl i ni roi sylw i’r nonsens yna ar Fideo Wyth, does bosib.
Mae You Died yn lyfr am gemau. Y gyfres Dark Souls, yn benodol, sy’n haeddu digon o drafodaeth ddifrifol. A does neb gwell i wneud hynny na Keza Macdonald, fy hoff newyddiadurwr gemau, heb os, a rhywun sydd wedi bod efo’r gyfres ers y cychwyn. Mae ‘na ddyn o’r enw Jason Killingsworth wedi cyfrannu i’r llyfr hefyd, ond dwi’m yn gwbod unrhywbeth amdano fo. Keza ‘di’r boi.
Fe gawn ni’n tywys drwy bob agwedd o’r Dark Souls cynta, ar ben clywed am brofiadau personol efo’r gyfres, darllen sylwadau’r dylunwyr, ddod i ddysgu am ddatblygiad y gêm… allwch chi ddim gofyn am fwy, deud y gwir. Hanfodol i unrhyw un sydd erioed wedi cymryd cam i fydoedd dychrynllyd Lordran, Drangleic, neu Lothric.
Dewis Arall: Mike Eserkaln – Cards With The Devil
Nofel gynta Mike Eserkaln -un o’r digrifwyr mwya poblogaidd ar y rhaglen Beer & B0ard Games, sydd wedi cael dipyn o sylw fan hyn dros y blynyddoedd. Mae o am ddyn sy’n gwneud bargen Ffawstaidd er mwyn ymestyn ei fywyd… a wna i ddim sbwylio mwy na hynny. Fedrwch chi gael gafael ar y llyfr fan hyn.
Record: Weezer – Weezer [The White Album]
Do’n i ddim yn siŵr o’n i isio cynnwys categori cerddoriaeth flwyddyn yma, er bod ‘na ddigon o stwff da wedi dod allan. ‘Da ni ddim fel arfer yn trafod cerddoriaeth ar f8, wedi’r cwbwl, oni bai am ddarnau achlysurol Osian Llew.
Ond mae nerd cred Weezer wastad wedi bod drwy’r to, ers iddyn nhw ganu am Dungeons & Dragons a’r X-Men ar eu record cynta. Mae eu trafod nhw ar f8 yn gwneud lot o synnwyr. A beth bynnag am hynny, mae’r albym diwetha, The White Album, yn dipyn o gampwaith.
Hyd yn oed pan mae pawb wedi bod yn ddigon hapus yn cicio Weezer tra’u bod nhw lawr, dwi wastad wedi ffeindio rhywbeth i’w hoffi am eu albyms nhw. Oni bai am Hurley. Mae Hurley yn rybish. Ond dwi’n falch o ddweud does dim rhaid gwneud esgusodion am eu cynnyrch diweddar. Everything Will Be Alright In The End (2014) oedd yr albym gora ers Pinkerton (1996), yn sicr, ac mae The White Album yn cyrraedd yr un safon, os nad yn well. Does ‘na ddim dud ar yr holl record, o “Thank God For Girls”, i “California Kids”, i “King Of The World”… a fysa “Endless Bummer”, fy ffefryn personol, yn ffitio mewn ar unrhyw record gan y Beach Boys. Perffeithrwydd.
Mae hyd yn oed y stwff gafodd ei adael oddi ar yr albym yn bril, fel “I Love The USA”, y fideo mor-ddrwg-mae’n-dda yn serennu’r digrifwr Patton Oswalt. A dydi o erioed wedi cymryd cam o’i le.
Dewis Arall: Bad Lip Reading – “Bushes Of Love”
Ddim yn albym, ond motsh. ‘Da ni yn f8 HQ yn hollol obsesd efo’r gân yma. Os ‘da chi ddim wedi gwylio’r fideo, jyst gwnewch.
Mae gallu gwneud cân allan o glipiau amrywiol o Star Wars wedi eu dybio’n wael yn un peth, ond i wneud cân briliant? Dwi wir ddim yn deall sut mae’r boi yma’n ei gwneud hi.
A wnaeth o ddim stopio fanna. Dyma Yoda yn canu cân hurt am wylanod, a dyma gast y ffilm High School Musical yn canu clasur pop sy’n syth allan o Grease… oni bai am y ffaith bod y geiriau ddim yn gwneud unrhyw fath o synnwyr.
Ond “Bushes Of Love”, wedi ei rhyddhau ar Ionawr y 1af, sy’n dal i gipio’r goron. Pawb efo’i gilydd ‘wan…
“49 times, we fought that beast…”