gan Daf Prys, Elidir Jones a Joe Hill
Elidir: Dwi ddim isio brolio, ond dwi ‘di chwarae llwyth o gemau flwyddyn yma. Ac wedi gorffen 18 ohonyn nhw. Does neb yn fwy cymwys i roi rhestr ffwrdd-a-hi fel hyn at ei gilydd na fi. Felly dwi ddim isio unrhyw ddadlau. Dallt?
Daf: Ia wir, Elidir sydd ar frig rhestr cwdyn blew y flwyddyn.
O’n i’n gofyn am drwbwl fanna.
Dwi ddim wedi profi gymaint ac Elidir, ond ansawdd sy’n bwysig, ac wrth edrych nôl, blwyddyn i fyny ac i lawr ma hi wedi bod i fi.
Mae ‘na lwyth o gemau gwych jyst y tu allan i’r pump uchaf. Doom. Far Cry Primal. Ac wrth gwrs, No Man’s Sky.
Jocian.
Waw, Elidir yn cael 2016 dda, ennillyd gwobr jôc waetha’r flwyddyn. I fod yn deg i No Man’s Sky mae’r datblygwyr yn adeiladu ar y gêm wreiddiol a cawn weld os bydd gwelliant yn 2017. I mi mae angen mensh i Deus Ex: Mankind Divided jysd abowt tu allan i’r pump ucha ac hefyd Overwatch.
Joe: Fi wedi bod yn edrych dros ein rhagolygon ni flwyddyn diwetha.
Hei, Joe! Mae Joe yma!
Shh.
Piti fydd angen aros tan 2017 at gyfer WiLD a Horizon: Zero Dawn, ond fe gawsom ddigon o gyfleoedd i ddefnyddio bwa a saeth mewn gemau megis Far Cry Primal a Rise of the Tomb Raider. A hefyd, Daf – The Last Guardian. Ar y silffoedd wedi’r cwbl. Lle mae’r fiver yna?
Be? Sori? Be?
Dyma’r flwyddyn imi stopio chwarae Destiny o’r diwedd, ac felly cael digon o amser i glirio’r pentwr gemau a dablo mewn ambell glasur ar y PSN. Nes i ddim cyffwrdd The Division yn fwriadol i osgoi dipyn bach o sefyllfa Groundhog Day…
‘Dio’m yn helpu fod gen ti, timo, teulu, a thŷ newydd, a job i’w gadw.
Gwir, ond mae wastad amser i neud y pethau da chi’n ei garu … plys mae gen i man-shed nawr… felly dwi wedi bod yn profi PSN treats – Far Cry 3: Blood Dragon, Journey …
…errr Joe, 2016…
The Warriors, Saints’ Row, Never Alone…
Joe, rhestr 2016 ‘di hwn i fod!
Druan â fi gen i deulu a morgais a…
Ah, the Bob Crachit routine. Nicely done Joe. Nicely done.
Ond o ran y gorau o’r gorau, o 2016 Joe, dyma ni. Strapiwch eich hunain i mewn.
Rhif 5
Rhif 5 yn fy rhestr i ydi’r gêm blatfform 2D hipster Shu. A dwi ddim yn gorfod wastio amser yn trafod y peth achos wnes i fideo yn barod. Dwi’n glyfar fel’na.
Yr unig beth i’w ychwanegu: Shu. Shuuuuu. Shuuuuuuuuuuuuuuu. Diawl, mae’r enw ‘na’n hwyl i’w ddweud.
Yn syrthio yn berffaith i fi fel rhif 5 mae Uncharted 4: A Thief’s End.
Wel, na, i neud e’n berffaith bydd hwn yn rhif 4 ar dy rhestr. Mae gen i PhD mewn maths ac OCD, fi’n deall y pethau yma. A beth bynnag, mae’n uwch ar fy rhestr i. Gawn ni drafod y peth bryd hynny, siawns.
Ooh, matron.
Rhif 5 oedd The Witness, os chi’n gofyn i fi. Posau hollol wych, ond yn anodd. Siom fod y posau yn cymryd yr un trywydd braidd o ran gweithred gêm, ond efo aestheteg dramatig a naws arallfydol yn cynnig profiad unigryw iawn.
Rhif 4
Rhif 4 gen i, a’r mwyaf o hwyl dwi wedi ei gael efo’r Playstation VR hyd yn hyn – Thumper, y gêm rhythm sydd wedi rhoi mwy o freuddwydion intense i fi nac unrhyw gêm ers Tetris. A sbiwch! Fideo arall! Fe all hwn ddod yn thema.
Dwi yn barod yn edrych ymlaen i sgwennu y geiriau ‘number two’. Ydy hynny’n neud fi’n anaeddfed? Ta waeth un peth sydd wedi aeddfedu y flwyddyn hon yw’r genre ‘walking sim’ ac esiampl perffaith yn dod i fewn yn 4ydd ar fy rhestr: Firewatch.
Ie, ond mae’r un yma nes ‘mlaen gen i hefyd.
A fi.
Bloomin’ Nora.
Rhif 4 i fi, Pro Evolution Soccer 2016 (efo clawr Cymraeg – iei Konami!). Piti am y diffyg opsiynau arlein er mwyn i f8 chware fel Cymru efo’n gilydd, ond dal, Cymru yn yr Ewros a chlawr Cymraeg gan gyhoeddwyr enfawr fel Konami! Mi fydd yn aros yn y cof am sbel.
Rhif 3
Rhif 3 i fi? Overwatch. Er ‘mod i ddim yn rhy cîn ar y gêm i ddechra, mae hon wedi troi yn dipyn o ffefryn, a ddim yn uwch ar y rhestr am gwpwl o resymau bach pitw. Yn un peth, dwi ddim yn dueddol o fod yn hoff o gemau saethu ar-lein yn unig. Mae’r ffaith bod Overwatch wedi dal fy sylw am gymaint o amser yn destament i ansawdd y gêm. Hefyd, ac yn bwysicach byth, mae o mor annifyr pan ‘da chi’n marw achos tîm rybish. Eu bai nhw ydi o. Bob tro.
Ond fel arall, hwyl gwyllt, a gêm fydda i’n chwarae eto ac eto.
Rhif 3 i finnau, ac wwww, hanner ffordd, sy’n digwydd bod yn gyd-ddigwyddiad braidd oherwydd The Division, sy’n gem hanner ffordd rhwng, yrm … nai feddwl am rywbeth clyfar i glymu y ddau agwedd at ei gilydd yn y man. Gêm post-viral outbreak yn Efrog Newydd sy’n cymryd lle yn ystod y Gaeaf. Dod â threfn i’r ddinas yw’r nod, ac i fi, y ddinas ei hun, yr Afal Fawr, sy’n dod â’r gêm yma yn fyw. A bach o eira. Fy ddau hoff beth mewn un lle! A pizza. Mae ffaeleddau ond mae ‘na reswm pam wnesi dreulio oriau maith yn crwydro strydoedd unig The Division. Top notch.
Hanner ffordd rhwng Boston a Philadelphia! ‘Na ni. Dyma ni’n bymblo o gwmpas y gêm ar Y Lle.
Yn berffaith fel rhif 3 i fi (lol, Daf) – Uncharted 4: A Thief’s End. Wedi mwynhau wrth ei adolygu yn fawr iawn, ond wrth edrych nôl dyw e ddim cystal a’r 3 gêm cyntaf. Roedd y diffyg elfen paranormal yn y drydedd act yn od ac yn cynnig diweddglo fflat, ac roedd mecanwaith y fwyell ddringo wedi ei ddwyn o Tomb Raider. Sydd jysd yn rong.
Ie, cytuno. Heb gyd-destun y flwyddyn arwyddocaol hon, a petai Uncharted 1,2 a 3 ddim yn bodoli bydd hon ar dop y rhestr. Ond mae 1,2 a 3 yn bodoli, ac mae’r cawl yma’n dechrau blasu’n denau braidd, a ta waeth, mae 4 gêm arall gwell wedi dod allan. Dyma ein Joe Hill BA hons PhD OCD yn ymateb iddo:
Rhif 2
Rhif 2 ar fy rhestr i, ac un sy’n agos iawn at fod yn rhif 1 – Dark Souls 3. Fideo!
Yr unig reswm dydi DS3 ddim ar dop y rhestr ydi bod ‘na ambell bwynt lle mae’r peth yn dod fymryn bach rhy anodd, allan o nunlle. Sy’n gŵyn hollol stiwpid i wneud am Dark Souls, dwi’n gwbod. Caewch hi.
Wedes i ddim byd.
Dwi jyst isio cymryd y cyfle yma i ddweud bod trio curo’r Nameless King yn brofiad gwaeth na chael cinio Nadolig yn KFC Bae Colwyn, neu rannu carafan yn Prestatyn efo Wynne Evans, a ddylsa pwy bynnag gynlluniodd y bos yna gael ei dywys rownd y bac a’i saethu. Ond biwt o gêm fel arall. OK, geith rhywun arall fynd rŵan.
Fi de, ond anodd iawn yw dilyn y syniad o Dolig yn KFC Bae Colwyn. Er, bydd gwneuthurwyr y gêm yn hapus gan fod nhw’n dod o Siapan. Ie? Chimo? Achos Siapan? A Dolig? A KFC? Na?
Na.
Rhif 2 i fi ar y rhestr yw gêm fychan o’r enw Allumette. Ffilm VR fechan ydi hon go iawn, yn hytrach na gêm, ond i fi mae’r cysyniad o unrhyw elfen VR ar hyn o bryd yn perthyn fan hyn, ym myd gemau fideo. Does dim gwasgu botymau, na agor drysau, na dim byd o’r fath ond edrych – ond sut ‘da chi’n edrych yw’r elfen anhygoel. Bod yn rhan o stori hogan fychan wrth iddi ymdopi efo sefyllfa truenus drwy dechnegau VR. A dyna sy’n ei neud yn brofiad mor ysgytwol – yr agoriad byd mae wedi cynnig i mi gan ddangos wir botensial VR.
Rhif 2: Rise of the Tomb Raider (PS4 2016, dwy’r Eggs-Bocs ddim yn cyfri).
Twyll.
Gwneud popeth roedd Uncharted yn gwneud ond yn well.
Woah there.
Ac wedi gosod mecanwaith y fwyell dringo… ddim yn gwybod pam dwi’n obsessio dros hwnna.
Rhif 1
A dyma ni. Fy hoff gêm o’r flwyddyn. Drumroll, plis.
Wedi blino gormod. Sori.
Firewatch. Ddim yn gêm wnes i chwarae am wythnosau maith, ond un sy’n sicr yn aros yn y cof, efo ella yr ysgrifennu gora dwi erioed wedi ei weld mewn gêm. Ac yn bwysicach byth, fedra i ddim meddwl am unrhywbeth o’i le efo Firewatch. Dim un peth. Dwi’m yn cofio’r tro diwetha i fi allu dweud hynny am gêm. Dydi o’m yn gwneud sens i Firewatch beidio bod ar frig y rhestr felly, nadi? Gwyddoniaeth, bois.
Cytuno. Firewatch i fi hefyd. Byr, ond amazing. Sgwennu da, efo dewisiadau i’w wneud yn yr intro yn sicrhau ergyd emosiynol. Ac ydi, mae Daf yn amlwg yn rong eto. Argoeli’n dda iddo yn 2017 dydi?
Watch it. Ia, dyma gêm sydd efo mwy o lefelau na Level 42, yn cynnig stori penigamp, cymeriadaeth cywrain ac aesthetig brydferth. Wotsh ddis sbes am fwy o waith gan Campo Santo, y gwneuthurwyr.
Ond yn berffaith i fi fel rhif 1 (Ha, Joe) – Battlefield 1. Gêm arlein perffaith, yn ailgydio efo rhai o frwydrau mwya enwog y Rhyfel Byd Cyntaf. Pan mae’r gêm ar ei orau does dim un profiad yn debyg iddi, gan lynu at ei gilydd agweddau gorau brwydro arlein efo cael hwyl efo’ch cyfeillion. Blockbuster go iawn o gêm a’r peth, ar ben perffeithrwydd gweithred gêm a’r graffeg anhygoel, sy’n ei ddod a hi i frig y rhestr yw’r ffaith fy mod yn gwybod bydd hon yn cael sbin gen i am flynyddoedd i ddod. Da iawn wir 2016. Wel, chimo, ym myd gemau fideo ta waeth…
Y cwestiwn mawr ydi, a all 2017 wneud yn well?
Wel, wrth gwrs. Wnaeth David Bowie farw flwyddyn yma.
Na, ym myd y gemau o’n i’n feddwl.
O.
Fi’n credu y gall e.
Eisiau rhoi fiver ar y peth?
Na.
[…] Roedd hon ar rhestr 2016 f8, ond fe gafodd ei ohirio tan Chwefror 2017. Mwy o amser i’r tîm tu ôl i Killzone i berffeithio yr antur newydd am ddynes yn hela ei gelynion robo-deinosor efo bwa a saeth. Dim picell ddringo tro hyn, felly gawn weld sut fecanig ddringo fydd gen hi (gweler trafodaeth Uncharted 4 a Tomb Raider am gêm y flwyddyn…). […]