Overwatch: Rhai Sylwadau

gan Elidir Jones

Mae’r gêm saethu newydd (Ydi o’n FPS? Ydi o’n MOBA?) gan Blizzard, Overwatch, wedi bod ar ein radar ni yma yn f8 HQ am sbel. Gyda’r Beta agored bellach wedi mynd a dod, ges i gyfle i destio’r dyfroedd fymryn cyn rhyddhau’r gêm llawn ar Fai 24. Felly. Be wnes i o’r profiad?

Wel…

I ddechrau, amod bach. Dwi ddim, fel arfer, yn ffan o gemau saethu cystadleuol fel hyn. Wnes i ddarllen llyfr yn ddiweddar (You Died gan Keza MacDonald a Jason Killingsworth – dwi’n ei argymell) oedd yn cynnig bod posib ffitio chwaraewyr gemau i un o sawl categori – o “archwilwyr”, sy’n hoff o grwydro’r byd a deifio i mewn i’r stori (fi yn sicr), i “gwblhawyr”, sy’n hoff o wneud bob un dim mewn gêm a chasglu’r tlysau sgleiniog ‘na i gyd (helo Joe Hill), i “gystadleuwyr”, sy’n cael y mwyaf o wefr allan o gemau fel hyn.

Dwi ddim yn un ohonyn nhw. O gwbwl.

Felly pan dwi’n dweud fy mod i ddim mor hoff o’r gêm ag o’n i’n disgwyl bod, gobeithio fydd Blizzard ddim yn cymryd hynny’n bersonol. Dim fi ydi’r gynulleidfa darged, ac mae hi’n gynnar iawn yn natblygiad Overwatch, wedi’r cwbwl. Ond mae ‘na gwpwl o bethau sy’n fy mhoeni i…

Yn gynta, y pethau positif. Mae’n edrych yn brydferth ofnadwy. Mae ‘na rywbeth eiconig am y gwaith dylunio, dwi’n meddwl, gyda rhai cymeriadau’n debyg o ddod yn ffefrynnau ymysg pantheon enfawr Blizzard.

zanya

Ac mae ‘na ddigon o ddewisiadau o ran cymeriadau, ac felly, o ran steiliau chwarae. Ges i ddim cyfle i chwarae fel pob un, o bell ffordd, ond dwi’n barod yn gweld bod y dewis cymeriadau ar ben ei hun yn cynnig digon o reswm i barhau i chwarae. O ran fy ffefrynnau hyd yn hyn, mae’n rhaid i fi fynd am…

Widowmaker
Dynes efo sniper rifle sy’n medru lawnsio ei hun ar draws y lle ar raff fel Batman, a gweld amlinelliad y gelyn drwy waliau. Eto, fel Batman. Dwi’n hoff o Batman.

Junkrat
Boi budur, anifeilaidd o Awstralia sy’n troi i mewn i deiar haearn sbeici a lawnsio ei hun at y gelyn pan mae o’n colli ei dymer. As you do.

Mercy
Fy hoff gymeriad ohonyn nhw i gyd. Angel sydd, er ddim yn bwerus iawn ei hun, yn gallu arbed y chwaraewyr eraill wrth bwyntio pelydryn diddiwedd o olau llesol tuag atyn nhw. Mae o fel chwarae fel un o’r Ghostbusters. Ond efo adennydd. Bril.

I fod yn onest, meistroli’r holl gymeriadau ydi’r rheswm gorau i fynd ymlaen efo Overwatch ar y funud. Does ‘na ddim byd i’w ddatgloi oni bai am newidiadau cosmetig – edrychiadau gwahanol, neu linellau newydd o ddeialog i chi gael sbamio pan mae pethau’n mynd yn dda a / neu’n sgi-wiff. Ac, OK, mae ‘na gannoedd o’r pethau ‘ma i’w datgloi, ond dydyn nhw ddim yn newid y gêm mewn unrhyw ffordd bwysig.

Yn waeth na hynny, dydi’r gêm ar y funud ddim yn cynnig llawer iawn o amrywiaeth – a dim dewis – o ran ffyrdd o chwarae. ‘Da chi’n cychwyn gêm, yn cael eich taflu i mewn i lefel ar hap… a dyna ni. Ar ôl gorffen, ‘da chi’n cael eich taflu mewn i lefel arall. Rinse. Repeat. Ro’n i wir isio chwarae Overwatch am oriau ar y tro. Dyddiau, hyd yn oed. Ond do’n i ddim yn gallu magu’r brwydfrydedd i wneud.

Wrth gwrs, fersiwn Beta o’r gêm oedd hwn. Fel arfer, mae ‘na gymaint mwy yn cael ei ychwanegu pan mae gêm yn glanio ar y silffoedd. Ond fe wnaeth Blizzard ollwng dipyn o fom wythnos yma pan wnaethon nhw gyhoeddi mae dyma’r un fersiwn – fwy neu lai – sy’n mynd i gael ei lawnsio ar ddiwedd Mai. Mae ‘na stwff am gael ei ychwanegu lawr y lein, wrth gwrs. Ar ben y cymeriadau a lefelau newydd sy’n bownd o ymddangos, mae wir angen dipyn mwy o asgwrn cefn – rhyw fath o gynghrair, er mwyn i chi deimlo eich bod chi’n cyflawni rhywbeth wrth chwarae. Mae’r pethau yma wedi bod yn Hearthstone, Starcraft, a phob un o gemau cystadleuol Blizzard, yn syth allan o’r giât. Mae’r ffaith y bydd ‘na ddim byd fel hyn yn Overwatch pan mae’n cael ei lawnsio braidd yn nyts.

Ar ben hyn i gyd, dwi wedi clywed sïon, ymysg pobol sydd yn hoff o gemau fel hyn, bod Overwatch ddim yn ddigon cystadleuol: bod o’n rhoi dipyn gormod o help llaw i’r chwaraewr, i’w gymharu efo clasuron y genre fel Counter-Strike Team Fortress 2. Ar y funud, dydi o ddim i’w weld yn apelio at ei gynulleidfa graidd, sy’n broblem pan ‘da chi isio i gêm fod yn fawr yn y sîn e-chwaraeon.

Mae gen i gopi o’r gêm wedi ei archebu’n dal i fod. Dwi’n dal i ddisgwyl y bydd Overwatch yn llwyddiant, ac ella wir y bydda i’n dod i’w werthfawrogi yn y man. Ond dim yn syth. Mae gan Blizzard yr adnoddau, yr ewyllys da, a’r talent i wneud i’r gêm lwyddo… i gyd sydd angen arnyn nhw, fel y gwela i, ydi amser.

Disgwyliwch adolygiad fideo llawn o Overwatch wedi’r lawnsio i weld wna i newid fy meddwl rhywfaint. Tan hynny – oes unrhywun arall wedi cael cyfle i’w brofi? Cytuno efo fi? Meddwl ‘mod i’n siarad trwy fy het, fel arfer? Rhowch wybod.

2 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s