Fi a’r Vive… (Rhan 1)

on

gan Elidir Jones

Steddwch lawr bawb. Dwi’n mynd i chwythu’ch brêns.

Neu… dwi’n mynd i drio, beth bynnag.

Y diwrnod o’r blaen, fe gafodd gyfri Twitter Fideo Wyth neges allan o nunlle gan Meurig Hughes. Mae Meurig yn athro ysgol gynradd sydd wedi gwneud dipyn o waith efo’i ddisgyblion yn rhoi arweiniad iddyn nhw ar dechnoleg, gemau, a’r we. Fe allwch chi weld dipyn o ffrwyth ei lafur fan hyn. Mae o hefyd yn amlwg yn dipyn o tech-head. Achos mae ganddo fo HTC Vive, a stafell cyfa o’i dŷ (neu “holodeck”, os hoffwch chi) wedi ei neilltuo iddo fo.

A wnaeth o’n gwadd ni, o bawb, i’w drio fo.

Mae’r gwahoddiad i ddianc rhag pob dim a neidio i’r rhithfyd yn un anodd i’w wrthod. Mae’n anoddach byth pan ‘da chi’n byw ym Mangor. Felly ffwrdd â fi, yn hapus braf.

Cyflwyniad sydyn: yr HTC Vive ydi’r Ferrari o helmedau VR. Nid yn unig ydi o’n gofyn am rig fymryn mwy swmpus na’r Oculus Rift, mae o hefyd yn cynnig profiad dipyn gwahanol. Yn hytrach nac eistedd i lawr efo rheolydd traddodiadol yn eich llaw, ‘da chi’n cerdded o gwmpas, yn ymateb i’r byd mewn ffordd dipyn mwy naturiol. Dwi wedi cael trio’r Oculus cwpwl o weithiau mewn sioeau, ond roedd hwn yn argoeli’n brofiad gwahanol iawn. Dewis dipyn gwell o gemau, dim sŵn torfeydd o’ch cwmpas chi ym mhobman, a digon o amser i adael i’r peth suddo i fewn.

Fel ‘da chi’n ei sylweddoli (gobeithio), mae’n brofiad sy’n anodd iawn ei ddisgrifio mewn geiriau. Ond dyna’n union be dwi’n mynd i drio ei wneud. Os dwi ddim cweit yn gallu disgrifio pwysigrwydd y peth, mae’n ddrwg gen i. Ond ga i jyst ddweud ar y top, rhag ofn bod ‘na unrhyw amheuaeth – mae hwn, bois, yn mynd i newid popeth.

Tiwtorial

Y peth cynta ‘da chi’n ei weld, pan yn strapio’r Vive ar eich pen am y tro cynta, ydi stafell lwyd. Mae ‘na wely yna, a silffoedd, a chegin fach, ac mae’n edrych yn ddigon prydferth, ond does ‘na ddim lot yn digwydd.

Ac wedyn mae popeth yn disgyn yn ddarnau o’ch cwmpas chi. Mae’r gwely yn disgyn i lawr, y silffoedd yn plygu i mewn ar eu hunain, a’r llawr yn gollwng o flaen eich traed. Os ‘da chi fel fi, wnewch chi neidio allan o’ch croen. Ac er bod y graffeg yn syml, mae popeth yn edrych mor, mor real.

Mae ‘na robot bach yn ymddangos i’ch tywys chi drwy bethau. Mae’n esbonio bod ‘na grid yn ymddangos pan ‘da chi’n camu’n rhy agos at waliau eich ystafell, ac wedyn mae’n eich cyflwyno chi i’r rheolyddion. Ac mae nhw’n briliant.

160129-Vive-V1PT5-CV1-Ortho_w_600

Ella dydyn nhw ddim yn berffaith ar gyfer gemau mwy cyflym sy’n golygu lot o symud o gwmpas, ond o ran y profiadau mwy statig mae’r Vive yn ei gynnig, mae nhw’n gweithio yn berffaith. ‘Da chi’n edrych i lawr ac yn eu gweld nhw yn y byd efo chi, efo arwyddion yn dweud be mae’r botymau yn eu gwneud os ‘da chi’n anghofio. Weithiau, wrth gwrs, mae nhw’n troi yn ynnau, neu’n fŵa saeth, neu be bynnag. Ac mae nhw’n tracio eich symudiadau chi yn well nac unrhywbeth dwi erioed wedi ei brofi o’r blaen. Fedrith rhywun daflu un atoch chi o ochr arall y stafell, ac mae’n berffaith bosib ei ddal, er na allwch i ei weld o yn y byd “go-iawn” o gwbwl. Dim byd llai na gwyrthiol.

Efo’r cyflwyniad yna allan o’r ffordd, a minnau’n dal i drio lapio fy meddwl rownd y peth, roedd hi’n bryd neidio i mewn i’r profiad go-iawn cynta…

theBlu

Felly. Dwi’n sefyll ar graig fach, ymhell o dan y môr. Mae ‘na bysgod bach yn nofio o ‘nghwmpas i. Yn reddfol, dwi’n gwneud fy ngora i’w hosgoi nhw, ond pan mae nhw’n fy nghyffwrdd i – dwi’n gaddo – mae ‘na ryw deimlad o gael fy nhiclo yn rhedeg drwy fy nghorff. Cwbwl ddychmygol, wrth gwrs. Nyts.

A wedyn dwi’n ei weld o.

Morfil glas. Yn nofio’n syth ata i.

Dyma foment fawr fwya fy mhrofiad. Dwi’n eitha siŵr bod fy ngheg wedi disgyn ar agor, ond dwi’n gwybod ‘mod i wedi dycio wrth i’w asgell lithro dros fy mhen i. Wnaeth o stopio i syllu arna i, ei lygad enfawr reit o flaen fy ngwyneb. Mae’n rhaid i fi ddweud, ro’n i chydig yn betrusgar yn syllu’n ôl – oherwydd bod y morfil braidd yn fygythiol, a hefyd oherwydd do’n i ddim cweit yn gallu prosesu be oedd yn digwydd i fi.

Ar ôl hynny, es i hyd yn oed ymhellach o dan y dŵr, yn sgleinio golau ar bysgod rhyfedd gwaelodion y môr yn disgleirio’n annaturiol yn y tywyllwch. Dyma’r union brofiad heddychlon ro’n i’n edrych ymlaen ato, ond ro’n i’n cael trafferth canolbwyntio achos… c’mon. Ro’n i newydd weld morfil glas. Reit o ‘mlaen i. Be wnaethoch chi efo’ch nos Fawrth?

TiltBrush

Rhaglen ddarlunio, sy’n cnocio Mario Paint i mewn i het. Ac mae Mario Paint yn wych. Deud mawr felly.

Yn TiltBrush, ‘da chi mewn ciwb gwag. Gewch chi ddewis y cefndir – mynyddoedd, neu sêr, neu beth bynnag. Mae un rheolydd yn frwsh, a’r llall yn rhoi nifer gwirion o opsiynau i chi o ran be ‘da chi isio ei baentio. A wedyn… ffwrdd â chi.

Wnes i lun digon syml o wyneb bach cartwnaidd. Yr un math o ddŵdl dwi ‘di bod yn ei wneud am ddegawdau. A wedyn wnes i gamu o’i gwmpas o, a gweld y llinellau unigol yn gwahanu. Gerddais i o’i gwmpas o i weld yr un llun, ond fel ei fod mewn drych, y strôcs o’r brwsh yn fflicro yn yr awyr fel tân.

Yna ges i bwyso botwm a gweld campweithiau gan bobol eraill – oedd yn gwneud i’r dŵdl plentynnaidd gen i edrych fel… wel… dŵdl plentynnaidd – yn ffurfio o flaen fy llygadau i. Wedi pwyso botwm arall, mae ‘na fannequin yn ymddangos, a dwi’n rhydd i baentio drosto fo rywsut dwi isio. Ar ben bod yn gêm fach digon handi ar ei ben ei hun, mae posibiliadau mwy difrifol rhaglen fel’ma yn amlwg hefyd, o ran dylunio a chynllunio a phethau felly. Ond mae hynny i bobol clyfrach na fi. Dwi jyst yn licio dŵdlo ti bo.

The Lab

Os oes gan y Vive ei Wii Sports, yna The Lab ydi o. Casgliad o brofiadau / gemau bach gan Valve (felly dyma be mae nhw wedi bod yn ei wneud yn lle Half-Life 3) wedi eu cynllunio i ddangos potensial y technoleg. Fel bod angen unrhyw brawf. Ges i drio llond llaw ohonyn nhw. Fel…

– Ges i fy ngollwng ar fynydd heddychlon (yn edrych eitha dipyn fel Eryri, ond rhywle yn nhalaith Washington oedd o, yn ôl y sôn), efo ci robotaidd, a casgliad o briciau wrth fy nhraed. Ro’n i’n rhydd i daflu darn o bren, gwylio’r ci’n neidio’n hapus ar ei ôl, ei diclo ar ei fol, a… dyna ni. Ond o’n i wrth fy modd efo hwn. Jyst mor heddychlon. O’n i isio ista i lawr ar gopa’r mynydd a mwynhau’r olygfa am oriau. Yn anffodus, ro’n i’n gorfod atgoffa fy hun ‘mod i yn nhŷ rhywun ar y pryd. Roedd angen symud mlaen.

– Profiad wedi ei leoli ym myd y gemau Portal. Wna i ddim sbwylio dim byd… ond ydi, mae GLaDOS yn ymddangos, a mae hi mor ddigri a dychrynllyd ag erioed.

– Gêm fach lle o’n i’n anelu saethau at ddynion bach cartwnaidd oedd yn trio ymosod ar fy nghastell. Rhag eu cywilydd nhw. Er bod y profiad ddim yn hir o gwbwl, roedd hwn yn hwyl gwyllt, ac er bod y graffeg braidd yn gartwnaidd, roedd y profiad chwarae yn fwy real nag unrhywbeth tebyg dwi ‘di ei chwarae. Roedd o’n teimlo fel saethu bŵa go-iawn. Wnes i hyd yn oed ddal fy hun yn cau un llygad er mwyn gallu’n anelu’n well. A wnaeth o weithio. Mam bach.

promo-image-3

– Profiad lle o’n i yng nghanol diagram o’r system solar, ac yn gallu taflu’r planedau o gwmpas y lle wili-nili. Ddim yn arbennig o ddwfn, ond mae’n dangos un ffordd syml sut y bydd VR, yn y man, yn chwyldroadwy yn myd addysg.

– Gêm arall reit syml, retro yr olwg, lle ‘da chi’n hedfan llong ofod bach o gwmpas y lle, yn osgoi bwledi ac yn saethu’r gelyn i lawr. Ddim yn ffôl, ond dwi’n teimlo bod y gêm nesa ‘ma yn gwneud y math yma o beth yn well…

Space Pirate Trainer

Gêm saethu arall, lle ‘da chi’n troi mewn cylch, yn ymateb i’r synau o’ch hamgylch, er mwyn goroesi ton ar ôl ton o elynion. Dim y cynta i fi chwarae yn ystod y sesiwn yma, a dim yr ola, ond dyma dwi’n meddwl oedd y gora.

Mae ganddoch chi ddau wn, yn un peth. Mae unrhyw gêm lle allwch chi bwyntio dau wn o’ch blaen a smalio fel eich bod chi mewn ffilm John Woo yn werth eich hamser, yn enwedig mewn VR. Ac, mewn nodyn bach hyfryd, os ‘da chi’n rhoi ei braich y tu ôl i’ch cefn a’i dynnu o ‘na, mae’ch gwn yn troi’n darian. Roedd sefyll yno efo tarian yn fy llaw yn rhoi vibes cryf The Legend Of Zelda i fi, a wnes i ddechra meddwl pa mor hollol hurt fysa gêm Zelda mewn VR. Wna i ddim dal fy ngwynt am hwnna, chwaith…

Ond na. Lot o hwyl. Caethiwus iawn. Ges i un o’r sgôrs ucha, hyd yn oed. Dwi ddim yn hollol rybish ym mhob un gêm. Onest.

A dyna le reit dda i orffen y rhan cynta ‘ma, am wn i, gan fy mod i wedi sgwennu traethawd am y profiad yn barod, a dim ond hanner ffordd drwadd ydw i. Dewch yn ôl wythnos nesa, pan fydda i’n mynd yn nyts dros rhywbeth mor syml â gwneud paned o dê mewn VR (na, go-iawn), ac yn trio cadw fy mhen rhag ffrwydro am ddigon hir i ddod at gasgliad.

Advertisements

2 Comments Add yours

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s