… y Vive a Fi (Rhan 2)

gan Elidir Jones

Os wnaethoch chi ddim darllen rhan cynta fy mhrofiad i efo’r HTC Vive, wnaethoch chi golli dyn yn dod yn agos at gael nervous breakdown, oherwydd bod y dechnoleg newydd ‘ma jyst mor anghredadwy. Wel, os ‘da chi’n hoff o’r math yna o beth, daliwch yn dynn, achos dwi ddim ‘di gorffen eto. Roedd y profiadau mwya unigryw, mwya diddorol, a’r mwya dychrynllyd eto i ddod…

Job Simulator

Mae ‘na lot o drafod wedi bod am y gêm yma, wedi ei leoli mewn dyfodol lle mae robotiaid wedi cymryd yr holl swyddi, ac mae pobol yn defnyddio VR i brofi’r wefr o weithio mewn bwyty, neu siop, neu swyddfa. Yn syml iawn, dyna’n union fyddwch chi’n ei wneud yn Job Simulator.

Job-Simulator-Kitchen2-1

Mae’n swnio fel y peth mwya diflas yn y byd. A dyna be ydi o, ar bapur. Ond mae Job Simulator, yn fwy na dim byd arall, ella, yn profi pa mor wahanol ydi sgwennu am VR a’i brofi o. Rhaid i chi ‘nghoelio i pan dwi’n dweud bod gwneud rhywbeth mor syml a phaned o de, yn Job Simulator, yn lot fawr iawn o hwyl. Mae’n pwysleisio agwedd gyffyrddol VR yn fwy na’r un gêm arall ges i brofi, a ro’n i wir yn teimlo cyfyngder y gegin o’m hamgylch wrth droi rownd mewn panics gwyllt achos mod i jyst – ddim – yn – gallu – ffeindio’r – crympets.

Edrych ymlaen yn fawr at feistroli hwn pan mae’n cael ei ryddhau ar Playstation VR ddiwedd y flwyddyn.

Be arall dwi’n mynd i wneud? Gweithio go-iawn? Dim diolch.

Fantastic Contraption

Gêm fach arall sy’n dangos cymaint o botensial sydd gan VR ym myd addysg. Yn Fantastic Contraption, ‘da chi’n cael pelen fach o sleim. Mae’n rhaid i chi ei gael o i darged ar ochr arall y lefel. I’ch helpu chi wneud hynny, ‘da chi hefyd yn cael amryw o wrthrychau amrywiol – motorau, balŵns, darnau o bren – er mwyn i chi allu gwneud peiriant i gludo’r sleim at y target. Mae ‘na sawl ffordd o glirio’r dasg, bob un tro. Yr unig beth rhyngddoch chi a llwyddiant ydi’ch dychmyg.

A ro’n i’n rybish. Yn hollol, hollol rybish.

Dwi erioed wedi bod yn dda efo petha fel’ma. Do’n i’m yn gallu gwneud llawer o sens allan o Meccano pan yn blentyn, a dwi’n gweld plant heddiw yn gwneud pethau yn Minecraft sy’n chwalu fy mhen. Felly dwi ddim yn meddwl bod hwn i fi. Ond dwi’n argymell bod athrawon neu rieni yn talu sylw agos i Fantastic Contraption a phrofiadau tebyg, er mwyn deall gymaint o ran y bydd VR yn ei chwarae yn natblygiad plant y dyfodol.

The FOO Show

Dwi’n ffan mawr o bodlediadau. Mae ‘na giw ohonyn nhw’n disgwyl yn amyneddgar yn fy ffrŵd iTunes bob bore. Felly mae unrhywbeth newydd yn y maes yna yn ddiddorol i fi. Ac mae The FOO Show yn sicr yn newydd.

Mae’r bennod gynta yn dechra mewn stiwdio deledu. Mae’r cyflwynydd, Will Smith (dim yr un yna) ar y llwyfan yn cyfweld dau o wneuthurwyr y gêm Firewatch. Mae edrychiad yr holl beth braidd yn syml, ar bwrpas, fel fideo Money For Nothing gan Dire Straits (neu, yn well byth, y parodi gan “Weird Al” Yankovic). Wrth iddyn nhw siarad, fedrwch chi ddewis lle i sefyll – reit wrth eu hymyl nhw, neu yn un o’r seti yng nghefn y stiwdio, neu unrhywle yn y canol. Ac yna mae’r olygfa yn shifftio… a ‘da chi yn y gêm.

‘Da ni wedi sôn o’r blaen ar f8 gymaint ‘da ni’n hoff o Firewatch. Dwi a Daf wedi trafod pa mor dda fyddai’r gêm mewn VR. Ac yn sydyn… dyma fo. Rhan bach, beth bynnag. Bril.

Ges i ddim gwrando ar y sgwrs i gyd. Alla i ddim dweud faint o effaith geith The FOO Show ar y byd darlledu. Ond mae’n sicr yn ticlo’r dychmyg, a dwi’n gobeithio gweld lot mwy o raglenni tebyg.

Vanishing Realms

Profiad dipyn mwy traddodiadol nesa – gêm ffantasi lle ‘da chi’n crwydro o gwmpas castell mawr sbwci a datrys posau. Os wnaethoch chi chwarae Dungeon Master neu Eye Of The Beholder ‘stalwm, fyddwch chi’n teimlo’n eitha cartrefol fan hyn. Y pethau syml oedd yn apelio unwaith eto – y teimlad o roi allwedd mewn clo a’i weld yn agor gyda *clic* foddhaol.

Fedra i ddim sôn gormod am pa mor dda ydi Vanishing Realms fel gêm. Wnes i ddim profi lot – mae angen amser ac amynedd i fwrw ymlaen efo gemau fel’ma. Doedd gen i ddim amser, a does gen i byth lot o amynedd. Ond wnaeth o gael y gêrs yn fy ymennydd i droi, a wnes i ddechrau meddwl am y posibiliadau unwaith eto. Yn fwy nac unrhyw genre traddodiadol arall o gemau, ella, mae ‘na fwy o botensial mewn VR ar gyfer gemau antur point & click nac unrhywbeth arall. Os dwi’n dechra dychmygu gêm VR Monkey Island, er enghraifft, neu Sam & Max, neu King’s Quest… o diar mi. Dwi’n dechra teimlo bach yn benysgafn.

The Brookhaven Experiment

Profiad ola’r diwrnod. A do’n i ddim yn mynd i adael cyn saethu zombie neu ddau.

Ro’n i wedi clywed am The Brookhaven Experiment o flaen llaw. Neu weld fideos ohono fo, o leia. Gan gynnwys yr un yma.

Mae profiadau arswyd mewn VR yn hollol ddychrynllyd, medden nhw. Does gen i ddim llawer o awydd trio’r rhai gwaetha, ond roedd yr un yma’n ymddangos yn ddigon ysgafn i fi allu ei handlo. A dyna be oedd o. Dim byd rhy ffôl, ond dwi’n meddwl bod Space Pirate Trainer (gweler y cofnod diwetha) dipyn gwell. Y prif apêl, wrth gwrs, ydi’r cyfle i neidio mewn braw wrth i zombie ymddangos yn sydyn y tu ôl i chi. Ond wnes i ddim cyrraedd y pwynt o’r gêm lle mae nhw yn ôl pob sôn yn rhedeg ffwl-pelt tuag atoch chi. Mae hynny, mae’n debyg, yn mynd i apelio at y ffans mwy croengaled o arswyd yn eich mysg.

I fi, roedd y profiad yn ddigon i mi wybod bod arswyd mewn VR yn gweithio, yn rhyfeddol o real, a dwi byth isio gwneud unrhywbeth mor hurt eto.

A dyna ni. Wedi hynny, ro’n i’n dreifio adra, ddim yn gallu penderfynu oedd y lôn o fy mlaen yn beth go-iawn ta o’n i wedi fy strapio i mewn i’r Vive yn dal i fod, a neb wedi dweud wrtha i. Dwi dal ddim cweit dros y peth.

Dwi ‘di ei ddeud o o’r blaen, a wna i ei ddeud o eto. Mae hwn yn mynd i newid popeth. Ydi, wrth gwrs ei fod o’n mynd i newid y ffordd ‘da ni’n chwarae gemau, ond dwi ddim o’r farn mai dyna’r defnydd mwya cyffrous o’r dechnoleg. Roedd The FOO Show yn dangos un ffordd y gall VR newid ffurfiau eraill o adloniant, a dwi’n edrych ymlaen at weld sut y bydd petha felly yn datblygu. Ond y defnyddiau addysgiadol sy’ fwya cyffrous i fi, dwi’n meddwl, a’r profiadau mwy tawel lle allwch chi jyst gymryd trip i fyd arall heb orfod boeni am guro sgôr neu ddianc rhag y meirw byw. Pan dwi’n meddwl am yr holl bosibiliadau… wel… dwi ddim yn gallu ffeindio’r geiriau.

Ond, pan mae’n dod at VR, ‘da chi’n cyrraedd pwynt lle mae geiriau’n methu beth bynnag. Er ‘mod i ‘di sgwennu digonedd am fy mhrofiad, dwi’n gwbod bod o ddim ots mewn gwirionedd. Os ‘da chi isio deall pa effaith fydd VR yn ei gael, mae’n rhaid i chi ei drio eich hunain. Dwi’n siarsio pawb sy’n darllen hwn i wneud hynny, sut bynnag y gallwch chi.

Diolch unwaith eto i Meurig Hughes am y cyfle. Fel y gallwch chi ddweud, dwi’n fwy na diolchgar.

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s