gan Elidir Jones
Ella eich bod chi wedi gweld hyn ar wefan Y Twll yn barod. Ond mae’n bwysig. Waeth i chi ei ddarllen o ddwywaith ddim.
Os ydych chi’n dilyn ein cyfres Clwb Llyfrau f8, yn daith drwy bob un nofel ffantasi a ffuglen wyddonol erioed yn y Gymraeg…
… fydda i wrthi am sbel…
… fyddwch chi’n ymwybodol ‘mod i wastad yn cwyno bod clasuron Cymraeg y genre byth mewn print y dyddiau yma, a’r unig ffordd o gael gafael arnyn nhw ydi mentro i’ch llyfrgell goleg agosa. Lle mae’r nyrds i gyd yn mynd. Ych-a-fi.
Wel, mae Robin Owain a’i deulu wedi dod i’r adwy, wrth ryddhau Y Dydd Olaf gan Owain Owain ar-lein. A gwell fyth, mae o’n rhad ac am ddim!
Allwch chi lawrlwytho fersiwn testun fan hyn.
A sgan o’r llyfr mewn ffurf PDF fan hyn.
Os ‘da chi eisiau mwy o anogaeth, cofiwch bod Gwenno Saunders wedi rhyddhau albym gyfa yn seiliedig ar y nofel yn ddiweddar. Fe wnaeth ein cohort Miriam Elin Jones enwi’r llyfr fel y gyfrol ffug-wydd gorau yn yr iaith Gymraeg, draw ar flog Gwyddonias. A gewch chi ddarllen fy sylwadau pitw innau fan hyn.
Diolch o galon i’r teulu Owain am fod mor hael, ar ran y genedl. Gobeithio y bydd mwy o’r testunau ‘ma yn ail-ymddangos, un ai yn ddigidol neu mewn print. Os y bydden nhw, ‘da chi’n gwybod lle i ddod i glywed am y peth.