Golwg ar ‘Y Dydd Olaf’

Reit. Cyn dechrau. Ddylsech chi wybod bod blog Gwyddonias yn gwneud y math yma o beth yn lot gwell na ni. A fysa’r cofnod yma ddim yn bodoli hebddyn nhw. Felly dyna ni.

Dwi wedi bod yn meddwl sgwennu stwff ffantasi / ffuglen wyddonol yn Gymraeg ers sbel. Deud y gwir, ella fy mod i ‘di sgwennu nofel yn barod, sy’n disgwyl yn amyneddgar i gael ei gyhoeddi. Ac ella fedrwch chi hyd yn oed ddarllen prequel (o fath) i’r nofel yna yn rhifyn #40 o’r cylchgrawn Tu Chwith. Just deud.

Ond fel mae unrhyw sgriblwr yn gwybod, sgwennu ydi hanner y dasg. Darllen ydi’r hanner arall. A wnes i sylweddoli fy mod i’n gwbwl anwybodus o ffuglen wyddonol / ffantasi yn Gymraeg.

Mae o’n bodoli. Onest.

Lle gwell i droi felly, na rhestrau Gwyddonias (‘co ni hwn a hwn) o’r nofelau gorau o’r math? A be sydd ar dop y rhestr ond Y Dydd Olaf (1976) gan Owain Owain. Awdur mor dda, wnaethon nhw ei enwi o ddwywaith.

y-dydd-olaf

I ffwrdd a fi i’r siop lyfrau Cymraeg leol. Cyn sylweddoli bod o wedi cau. Am byth. Yna i siopau ar-lein. Cyn sylweddoli bod y llyfr allan o brint.

O, wel. I lyfrgell Prifysgol Bangor ta.

Pa mor wirion ydi hi, gyda llaw, bod llyfrau fel’ma ddim ar gael yn hawdd? Yn enwedig gan bod Gwenno Saunders, fel y gwelwch chi fan hyn, wedi rhyddhau sengl ac albym wedi ei ddylanwadu gan y nofel yn ddiweddar, a bod hynny wedi magu cryn ddiddordeb ynddo fo? Stori wir: ges i neges destun rai wythnosau’n ôl gan ffrind o Loegr oedd yn byw efo fi pan oedden ni’n dau yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Doedd hi erioed wedi dangos lot o ddiddordeb yn yr iaith a diwylliant Cymraeg, ond roedd hi isio gwybod, ar sail yr albym yna, oedd ‘na gyfieithiad o Y Dydd Olaf yn bodoli. Pan ddywedais i bod ‘na ddim, roedd hi isio gwybod lle bysa hi’n gallu cael gafael o’r llyfr yn yr iaith wreiddiol. Doedd hi ddim yn gallu credu’r peth pan ddywedais i bod hynny ddim yn bosib chwaith.

Beth bynnag am hynny. Y nofel.

Yn digwydd dros dri cyfnod gwahanol, 1948/9, 1984, ac 1999 (ac yn neidio rhwng y cyfnodau yna wili-nili), mae o wedi ei sgwennu ar ffurf dyddiadur cymeriad o’r enw Marc. Cawn ei ddilyn, i ddechra, ar ei daith o’i gartref i’r coleg, lle mae o’n astudio electroneg. Yma mae ei berthynas efo’i gyfoedion – ei ffrindiau Pedr ac Anna o gartref, myfyriwr tramor o’r enw Cwansa, a ffrindiau newydd o’r enw Mari a Siwsan – ar ei fwya byw, ac yma mae’r elfen ffug-wyddonol ar ei leia amlwg. Ond er y prinder o stwff blasus am robots ac aliens a gynnau laser, mae’r darnau yma yn hynod o hwyl be bynnag, yn darlunio bywyd coleg yn well na bron i unrhywbeth arall dwi wedi ei ddarllen yn y Gymraeg, a byth yn colli eu gafael. Dim ‘mod i’n gwybod sut beth oedd mynd i’r coleg yn 1948. Ond. ‘Da chi’n gwybod.

Yn ystod y cyfnod yna, mae o a’i ffrindiau yn allweddol yn natblygiad grŵp o’r enw ‘Cyngor y Frawdoliaeth’ – grŵp sydd (ella) yn troi’n sinistr yn reit gyflym ac (ella) yn arwain at dŵf regime totalitaraidd dan arweiniad hanner-dyn / hanner-peiriant o’r enw yr ‘Uchel Gyfrifydd’. Ella.

Dim spoilers, cofiwch.

Un o’r prif resymau dwi’n hoff o weithiau ffantasi / ffug-wyddonol ydi’r broses world-building: o greu byd eich hunain, a’i fwydo i’r darllenydd, yn ara bach, dwy bytiau o ddeialog a disgrifiad. Mae’n beth anodd iawn i wneud yn dda. Mae’n rhaid i chi adeiladu byd llawn a chredadwy sy’n sefyll ar ei draed ei hun, ond hefyd mae’n hollbwysig osgoi boddi’r gynulleidfa mewn manylion dibwys am y byd yna. Ystyriwch Star Wars, er enghraifft: ‘da ni’n cael manylion pryfoclyd yn y ffilm cynta at bethau a phobol fel y Jedi, y senedd, a’r Ymerawdwr. Ond dim ond yn y ffilmiau wedyn mae gwir ystyr y pethau yna’n cael ei ddatgelu i ni. Er gwell neu waeth.

Mae’n falch gen i ddweud bod y world-building yn Y Dydd Olaf yr un mor effeithiol. Dim ond cyffwrdd ar dŵf ‘Cyngor y Frawdoliaeth’ mae’r awdur, ac ar y ffordd mae ei fyd sinistr yn gweithio, ac ar rym dirgel (arallfydol?) o’r enw ‘Omega-Delta’. Ond mae o’n gweithio. Rydych chi, ar y cyfan, yn gallu credu bod y byd yma – mewn ryw ddimensiwn tywyll arall, ella – yn bodoli.

Nid yn unig ei fod yn tynnu ar nofelau fel 1984 George Orwell a Brave New World Aldous Huxley, ond mae Owain Owain hefyd yn cyfeirio at y gweithiau yna droeon. Bron fel her i’r darllenydd ac i’r byd llenyddol yng Nghymru: ‘Hei – ‘da chi’n gwybod y stwff od ‘ma mae darllenwyr Saesneg yn ei lyncu? Wel, gesiwch be? Mae’r un peth yn bosib yn Gymraeg. Ddim yn fy nghoelio i? Boom. Dyma nofel o’r un math yn union. Reit. Eich tro chi rŵan.’

Diddorol fyddai dysgu be oedd yr ymateb beirniadol i hwn nôl yn 1976. Dwi’n siŵr bod Gwyddonias yn gwybod.

Beth bynnag am hynny, dwi’n credu y dylai Y Dydd Olaf  gael ei roi ar yr un math o bedestal â gweithiau Orwell a Huxley. Ond ‘da chi’n gwbod. Pedestal llai, mwy Cymreig. Efo pobol yn dawnsio gwerin o’i gwmpas o neu rwbath.

Wnes i wir fwynhau ei ddarllen. Ac er dwi’n weddol sicr nad ydi’r rhan helaeth o stwff tebyg yn Gymraeg yn cyrraedd yr un ansawdd, mae o wedi pricio fy nychymyg. Pa stwff arall sydd allan fanna? Ella y cewch chi ddarllen am y fenter newydd ‘ma fan hyn ar f8.

Wrth gwrs, tysa chi’n gallu darllen y llyfrau eu hunain, fysa hwnna’n help ‘fyd. C’mon gyhoeddwyr Cymru. Pwy sy isio bod yn cŵl ac ailgyhoeddi stwff fel’ma ta?

– Elidir

4 comments

  1. […] Os ‘da chi eisiau mwy o anogaeth, cofiwch bod Gwenno Saunders wedi rhyddhau albym gyfa yn seiliedig ar y nofel yn ddiweddar. Fe wnaeth ein cohort Miriam Elin Jones enwi’r llyfr fel y gyfrol ffug-wydd gorau yn yr iaith Gymraeg, draw ar flog Gwyddonias. A gewch chi ddarllen fy sylwadau pitw innau fan hyn. […]

Leave a comment