Mae ‘na lwyth o stwff am gemau’n dod ganddon ni. Dyma ein hadolygiad o The Witcher 3, os fethoch chi hwnna. A dyma drelyr Fallout 4… ond os oes ganddoch chi hanner-diddordeb mewn gemau, fyddwch chi ‘di gweld hwnna’n barod. Ac efo sioe E3 rownd y gornel, fydd ‘na lwyth o newyddion i’w drafod, a llwyth o gemau newydd i sugno pres allan o’ch waled.
Ond am y tro, be am gario mlaen efo ein taith i berfeddion y byd ffuglen wyddonol / arswyd / ffantasi Cymraeg…
… neu’r byd gwyddonias, os hoffech chi…
… efo golwg ar nofel arall sy dipyn gwahanol i’r stwff arferol ar y syllabus TGAU. Achos mae Un Nos Ola Leuad yn dda a bob dim, ond does ganddo fo ddim zombies mewn cors, nag oes?
Wedi ei sgwennu gan D. Griffith Jones a’i gyhoeddi yn 1972, mae Y Clychau yn dilyn criw o bobol, dan arweiniad botanegydd o’r enw George, sy’n mentro i ganol Cors Machno er mwyn astudio’r planhigion rhyfedd sydd i’w cael yno. Ond, wrth gwrs, mae nhw’n dod o hyd i dipyn mwy na hynny. Dwi’n trio peidio sbwylio’r peth, ond mae ‘na lun mawr o zombie uchod. Felly ‘da chi’n gwbod be i ddisgwyl, fwy neu lai. Sori.
Ond mae ‘na fwy i’r nofel na hynny. Mae o’n tynnu ar chwedl Cantre’r Gwaelod mewn ffyrdd diddorol, ac er ei fod o yn aml yn dilyn fformiwlâu arswyd pulp, mae ‘na amryw o bethau mwy nodweddiadol am Y Clychau hefyd.
Felly am ran helaeth o’r nofel mae’r prif gymeriadau – George y botanegydd, ei ffrind Dai, archeolegydd ifanc o’r enw Ruth, y prif gymeriad di-enw, a Morgan, sy’n ymuno efo’r criw ar ôl dianc o’r carchar – yn crwydro o amgylch y gors, yn dod i ddeall mwy a mwy am y pethau od sy’n digwydd yno. Nid yn unig ydi ydi’r cymeriadau yn ffitio’n neis i mewn i’r stereoteips sydd mor gyfarwydd i ni bellach o ffilmiau a straeon arswyd, ond mae’r atmosffer cyffredinol hefyd yn teimlo’n neis a Gothig a chyfforddus. Neu’n anghyfforddus, ddylswn i ddweud. Oni bai am y ffaith bod y cymeriadau yn rhydd i fygro off bob hyn a hyn, ro’n i’n gweld lot o debygrwyddau efo rhywbeth fel The Blair Witch Project, efo’r tirwedd yn ymddangos fel ei fod yn shifftio ac yn newid. Mae ‘na deimlad breuddwydiol i’r holl beth.
Wrth gwrs, doedd D. Griffith Jones ddim yn ymwybodol o ffilmiau felly. Ond mae’n teimlo i fi fel ei fod o wedi ei ddylanwadu’n gryf gan ffuglen weird, fel mae’n cael ei alw – a gwaith H.P. Lovecraft yn fwy amlwg na dim. Mae’ ‘na sawl elfen Lovecraft-aidd yma: criw o ddieithriaid yn cyrraedd pentre anghysbell (Y Borth!), ac yn ffeindio bod y pentrefwyr yn gwybod lot am y digwyddiadau rhyfedd o’u cwmpas nhw, ond ddim yn datgelu unrhywbeth. Cymeriadau sy’n colli eu gafael ar reswm – neu eu natur ddynol, hyd yn oed. Ac mae ‘na hyd yn oed greaduriaid hynafol yn gysylltiedig efo’r môr, ac efo hen chwedl Cantre’r Gwaelod yn benodol. Dydyn nhw ddim yn dduwiau sy’n edrych fel octopws, gwaetha’r modd, ond mae’n gysylltiad diddorol iawn beth bynnag.
Felly mae Y Clychau yn nofel arswyd sy’n tynnu ar draddodiadau’r genre, ond hefyd yn defnyddio mytholeg Cymru mewn ffordd hynod o effeithiol. Dwi wedi credu ers sbel mai dyma’r ffordd orau o sgwennu arswyd Cymraeg: i dynnu ar ein hanes a chwedlau cynnar, a rhoi tro yn y gynffon rhywsut. Dyna, wedi’r cwbwl wnaeth Arthur Machen yn y Saesneg, aeth ymlaen i ysbrydoli a dylanwadu ar H.P. Lovecraft. Ac felly mae’r olwyn yn troi.
Mae ‘na gymaint o’n hanes a’n mytholeg sydd wedi siwtio ar gyfer y math yma o beth, a chymaint o rannau ohono fo wedi ei anghofio neu’n ddirgelwch i ni – digonedd o ddarnau blanc i’w llenwi efo pob math o erchyllterau.
Dydi Y Clychau ddim yn berffaith o nofel, ond mae’n ddiddorol, o leia. Mae o hefyd yn wirioneddol creepy ar adegau, ac yn ffordd berffaith o dreulio noson stormus. Ond, fel Y Dydd Olaf – a 95% o stwff Cymraeg, gwaetha’r modd – does dim ffordd o’i ddarllen os nad oes ganddoch chi lyfrgell coleg yn handi. Tysa ‘na jyst ryw ffordd o ddigideiddio llyfrau. A wedyn eu darllen nhw yn handi ar ryw fath o ddyfais electronig cyfleus.
Ond dyna ni. Ffantasi ydi hwnna, mae’n debyg.
Oes ‘na glasuron coll Cymraeg ddylsen ni droi atyn nhw nesa ar f8? Gadewch i ni wybod yn y sylwadau. Achos mae hwn yn dipyn o hwyl, bois bach.
– Elidir
Pe Symudai y Ddaear – nofel gyntaf D. Griffith Jones, ar gyfer pobl ifanc, yn ymdrin a thrychineb apocalyptaidd sy’n rhwygo Cymru rhag ffin Lloegr hefyd yn un dda! Yn ol Islwyn Ffowc Elis yn 1963, y nofel ffug-wyddonol gorau yn y Gymraeg.
Cwl. Trip arall i’r llyfrgell pan fydd gen i amser ta.
[…] fethoch chi’r rhifynnau cynta, dyma ni – ein golwg ar Y Dydd Olaf gan Owain Owain ac Y Clychau gan D. Griffith Jones. A nofel arall gan D. Griffith Jones sydd dan y chwyddwydr heddiw – Ofnadwy […]
[…] ffuglen wyddonol yn gyffredinol, mae’n bosib y bydd adolygiadau Elidir ar FideoWyth o rhai o glasuron Gymraeg y genre o […]
[…] Os ‘da chi’n newydd i’r holl fenter nyts ‘ma, wnaethoch chi golli ein golwg ar Y Clychau, nofel dynn ac effeithiol, yn darllen fel cyfuniad o Romero a Lovecraft, am zombies o […]
[…] twll a chornel o’r tŷ. Ar ôl dal Bulbasaur yn fy ystafell wely (a’i enwi’n Gwiliam, ar ôl Chief Zombie Y Clychau), dysgais yn ddigon cyflym nad gêm eistedd-ar-fy-nhin oedd hon. Dwi’n gorfod codi o’m […]
[…] twll a chornel o’r tŷ. Ar ôl dal Bulbasaur yn fy ystafell wely (a’i enwi’n Gwiliam, ar ôl Chief Zombie Y Clychau), dysgais yn ddigon cyflym nad gêm eistedd-ar-fy-nhin oedd hon. Dwi’n gorfod codi o’m […]