Adolygiad The Witcher 3: The Wild Hunt

Gan Daf Prys

Mae rhwybeth syfrdanol wedi digwydd, mae un o fy rhestrau 5 ucha hir-dymor wedi newid, o do, diolch i The Witcher 3. Nawr te, mae pawb yn mwynhau rhoi rhestrau at ei gilydd ac yn fwy na hynny, well gan bobl olygu ei rhestrau nawr ac yn y man. Weithiau mae nhw rhai gwirion fel rhestr 5 llinell gwaetha mewn ffilms:

  • I don’t know you anymore Anakin, you’re breaking my heart.
  • NOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOOO!
  • This could well be … the perfect storm!
  • They make take our lives … but they’ll never take our FREEDOM!
  • You complete me.
  • You da man Harry, you da man.

Neu rhestr llawn gwybodaeth defnyddiol fel fy rhestr o 5 bwzer gorau yng Nghymru:

  • Ship – Aberystwyth
  • Glob – Bangor
  • Mochyn Du – Kediff
  • Murenger – Newpert
  • Twtil Volts – Cofiland

Neu rhwstr i ddod a dwr i’cg dannedd, creision hyfryta’r 80au, a fel chi’n gallu gweld mae French Fries newydd ei ddyrhcafu i’r rhestr, llongyfrachiadau iddo nhw:

  • Monster Munch (Beef)
  • Wheat Crunchies (bacon)
  • Space Raiders
  • Monster Munch (Sizzling Hot)
  • Smiths Crisps efo’r paced halen ynddo fe
  • French Fries

Ond nawr yr un mawr, amser golygu fy rhestr 5 gem gorau erioed. Ie, chi wedi clywed hwnna yn iawn, ma The Witcher 3 yn neidio yn syth fewn. Mae fe mor dda a hynny, yn anffodus i’mywyd cymdeithasol (sori ferched). Mae na elfennau fedra i gwyno amdano ond does jysd dim pwynt, mae fel cwyno fod gormod o gogs yn C’mon Middffild neu gyrru’n rhy gyflym mewn Lamborghini.

Mae’r byd mae CDProjektRed wedi ei greu ar ein cyfer yn un mor swmpus, llawn a diddordol ma’n agosau at fod yn gampwaith sy’n hapus i sefyll ysgwydd-yn-ysgwydd efo bydau creu eraill mewn unrhyw faes: Middle Earth, Narnia, A Galaxy far far away, Gwynedd.

Gwynedd?

Yn The Witcher 3 does dim enw i’r byd fel petai, gyda’r digwyddiadau a’r stori gefn oll wedi ei seilio ar cyfres o lyfrau ffantasi gan Andrzej Sapkowski o Wlad Pwyl. Mae’r naratif yn cylchdroi rownd boi o’r enw Geralt of Rivia sy’n ‘Witcher’: pobl sy’n hela bwganod ac anghenfilod drwy ddefnydd o hyd a lledrith a cleddyfau arian. Ie fi’n gwbod, cwl as $%&*.

Mae’r stori yn cychwyn mewn lle bach digon pleserus o’r enw White Orchard sy’n rhyw fath o ardal bydd rhywun yn disgwyl gweld mwy neu lai unrhywle yn Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol, pentrefi bach fan hyn fan draw, pobl yn ffermio neu’n pysgota. Chi yna yn rhedeg ar ol rhyw fenyw (tell me about it) sydd efo gwybodaeth chi angen. Ond, achos fod y gem yma mor wych, hyd yn oed yn y bit bach cynta ma ma ‘na straeon di ben draw i ddod ar draws. A dim jysd ‘fetch quests’ arferol, ond straeon go iawn gyda diweddglo annisgwyl bron bob tro. Fel pan nes i gorfod dod o hyd i boi oedd wedi llosgi ty rhywun lawr, a pan o’n i’n meddwl oeddwn i’n bod yn hael i bawb a rhoi cyfle i bobl ymddiheuro, diweddglo’r peth o gwrando ar y boi yn cael ei hongian gan filwyr lleol.

Cefndir y byd ar yr amser hon yw bod rhyfel newydd orffen, a ma na campiau milwyr ymhobman gan fod Nilffgard, ‘gwlad’ cyfagos wedi trechu Temeria, y ‘wlad’ chi ynddo ar gychwyn y gem.

Geralt o Rivia. Yn y Gymraeg jysd Rivia (enw ffarm siwr o fod).

Wedi dod o hyd i’r ferch chi’n chwilota, off a chi wedyn i weddill y byd a mae’n syfrdanol, anferthol, ac yn llawn cant a mil o straeon bach eraill sy’n gweu ei hunain fewn i’r brif ffrwd, sy’n ysfa arall i’ch dynnu yn eich blaen.

Ar ben hwn nawr ac yn y man chi’n dod ar draws llawer o bethau, sut gallai ddweud, pethau hollol Gymreig. Mae’n amlwg fod Sapkowski wedi bod yn plymio dyfnderoedd hanes a chwedlau Cymreig. Mae gan cymeriadau hen ac ifanc, uchelwyr neu bois caib a rhaw enwau megis Cledwyn ac Emyr, mae cleddyf arian sbeshal chi’n gallu creu o’r enw Disglair a nickname Geralt, y prif cymeriad yw The White Wolf. Mae’r nickname yna wedi ei seilio ar iaith hynafol y byd ac yn yr hen dafod yna ‘White Wolf’ yw Gwynbleidd. Da ni yma o hyd bois bach, yma o hyd. Hyd yn oed yng Ngwlad Pwyl.

Felly be ma f8 yn meddwl o Witcher 3, fi’n amau bod chi’n gwbod. Profiad sy’n neud i fi ise tynnu trwsus fi lawr a chware bongos ar fy nhin. Ie, mor dda a hynna.

A be, chi ise i fi ddatgelu rhestr 5 gem gorau erioed? Fi’m yn wyllt, ni ar y we fan hyn. Dim gobaith!

One comment

  1. […] Os oes unrhyw gem dwi a Dr Elidir Jones yn medru cytuno arno fydd yn codi i’r brig ymysg y cwestiwn mawr o ‘Beth Yw’r Gem Orau Erioed’, yna, wele The Witcher 3. Nid oes profiad tebyg efo sgwenu lliwgar, naratif dwys, a chreu byd syfrdanol. Mae’r amrywiaeth yn ddi-baid, a’r cymeriadau yn disgleirio efo dyheuadau unigryw a cefndiroedd patrymog – dyma ein adolygiad. […]

Leave a comment