Adolygiad Assassin’s Creed: Unity

gan Daf Prys

Wel ie dyma ni o’r diwedd, adolygiad Assassins Creed: Unity. Nes i cychwyn yr adolygiad yma tua 6 mis yn ol ond wedyn nath bywyd mynd yn y ffordd, ac i fod yn onest da o beth achos oedd y gem yma, wrth lansio yn (beep). Sdim lot o bwynt i fi fynd mewn yn ormodol i’r cysyniad yma o gemau yn cael ei lansio wedi torri fan hyn, ond am hwn: dyma’r unig faes lle ma pobl yn medru rhyddhau cynnyrch wedi torri gyda’r gobaith o fficso’r peth yn y dyfodol. A’r problem yw, fi’n deall e, fi’n gwybod yn iawn pam fod e’n digwydd (eto, dim lle fan hyn) ond beth ma fe’n golygu yw bod sawl gem ddim yn ei gyfanrwydd tan tua 3 mis wedi ei rhyddhau ac yn neud i bobl pigo nhw lan yn hwyrach sydd mewn tro yn cadw prisiau gemau i fyny am sbel. Rant drosodd.

Ond ta waeth, Assassin’s Creed: Unity! Yay. Fi’n caru cyfres Assassin’s Creed fi wir yn. Galle’r gem cal ei enwi’n Assassin’s Creed: Nain am Dro a byddai dal yn prynu’r peth. Gallwch dyfalu gan y lluniau bod yr Assassin’s Creed diweddaraf ym Mharis y deunawfed ganrif. Os nad yw hyn yn gwneud synnwyr yna gadewch i mi esbonio: mae cyfres Assassin’s Creed yn cynnig y syniad bod chi’n medru profi cofion pobl sydd wedi hen huno gan defnyddio ei DNA. Pam so pobl gallu defnyddio hyd a lledrith fel yr hen ddyddie da fi’m yn gwbod. Ta waeth, ma nhw’n troi’r hyd a lledrith ‘ma mewn i rhyw fath o human simulator, ond un bach fwy soffistigedig na rheina oedd arfer bod ar y Krypton factor.

Sai’n credu fod y boi na’m yn gwybod beth sydd ar fin digwydd

‘Da ni wedi profi cofion pobl o Jerwsalem, Fenis, Kanien’kehá:ka (llwyth ang Ngogledd America), Abertawe a nawr, voila: Paris. Yn Unity ‘da ni’n troedio yn esgidiau Arno, hanner-dyn hanner-barf wrth iddo slapio a neidio ei ffordd drwy’r ddinas berwedig fel rhyw chimp efo death-wish. Ma hanner y ddinas wedi meddwi a’r hanner arall yn llosgi dan genedlaetholdeb brwd, pam? Achos rhywbeth bach o’r enw y Chwyldro Ffrengig. Chi siwr o fod wedi clywed am y peth. O na? Wel paratewch am stori dda: un dydd nol yn 1723 nath y boi ma, Pierre, rhoi slap i modryb tew Jean-Luc pan yn mynd am trip i’r parc … (dipyn bach yn ddiweddarach) … so nath nhw ffindo trons y boi yn diwedd a dyna sut nath Carla Bruni cal nickname hi. A na fe rili.

Felly medrwch gredu fod na ambell beth i neud ym Mharis y cyfnod: go iawn, efo’n OCD i gyflawni popeth mewn gem dwi ddim wedi bod ofn unrhyw fap arall. Ma fe yn gwegian a beth ma boi fel fi, sy’n obsessed efo side quests a trinkets bach aur fod i neud efo hwn? Nervous breakdown yw hwn yn aros i ddigwydd. Ar adegau mae wir yn amharu ar fy allu i fwynhau’r peth. Mae sut beth a gormod: rhywbeth ma ci a llond bol o bwdin yn deal yn iawn. Ta waeth, mae’n bosib troi ffwrdd gwahanol eiconau ar y map fel nad yw’n poenydio’n ormodol, ond dal, fi’n gwbod fod e yna.

So pa fath o le yw Paris y deunawfed ganrif hwyr de? We go iawn, hyfryd, hollol hyfryd. Rhwng golygfeydd hollol gwefreiddiol ac eiliadau wir ddynol y bobl a thorfau o gwmpas Paris o’n i’n teimlo mod i ar fy ngwyliau. Byddwch yn ymweld a plasdai, parciau, strydoedd byrlymus, capeli, yrm, sheds, toeau, mynwent, all the fun spots. Ambell dafarn wrth gwrs ble mae’r gwladgarwyr yn canu caneuon angerddol. Gyda llaw, mi ddes i ddeall taw mon dieu yw myn diain tra’n profi’r gem; fy hoff floedd yn hannu o’r ffrencwyr. Ergyd drom.

Ta waeth fi ‘di mynd way off trac nawr. Mae Arno, ein brif arwr wrthi yn trio gwthio agenda ei giang ef, sef yr Assassins, sy’n honi fod nhw’n sefyll am rhyddid y ddynol ryw (tra’n lladd itha lot o bobl yn y broses) yn erbyn clwb bois y brwnt, sef y Templars, sydd hefyd yn honi fod nhw’n sefyll am rhyddid y ddynol ryw (tra’n lladd itha lot o bobl hefyd). Hmmmmm, pwy i gredu, pwy i gredu. Wel ma rhan fwyaf o actorion llais y Templars yn cael ei neud gan bois posh o Lloegr neu cockneys so nhw yw siwr o fod y bili bwlis.

Hen bryd i ni ddod a Krypton Factor nol i’n teledau

Sut mae’r gem yn rhedeg erbyn nawr? Ers y patches, esmwyth iawn. Ond be dwi wedi siomi efo yw dyma’r AC cyntaf i fi wir cael trafferth efo’r system parkour efo Arno yn dewis neidio i’r llefydd anghywir neu pallu dringo wal o’n i’n anelu ato. Dwi’m amau achos fod y byd yma mor llawn (cannoedd o NPCs yn sugno cof y system). Oes angen iddo fod mor llawn? Na. Dwi ddim yn meddwl er fy ngeiriau uwchlaw am y torfau – gall y gem wedi bod run mor dda efo hanner y bobloedd ar y strydoedd. A does dim wir fan hyn yn adeiladu ar y gyfres; yr unig peth newydd, yr elfen cyd-chwarae (co-op), wel ma hwn yn bach mwy o’r un peth, ond yn methu yn y nod o ddod a sgiliau a tactegau at ei gilydd.

Felly dedfryd f8 am Unity: hyfryd wir, gem gall berson mynd ar goll ynddo ond dim byd llawer newydd I’w weld – ma fe’n atgoffa fi wir o’r AC cyntaf yn y odd bron ei fod yn rhyw fath o tech demo ar gyfer y generation newydd o consoles. Digon o ryddid, llawer o gydraddoldeb ond dim digon o frawdgarwch.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s