Gemau Diweddar, Rhan 7

Mae’r amser yna wedi dod eto. Mae Elidir wedi gorffen llwyth o’r gemau oedd ar ei silff, wedi rhoi ochenaid o ryddhâd, cyn gweld faint o gemau sydd ar ôl – ar ben yr holl stwff sydd eto i’w ryddhau – a chladdu ei ben yn y tywod gan grio.

Yn anarferol, dyda ni ddim wedi sôn am yr un o’r gemau yma ar y safle o’r blaen. Cynnwys newydd! Seiniwch yr utgyrn! Neu rwbath.

Kid Icarus Uprising (3DS, 2012)

Un o’r gemau cynharaf i’w ryddhau ar y 3DS. Wnes i ddim penderfynu chwarae hwn tan yn ddiweddar am ryw reswm. Dwi ddim yn siŵr pam wnes i o gwbwl, deud y gwir, achos do’n i ddim yn ffan mawr o’r gêm gwreiddiol ar y NES.

Mae Uprising yn… iawn. Mae’r pob lefel wedi ei rannu yn ddwy ran – darn agoriadol lle ‘da chi’n fflio drwy’r awyr, a darn arall lle mae eich traed wedi plannu i’r ddaear. Yn anffodus, mae rheoli Pit, y prif gymeriad, yn anodd iawn ar y ddaear – a hyd yn oed yn brifo, ar ôl sesiwn hir o chwarae. Ar y llaw arall, mae’n bleser rheoli Pit pan mae o’n gwibio drwy’r awyr, a fan hyn hefyd mae graffeg 3D y system ar ei orau. Dwi’n meddwl y dylai Nintendo wedi dilyn y fformiwla yma drwy’r gêm i gyd fy hun, er y bysa hwnna ella wedi bod yn rhy debyg i’r gyfres Starfox.

Gêm iawn os ‘da chi ar ôl holl stwff eiconig y 3DS, ond ddim yn hanfodol o bell ffordd fel arall.

Bioshock 2 (Xbox 360 / PS 3 / PC / Mac, 2010)

Mae’r ymgyrch i orffen fy holl gemau Xbox 360 yn parhau. Do’n i ddim yn edrych ymlaen lot at Bioshock 2, achos dydi o ddim i fod mor dda â gweddill y gyfres. Ond wnes i gael lot o hwyl efo’r gêm yn y diwedd.

Er ei fod yn debyg iawn i’r Bioshock cynta, ro’n i yn gweld sawl gwelliant yn hwn. Yn y cynta, er enghraifft, roedd ‘na rai darnau annifyr o anodd yn y cynta, yn sbwylio rhediad llyfn y peth. Dim fan hyn. Ac roedd chwarae rhan “Big Daddy” – un o’ch gelynion yn Bioshock – yn newid effeithiol, ac yn ychwanegu eitha dipyn at fytholeg y gyfres.

Gwell nag o’n i’n ddisgwyl felly. Ac wrth gwrs, mae’n arwain yn syth i mewn i…

Bioshock Infinite (Xbox 360 / PS 3 / PC / Mac / Linux, 2013)

410901

Tra bod Bioshock 1 & 2 yn debyg mewn lot fawr iawn o ffyrdd, mae Bioshock yn teimlo’n aml fel ei fod yn ran o gyfres hollol wahanol. Ar wahân i’r ffaith amlwg eich bod chi’n brwydro eich ffordd drwy ddinas yn yr awyr yn hytrach nag un o dan y môr, mae’r steil o chwarae yn wahanol iawn hefyd. Fyddwch chi’n mynd yn erbyn llwyth o elynion ar unwaith yn hytrach nac ychydig o elynion ar y tro, ac fel canlyniad, roedd o’n teimlo ychydig bach yn fwy generic i fi.

Er hynny, mae’r ysgrifennu a’r stori yn well hyd yn oed na’r gemau cynta – er bod ymdriniaeth y gêm o hîl dipyn bach rhy anghynnil ac in-your-face. Ac mae’r diweddglo ymysg y darnau gorau o naratif mewn unrhyw gêm erioed, dwi’n meddwl.

Mae o’n werth ei chwarae, wrth gwrs. Ond y tu allan i’r ysgrifennu, a’r cyflwyniad slic a phrydferth, do’n i ddim yn gallu helpu teimlo ein bod ni wedi gweld y math yma o beth o’r blaen. Dwi dal yn edrych ymlaen at weld lle fydd 2K Games yn mynd â’r gyfres tro nesa.

The Stanley Parable (PC / Mac, 2013)

Oes ganddo chi gwpwl o oriau’n rhydd? Isio gweld jyst pa mor dda ellith gemau adrodd stori, sut fedra nhw wneud hynny’n wahanol i unrhyw gyfrwng arall, a jyst pa mor ddigri allen nhw fod? Lawrlwythwch The Stanley Parable (a’r demo, sy’n cynnig cynnwys hollol wahanol), ac ewch ati.

Yn fy atgoffa i o’r ffilm Will Ferrell Stranger Than Fiction mewn sawl ffordd, fyddwch chi’n chwarae rhan Stanley, gweithiwr di-nod mewn swyddfa sy’n… ufuddhau i’r rheolau. Yn rhoi pethau’n ysgafn. Dydi o erioed wedi troi fyny yn hwyr i’r gwaith, na gwrthddweud ei fos, na dim byd o’r math. Felly pan mae holl weithwyr ei swyddfa yn diflannu heb esboniad, a llais rhyfedd yn ei siarsio i ddelio efo’r sefyllfa mewn ffyrdd penodol, mae’n rhaid i chi fel chwaraewr benderfynu a ddylai Stanley wrando unwaith eto, neu fynd ar ei daith ei hun…

Wna i ddim dweud mwy na hynny am y tro. Dydi hwn ddim yn “gêm” draddodiadol. Fyddwch chi ddim yn gwneud mwy na cherdded, gwrando ar y llais, ac ella pwyso ambell i fotwm. Ond fyddwch chi isio chwarae drosodd a throsodd beth bynnag, jyst i weld yr holl opsiynau posib. Mae o fel gwaith Kafka wedi ei ddarllen drwy lens Monty Python, ac yn bleser pur i’w chwarae.

Dark Souls 2: Scholar Of The First Sin (PS4 / Xbox One / Xbox 360 / PS3 / PC, 2015)

Wnes i ddechrau Dark Souls 2 ar yr Xbox 360 sbel yn ôl, a brwydro’n galed am ryw 20 awr. Am pa bynnag reswm, ges i ddim lot o hwyl. Ella achos ‘mod i’n benderfynol o chwarae heb darian. Idiot.

Ond pan ddaeth y fersiwn sgleiniog Scholar Of The First Sin allan, efo mwy o gynnwys, ar y consols newydd, a minnau wedi disgyn mewn cariad efo Bloodborne ac isio mwy o’r un math o beth, ro’n i’n teimlo bod rhaid i fi drio eto.

Dwi’n falch fy mod i. Dydi Dark Souls 2 ddim yn cyrraedd uchelfannau’r gêm cynta yn y gyfres, na Bloodborne, ond wnes i wir fwynhau’r profiad. Mae ‘na rwbath am y gemau ‘ma sy’n eich tynnu chi mewn ac yn gwrthod gadael. Yn ymosod ar eich breuddwydion. Os ‘da chi’n llwyddo i chwarae nhw’n iawn, beth bynnag.

Yn rhyfedd iawn, wnes i ffeindio rhannau o’r gêm yn rhy hawdd tro ‘ma. Ond dim ond rhannau, cofiwch. Ac mae’n falch gen i ddweud bod y deunydd ychwanegol yn wirion o anodd, yn union fel mae ffans y gyfres yn ei licio. ‘Da chi ddim ‘di byw tan i chi frwydro Sinh y ddraig. Drosodd. A throsodd. A throsodd.

Splatoon (Wii U, 2015)

Fyswn i wedi recordio adolygiad fideo o Splatoon. Ond dydi Nintendo ddim yn hoff o bobol yn gwneud hwnna heb eu caniatâd. Achos mae Nintendo… wel, dipyn bach yn wallgo.

Ond mae’r gwallgofrwydd yna weithia yn arwain at berlau pur. Ac mae’n falch gen i ddweud bod Splatoon yn un.

nintendo-splatoon

Yn chwarae rhan “Inkling” – creadur sy’n edrych fel plentyn yn ei arddegau ond efo’r pŵer arbennig o allu troi i mewn i squid ar adegau cyfleus – fyddwch chi’n treulio’r rhan fwya o’ch amser yn brwydro efo chwaraewyr eraill ar-lein, wedi’ch arfogi efo gynnau paent. Dim y bwriad ydi lladd y chwaraewyr eraill, o reidrwydd, ond i orchuddio lefel efo mwy o baent na’r tîm arall. Ac unwaith i chi daro lefel 10 (allan o 20), mae opsiwn newydd yn datgloi, Splat Zones, lle ‘da chi’n trio rheoli rhannau bach o’r lefel yn hytrach na’r holl beth.

Mae ‘na ran i un chwaraewr hefyd, ac ar ei ora, mae o fel cyfuniad o Super Mario Sunshine a Super Mario Galaxy. Deud mawr. Yn anffodus, mae o lot rhy fyr, a lot rhy hawdd, ond yn hwyl gwyllt beth bynnag. Yn enwedig y bos ola. Mam bach.

Yn gyffredinol, mae Splatoon yn fy atgoffa i o Destiny pan wnaeth o lawnsio – dim digon o bethau amrywiol i wneud, ond ‘da chi ddim isio stopio chwarae beth bynnag. Ond mae Nintendo wedi gaddo llwyth o gynnwys newydd am ddim, yn cael ei ryddhau’n aml, tan o leia mis Awst. Bob wythnos, yn ôl pob sôn. A hyd yn oed heb gynnwys newydd, mae ‘na ddigonedd o arfau a dillad i’w casglu.

Un o syrpreisys neisia’r flwyddyn, ac un o’r gemau gorau ar y Wii U, heb os. A pan dwi’n deud “un o’r gemau gorau”… ella mai dim ond Super Mario 3D World sy’n well.

Ddarllenoch chi hwnna’n iawn. Dwi’n meddwl bod Splatoon yn well na Mario Kart 8. Ac ar y bombshell yna, wela i chi tro nesa.

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s