Helo, s’mae, a chroeso i un o wythnosau prysura’r wythnos ym myd y gemau.
Ydi, mae sioe fawreddog E3 yma o’r diwedd, ac fe fyddwn ni’n rhoi ein barn swyddogol ar yr holl shebang swnllyd yn nes ymlaen yn yr wythnos.
Ond mae ‘na sioe pwysicach fyth ar y gweill hefyd: Sioe Datblygu Gemau Cymru 2015, yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd, Dydd Gwener yma. Ac fe fydd criw Fideo Wyth yna fel arfer yn sbwylio enw da newydduriadaeth gemau yn Gymraeg. Dyma be wnaethon ni yna flwyddyn diwetha:
Mae’r sioe yn werth ei weld, a’r holl fanylion (a thicedi) i’w cael yma. Os fyddwch chi’n digwydd bod yna, dywedwch helo. Ni fydd y ddau ynfytyn yn llusgo tripod rownd y lle ac yn yfed lot gormod o goffi.
Dim ond nodyn bach sydyn heddiw felly. Ond fydd ‘na lot mwy i ddweud ac i wneud cyn i’r wythnos ddod i ben. O, bydd.
– f8