Ymddiheuriadau bod yr ymateb i E3 braidd yn hwyr flwyddyn yma. Ro’n i’n teithio wythnos diwetha, a wnaeth technoleg fy ngadael i lawr. Ond yn ystod o’r trip yna, fe wnes i a Daf adroddiad fideo o Sioe Datblygu Gemau Cymru. Fydd hwnna allan yn fuan. Felly swings a rowndabowts. Am y tro, mwynhewch hwn.
***
Wel. Do’n i ddim yn disgwyl hwnna.
Mae pawb i’w gweld yn weddol gytûn bod sioe E3 flwyddyn yma yn un o’r goreuon erioed. Ar adegau – ac yn ystod cynhadledd Sony i gyd, fwy neu lai – doedd y dorf yn y sioe ddim yn gallu credu be oedd yn digwydd o’u blaenau nhw wrth i’w holl freuddwydion ddod yn wir ar unwaith. Ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, wna i drio cadw fy emosiynau dan glo wrth redeg drwy lot o’r bombshells.
Fydda i’n canolbwyntio ar y prif ffrŵd, efo lot o ddilyniadau i gemau eraill, ac enwau mawr yn gyffredinol. Ella gewch chi glywed am y gemau llai, mwy gwreiddiol, yn nes ymlaen.
Bethesda
Stwff cryf gan Bethesda yn eu cynhadledd E3 cynta erioed. Gawson ni olwg go-iawn ar y gêm Doom newydd, ac mae pawb yn mynd i brynu hwnna. Achos Doom. A hefyd, welson ni glip sinematig hyfryd o Dishonored 2 – gafodd ei sbwylio dipyn bach achos bod Bethesda wedi cyhoeddi’r peth, mewn camgymeriad, y diwrnod cynt. Dwi’n edrych ymlaen at weld y gêm yn rhedeg yn iawn, gan ‘mod i’n ffan mawr o’r cynta, ac mae’n hyfryd iawn hefyd eich bod chi’n cael chwarae fel merch tro ‘ma, os ydi’r ffansi yn eich cymryd.
Ond y peth mawr, wrth gwrs, oedd Fallout 4. Doedd pawb ddim yn berffaith hapus efo’r trelyr cynta gafodd ei ryddhau cyn E3, ond ar ôl y sioe, doedd ‘na ddim lot o gwyno i’w gael. Gawson ni weld y gêm yn rhedeg yn iawn, clywed y bydd posib defnyddio mods ar gonsol (sydd braidd yn chwyldroadol), a chlywed lot o stwff hynod, hynod, hynod, hynod o gyffrous am y system grefftio / adeiladu yn y gêm. Fedra i weld fy hun yn suddo wythnosau i mewn i’r rhan yma o Fallout 4 yn unig, heb sôn am weddill y pecyn. A pwy wnaeth gynnig, fis diwetha, bod system fel’ma am gael ei gynnwys? Ni. Dyna pwy. Dim bod ni’n brolio na’m byd.
Gêm y gynhadledd i fi, dwi’n meddwl. Dwi’n llythrennol yn cyfri’r dyddiau tan y degfed o Dachwedd.
Microsoft
Stwff da gan Microsoft hefyd, yn rhoi’r Xbox One ar y map mewn ffordd mawr.
Y newyddion mwya, ella, oedd bod y system yn mynd i dderbyn y gallu i chwarae gemau Xbox 360. Mae hyn yn rhoi mantais enfawr dros y PS4, ond rhaid cymryd y newyddion efo pinshiad o halen hefyd, achos fe wnaeth Microsoft addewidion tebyg am y 360 a’r Xbox gwreiddiol, gafodd byth eu gwireddu’n llawn. Felly gawn ni weld.
Roedd Rare yn ôl hefyd. Fe wnaethon nhw gyhoeddi gêm fawr newydd, Sea Of Thieves, sy’n gyffrous i unrhywun sy’n cofio eu hoes aur nhw nôl yn y 90au. Ac i unrhywun sydd ddim, dyna’r Rare Replay – casgliad o 30 o’u clasuron nhw, am tua £30. Bargen y mileniwm? Dim cwestiwn.
Wnaeth y gynhadledd orffen efo gêm fach o’r enw Gears Of War 4, sy’n gyffrous i unrhywun sydd ddim wedi blino efo’r gyfres yna eto.
Ond y newyddion mawr i fi’n bersonol oedd cyhoeddiad swyddogol Dark Souls 3 – yn ystod cynhadledd Microsoft am ryw reswm, er ei fod o ddim yn ecsgliwsif i’r Xbox One. Ac yn wahanol i Dark Souls 2, mae’r cyfarwyddwr chwedlonol Hidetaka Miyazaki – yr athrylith tu ôl i Bloodborne, Demon Souls, a’r Dark Souls cynta – yn ôl wrth y llyw. Bosib iawn mai’r gyfres yma ydi fy hoff un ar y funud, a dwi’n synnu braidd bod hwn ar y ffordd mor fuan. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at farw yn y gêm, drosodd… a throsodd… a throsodd.
Sony
Sut mae churo cynhadledd fel un Microsoft ta?
Wel.
Be am The Last Guardian? Gêm gan y tîm tu ôl i Ico a Shadow Of The Colossus, gafodd ei gyhoeddi gynta chwe mlynedd yn ôl, efo pawb wedi hen golli ffydd fyddai o’n ailymddangos. Ac wrth gwrs, dyma fo ar y PS4, yn edrych yn hollol syfrdanol, fel croes hyfryd rhwng The Neverending Story a Pete’s Dragon, yn barod i gynhesu’ch calon fel mwg poeth o gocoa ar fore Dolig. ‘Da ni dal ddim yn gwybod llwyth o fanylion am y peth, mae’n wir, ond efo’r holl buildup, fyddwch chi’n wirion i beidio prynu hwn.
Nesa, be am fersiwn newydd sbon o Final Fantasy 7? Dwi’n edrych ymlaen at hwn am sawl rheswm. Y cynta ydi ‘mod i erioed wedi chwarae’r gwreiddiol.
Ia. Dwi’n gwbod. A dwi’n sgwennu am gemau. Wna i nôl fy nghôt.
Ydi, mae’r hen fersiwn yna o’r 90au ar gael yn hawdd, ond dydw i ddim wedi penderfynu ei chwarae, achos dydi’r genhedlaeth gynta ‘na o gemau 3D jyst ddim wedi dyddio’n dda. A dyna’r ail reswm dwi’n edrych ymlaen – o’r diwedd, fedra i brofi hwn o’r newydd, a theimlo’r un math o wefr wnaeth fy ffrindiau nôl yn y dydd, heb orfod reslo efo graffeg a system reoli hen-ffasiwn. Gwychbeth.
Ac yn ola… Shenmue 3.
Shenmue chyffin’ 3.
Gwers hanes fach: yn 1999, fe wnaeth Sega ryddhau Shenmue ar y Sega Dreamcast, a’i ddilyn efo Shenmue 2 yn 2001. Er bod pobol wedi colli eu meddyliau’n llwyr am y gemau, a’u bod nhw yn bell o flaen eu hamser, roedden nhw’n hynod o ddrud i’w cynhyrchu – ac efo diflaniad consols Sega, doedd neb arall yn fodlon ariannu’r peth. Ac felly mae ffans Shenmue wedi bod yn disgwyl am 14 mlynedd, ac unwaith eto wedi colli gobaith y byddai hwn erioed yn ymddangos. Tan rŵan. Ac mae’n deg dweud bod yr ymateb wedi bod yn… nyts. Sbiwch, er enghraifft, ar yr ymateb yma gan Adam Koralik, un o ddilynwyr mwya brŵd y gyfres, a dyn sydd ddim yn dangos emosiwn yn aml iawn. Neu hwn gan griw GameTrailers – ond cofiwch droi eich sain i lawr gynta!
I fod yn onest, dwi ddim wedi chwarae’r gemau cynta. Ond dwi’n gweld yr un angerdd at Shenmue dwi’n ei deimlo tuag at y gyfres Earthbound. Felly mae’n rhaid bod ‘na rwbath sbeshal yma. Dwi wedi ei gefnogi ar Kickstarter, ac yn gobeithio y bydd ‘na gasgliad HD ar y ffordd, achos bod yr hen gemau bellach yn mynd am gannoedd o bunnoedd ar eBay.
Newyddion da o lawenydd mawr. Da iawn Sony.
Nintendo
Roedd rhaid i rywun sbwylio’r parti.
Dyma’r peth. Dydi’r gemau ar y ffordd gan Nintendo flwyddyn yma ddim yn edrych yn rhy ddrwg. Erbyn diwedd y flwyddyn, fyddwn ni’n chwarae Xenoblade Chronicles X, Super Mario Maker, a Starfox Zero. Dwi’n mynd i’w prynu nhw i gyd. Mae Super Mario Maker, yn enwedig, yn edrych yn wirion o dda. Ond roedden ni’n gwybod am y gemau yna i gyd yn barod, ar ryw lefel. Doedd ‘na ddim byd am y gêm Zelda newydd ar y Wii U. Dydi spin-off o’r gyfres ar y 3DS ddim cweit yn mynd i roi’r byd ar dân, na spin-offs o’r gyfres Animal Crossing. Ac er bod y cyflwyniad fideo gan Nintendo yn ddigri ac yn ddymunol ac yn llawn pypets…
… doedd hwnna ddim yn ddigon. Mae E3 yn gyfle i’r cwmniau ddatgelu eu syrpreisys mwya chwyldroadol, ac mae gen i ofn wnaeth Nintendo fethu’n llwyr yn hynny o beth flwyddyn yma.
A dwi’n casau dweud hwnna, achos dwi’n ffan mawr ohonyn nhw. Am amser maith, dim ond gemau Nintendo a PC o’n i’n eu chwarae. Ond ar wahân i’r 3DS, sy’n dal i fod yn lwyddiant ysgubol ac yn cadw eu pen uwchben y dŵr, mae’n teimlo i fi fel eu bod nhw’n mynd drwy’r un trafferthion a wnaeth Sega ar ddechrau’r ganrif. Ar y funud, mae’r Wii U – er fy mod i’n hoff iawn ohono fo – yn teimlo’n anghyfforddus o debyg i’r Sega Saturn. Jyst gobeithio y bydd eu system nesa nhw yn dipyn mwy llwyddiannus na’r Dreamcast.
***
Waw. Lot i’w drafod ta be? Sut ‘da chi’n teimlo am hyn i gyd? Cytuno? Anghytuno? Isio rhoi eich barn am un o’r dwsinau o gemau gwych wnes i ddim eu trafod? Rhowch sylw. A sticiwch efo ni yma ar f8 – mae’n mynd i fod yn brysur iawn rownd ffor’ma.
– Elidir
[…] dwi ‘di sôn am hwn o’r blaen. Ddwywaith. A wna i ddim mynd ymlaen am y peth am hir. Ond fydda rhestr o gemau mwya’r flwyddyn ddim yn […]
[…] hi ddim yn glasur o sioe, yn ôl pob sôn. Yn sicr ddim yn cyrraedd uchelfannau gwyllt sioe flwyddyn diwetha. Fyddwn ni ddim yn eich cadw chi’n rhy hir, felly, ond mae ‘na ddigon o uchafbwyntiau […]