Pigion Diwedd y Flwyddyn

Ymddiheuriadau – ro’n i’n meddwl basa gen i adolygiad fideo o Batman: Arkham Knight i fyny wythnos yma. Ond mae’r gêm yna’n hir. Felly wythnos nesa. Dwi’n gaddo.

***

Ar ddechra’r flwyddyn, wnes i restr bach handi o’r gemau i edrych allan amdanyn nhw. O rheini, mae dau wedi dod allan (adolygiadau fideo fan hynfan hyn), dau wedi cael eu gwthio i flwyddyn nesa, ac un i ymddangos (dwi’n cymryd) erbyn diwedd y flwyddyn. Felly dydi fy record i ddim cweit yn 100%.

Ond fydd rhein i gyd allan cyn diwedd y flwyddyn. Mae’n debyg. Ella. Felly steddwch nôl, ymlaciwch, ac ymfalchïwch yn yr holl heip. Mmmmm.

Fallout 4

Iawn, dwi ‘di sôn am hwn o’r blaen. Ddwywaith. A wna i ddim mynd ymlaen am y peth am hir. Ond fydda rhestr o gemau mwya’r flwyddyn ddim yn gyflawn heb hwn. Felly, jyst i’ch hatgoffa chi: mae Fallout 4 yn dod allan. Ar Dachwedd 10. Ac mae popeth yn iawn efo’r byd.

Digon o siarad. Gwyliwch gyflwyniad Bethesda o E3 er mwyn darganfod pam bod pawb braidd yn ecseited.

Ac os ‘da chi ‘di gwylio hwn yn barod, gwnewch eto.

Uncharted: The Nathan Drake Collection

Dwi erioed wedi chwarae yr un o’r gemau Uncharted.

Dwi’n gwbod, dwi’n gwbod.

Felly o flaen Uncharted 4 flwyddyn nesa, be well na chasgliad PS4 o’r holl gemau Uncharted wnaeth ymddangos ar y PS3? Efo popeth yn edrych yn fwy sgleiniog, wrth gwrs. Dwi wedi clywed gymaint am y gemau, ac am Nathan Drake – yr arwr sarcastic, Indiana Jones-aidd, sy’n llofruddio cannoedd o bobol bob gêm, yn hapus braf. A dydi Naughty Dog erioed wedi rhoi troed o’i le yn fy marn i. Fedra i ddim disgwyl i neidio i mewn i’r pecyn, ond dwi’n poeni braidd hefyd faint o fy amser fydd yn cael ei sugno i ffwrdd. Jyst gobeithio fedra i orffen rhain cyn i Fallout gyrraedd.

Total War: Warhammer

Dwi wedi bod yn breuddwydio am gêm fel hyn am flynyddoedd.

Fel un sydd wrth ei fodd efo ffantasi yn gyffredinol, ac wedi treulio lot gormod o amser yn chwarae’r gemau Total War, dwi wedi bod yn gobeithio y byddai’r gyfres, ryw ddydd, yn torri’n rhydd o’i gyfyngiadau hanesyddol a gwneud rwbath mwy gwallgo. Ac mae byd Warhammer yn ffit perffaith.

Bwystfilod enfawr, creaduriaid sy’n hedfan, hud a lledrith… dydi Total War erioed wedi gweld unrhywbeth fel hyn o’r blaen. Ac fel rhywun sydd wastad wedi bod yn chwilfrydig am Warhammer, ond erioed wedi gallu magu digon o amynedd i brynu llwyth o fodelau, eu paentio nhw, a dysgu’r rheolau’n iawn, dwi’n edrych ymlaen gymaint at reoli miloedd o Orcs a’u gyrru nhw ar draws byd ffantasi er mwyn dinistrio fy ngelynion.

Os fydd fy PC yn gadael i fi wneud, wrth gwrs.

Star Wars Battlefront

Ydi, mae’r amser wedi dod i gyffroi’n lân am Star Wars eto. A ryw fis cyn i The Force Awakens gyrraedd, fydd Battlefront yn glanio i’n llusgo ni’n ôl i’r galaith pell, pell i ffwrdd mewn steil. Fydd o hyd yn oed yn cynnwys ein golwg go-iawn cynta ar y blaned newydd Jakku o’r ffilm.

Mae’r gêm yn edrych yn hynod o brydferth, mae’n siŵr o fod yn lwyddiant, ac mae gan hogia f8 blaniau mawr i’w wneud efo hwn. Ond mae ‘na le i boeni hefyd. EA sydd wrth y llyw tro ‘ma, a does ganddyn nhw ddim y record gora. I roi pethau’n ysgafn. Mae rhai wedi cwyno’n barod bod y gêm yn lawnsio efo llai o fapiau na Battlefront 2, gafodd ei ryddhau ddeng mlynedd yn ôl. Debyg iawn y bydd EA yn gwasgu arian allan o’r chwaraewyr er mwyn datgloi mwy o stwff. Ond yn anffodus, mae hwnna’n beth cyffredin iawn heddiw. Dydi o ddim yn broblem sy’n unigryw i Battlefront, nac i EA.

Fydd gan y gêm ddigon i ddal ein sylw, yn syth allan o’r bocs? Gawn ni weld. Ond c’mon. Star Wars. Mae Star Wars yn cŵl. Eto. Diolch byth.

Super Mario Maker

WiiU_MarioMaker_illu01_E3

Dydi Super Mario Maker ddim wedi cael digon o sylw yn yr wasg, yn fy marn i. Bosib iawn fydd hwn yn chwyldroadol.

Pan yn blentyn, ro’n i’n arfer dylunio lefelau Mario ar bapur, ac yn dychmygu sut beth fyddai rhedeg a neidio drwyddyn nhw. O’r diwedd, fedrwn ni wneud hwnna go-iawn. Fydd Mario Maker yn eich galluogi i wneud eich lefelau eich hun, eu rhannu nhw, a lawrlwytho rhai gan chwaraewyr eraill. Ar ben hyn, mae’r gêm yn cynnwys 100 o lefelau gan rai o’r tîm tu ôl i’r gemau. Felly ar ben yr holl stwff ychwanegol, mae ‘na gêm cyfan yn cuddio yma hefyd.

Dyma ateb Nintendo i Little Big Planet – ac am ateb. Yn anffodus, dydi agwedd y cwmni tuag at Youtube a darlledu gemau ddim am helpu pethau, achos fysa hwn yn cael gymaint o sylw tysa pawb jyst yn cael rhannu clipiau fideo yn rhydd.

Ond fel mae o, fydd o’n gymaint o hwyl i’r rhai sy’n ddigon ffodus i’w chwarae. I bawb arall… sori.

***

Unrhyw gemau dwi’n anghofio amdanyn nhw? Ydw i’n gwbwl anghywir am unrhywbeth? Ydw, debyg. Rhowch wybod yn y sylwadau.

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s