Pigion Y Flwyddyn I Ddod

‘Da chi nôl yn y gwaith erbyn hyn, siŵr o fod. Dathliadau’r Dolig a’r Flwyddyn Newydd wedi eu hen anghofio. Fel bod nhw erioed ‘di digwydd. Depresing, dydi?

Wel, stopiwch be ‘da chi’n wneud, ac estynnwch y party poppers yn ôl allan o’r drôr, achos dydi Fideo Wyth ddim ‘di edrych ymlaen at y flwyddyn i ddod eto. Gewch chi fynd nôl i’r gwaith fory, ia? ‘Na ni, ta. A gwnewch banad i chi’ch hun, tra ‘da chi wrthi. ‘Da chi ‘di gweithio’n galed flwyddyn yma, chwarae teg.

Dyma’r peth: dydi’r diwydiant gemau ddim yn gweithio fel y diwydiant ffilm, er enghraifft. Tra’n bod ni’n gwybod y byddwn ni i gyd yn gwylio Avengers: Infinity War – Part 2 ar Fai’r 3ydd, 2019 (Dydd Gwener, rhag ofn eich bod chi isio sticio hwnna yn y dyddlyfr), does ganddo ni ddim lot o syniad be fyddwn ni’n chwarae yn yr Hydref neu’r Gaeaf flwyddyn yma. Ac er fy mod i wir isio sticio The Elder Scrolls 6 yn y rhestr ‘ma, neu Fallout 4, neu Super Mario Galaxy 3, alla i ddim gwneud, gwaetha’r modd. Felly yn fy steil anwyddonol fy hun, a dim mewn unrhyw drefn, dyma bump o’r gemau dwi’n edrych ymlaen atyn nhw fwya yn 2015.

Ymddiheuriadau i Mario Maker, Mortal Kombat X, Grim Fandango, The Legend of Zelda: Majora’s Mask 3D, a Batman: Arkham Knight. Dwi’n siŵr y byddwch chi’n dda, ond dim cweit digon da i gyrraedd y rhestr. Triwch yn galetach tro nesa.

Reit. ‘Co ni off.

The Legend of Zelda (Wii U)

Y gêm fwya fydd allan ar y Wii U flwyddyn yma, mae’n debyg, ac mae’n edrych yn stiwpid o dda. Yn ôl pob sôn, mae o wedi ei ddylanwadu gan y gêm Zelda cynta un, gan y gemau Dark Souls, gan stwff byd-agored fel Skyrim, ac yn dilyn yn olion traed y gêm ddiwetha yn y gyfres, A Link Between Worlds, wnaeth fwy i fywiogi Zelda nag unrhywbeth ers Ocarina Of Time, debyg. Dyma ddau o fawrion Nintendo yn trafod y peth, a dyma sut cafodd y gêm ei ddangos i’r byd fis Mai diwetha, os fethoch chi o. Syfrdanol o brydferth.

Wna i ddarn (neu ddarnau) am y gemau Zelda un dydd, gan mai’r gyfres yna ydi fy hoff un erioed. Ac ella erbyn i fi wneud, fydd ganddon ni fwy o wybodaeth am hwn, achos does ‘na ddim lot o ffeithiau caled yn hedfan o gwmpas y lle ar y funud. Does ‘na ddim teitl go-iawn, hyd yn oed. Ond, am dipyn o hwyl, be am fynd fan hyn, a chynhyrchu eich teitl eich hun? Fy ffefrynnau i hyd yn hyn: The Hammer Mother, a The Sorrow of Tingle. C’mon Nintendo. ‘Da chi’n gwbod bod o’n gwneud sens.

No Man’s Sky (PS4, PC)

‘Da ni dal ddim yn gwbod lot am hwn, chwaith. ‘Da ni’n gwbod ei fod o’n MMO o fath, wedi ei seilio mewn bydysawd cyson, a bod modd gwneud eich ffordd ar ei draws, darganfod planedau a chreaduriaid newydd sy’n cael eu cynhyrchu ar hap gan y gêm, a… dyna ni. ‘Da ni ddim yn gwbod ydach chi’n gallu ymladd y creaduriaid, nac ymladd y chwaraewyr eraill, nac adeiladu stwff fel yn Minecraft. ‘Da ni ddim yn gwbod, yn syml, be ydi pwynt y gêm. Ella does ‘na ddim un. Ond dim otsh gen i. Achos jyst sbiwch ar hwn – un o’r trelyrs gora, ar gyfer unrhywbeth, dwi erioed wedi gweld.

Mae No Man’s Sky, dwi’n meddwl, un ai am fod yn eitha da, neu yn ffenomenon ar lefel Minecraft. Yr unig beth sy’n rhaid i ni wneud ydi cadw’n disgwyliadau dan gaead, rhag ofn i ni gael ein siomi gormod… a disgwyl.

The Witcher 3: Wild Hunt (PS4, Xbox One, PC)

Roedd hwn i fod allan flwyddyn diwetha. Wedyn fis Chwefror. A rŵan fis Mai. Faint o bet wneith o lithro’n ôl i 2016?

Ond dydi hwnna ddim yn broblem, achos mae’n well os ydi gêm yn dod allan wedi ei orffen yn iawn na’n bod ni’n cael Assassin’s Creed Unity arall. Ac ella wna i ddim cael cyfle i chwarae hwn tan 2016 beth bynnag, achos dwi isio chwarae’r gemau eraill yn y gyfres gynta, a wneith hwnna gymryd tua cant o oriau rhyngddyn nhw. Ond dyma’r math o beth sy’n ticio fy mocsys i gyd: gêm ffantasi byd-agored, sy’n rhoi rhyddid gwirioneddol i’r chwaraewr. Y math o beth sy’n gwneud i chi anghofio bwyta, neu gysgu, neu fwydo’r ci, neu bod ganddoch chi ddim ci yn y lle cynta. A, fel ‘da ni wedi ei ddatgelu o’r blaen, mae ‘na elfen Gymreig i’r peth.

Ella, pwys am bwys, dyma fydd gêm gorau’r flwyddyn, a’r gêm next-gen go-iawn cynta, sy’n profi be ellith ein consols sgleiniog newydd wneud pan mae nhw’n cael eu gwthio. Disgwyliwch lot mwy am hwn ganddon ni…

Concrete Jungle (PC)

Gêm llai tro ‘ma. Lot, lot llai.

868040cd0d1778faff15d76d8284ef75_large

Wnes i gefnogi Concrete Jungle ar Kickstarter, achos bod hwn hefyd yn ticio fy mocsys yn neis iawn, diolch yn fawr. Dychmygwch Sim City wedi ei groesi efo gêm gardiau gasgladwy fel Magic: The Gathering neu Hearthstone… o, ac efo lwmp mawr o Tetris wedi ei ychwanegu i mewn i’r gymysgedd hefyd. Mae’n swnio’n od, ond wedi chwarae dipyn bach ar fersiwn cynnar iawn o’r gêm yn ddiweddar, fedra i gadarnhau bod o’n gweithio. Allwch chi ddarllen am holl fanylion y gêm ar y dudalen Kickstarter.

Fydd o ddim yn rhoi’r byd ar dân ella, ond mae’n siŵr o lenwi lot gormod o’ch amser, yn union fel Sim City neu Theme Park neu Tetris yn ôl yn y dydd. Ac efo’r posibilrwydd o estyniadau i Concrete Jungle yn y dyfodol, ac ella fersiynau ar dabledau neu ffonau symudol, peidiwch â synnu os ydi hwn yn troi yn dipyn o sleeper hit.

Bloodborne (PS4)

Gan Hidetaka Miyazaki, creawdwr Demon’s Souls, Dark Souls, Dark Souls 2, dydi Bloodborne ddim yn ddilyniant i’r gemau yna yn union, ond mae’n cymryd lot fawr iawn o ddylanwad ganddyn nhw. Dyma ddelwedd o Bloodborne, er enghraifft. A dyma un o Dark Souls. Ta… ydw i ‘di cael hwnna’r ffordd rong rownd?

Mae ‘na wahaniaethau yma. Mae’r system ymladd, er enghraifft, i fod yn fwy llyfn ac yn gyflymach – yn debyg, ella, i’r gemau Arkham neu Bayonetta. Ond i fi, gêm Souls fydd hon. Dwi dal ddim wedi chwarae Dark Souls 2 (ond yn bwriadu gwneud yn fuan iawn), ond yn ôl pob sôn, dydi o ddim cweit yn cyrraedd uchelfannau’r gêm gynta yn y gyfres. Ella mai dyma ymgais Miyazaki i wella ar ei gamgymeriadau? Gawn ni weld. Ond ar y funud, alla i ddim meddwl am reswm gwell i droi’r PS4 ymlaen yn ystod hanner cynta’r flwyddyn.

A dyna ni. Cytuno? Anghytuno? Ddim yn malio un ffordd neu’r llall? Gadewch sylw, ac fe wneith un o’r tîm eich ateb chi… unwaith i ni orffen chwarae holl gemau llynedd.

– Elidir

2 comments

  1. […] Ydi, mae No Man’s Sky yn edrych yn chwyldroadol. Ond ‘da ni dal ddim cweit yn siŵr be yn union fyddwch chi’n treulio’ch amser yn ei wneud, oni bai am faglu o gwmpas y bydysawd. Ac wrth gwrs, roedden ni hefyd wedi cyffroi am No Man’s Sky flwyddyn diwetha… […]

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s