Ia wir. Hwyl yr ŵyl.
Gyda’r flwyddyn newydd rownd y gornel, a byd y gemau yn cysgu am dipyn bach ar ôl y Dolig, roedden ni’n meddwl rhoi crynodeb bach i chi o hanes blwyddyn gynta Fideo Wyth, ein gobeithion am y dyfodol, a lle ‘da ni isio bod pan yn hen ac yn glafoerio dros y lle ac yn chwarae’r Playstation 38.
Felly, os ‘da chi’n newydd i Fideo Wyth, neu am ryw reswm ddim yn gwybod bob un manylyn bach am ein bywydau… pwy ydan ni? Be ‘da ni’n wneud?
Wel, nôl ar ddechrau’r flwyddyn, yn y dyddiau tywyll ‘na cyn i’r gân “All About That Bass” gael ei ryddhau, fe wnaeth Daf Prys ddechrau sgwennu colofn i Golwg 360 am gemau a thechnoleg, oedd weithiau yn cynnwys deunydd fideo. Enw’r gyfres fideo yna oedd – iyp – Fideo Wyth. Pam? Achos bod o “un yn waeth” na’r gyfres gerddoriaeth boblogaidd Fideo Naw. Wrth gwrs.
Yn hollol annibynnol, ac yn hollol anwybodus o be oedd yn mynd ymlaen ar Golwg, fe wnaeth Elidir Jones ddechrau blog ei hun am gemau, Pric O Lawenydd, oedd hefyd yn cynnwys deunydd fideo. Ac, ar ôl dawnsio o gwmpas y peth am sbel fel cariadon mewn disgo ysgol gynradd, fe ddaeth y ddau at ei gilydd a chydweithio ar y wefan hyfryd yma.
Ac wrth i’r flwyddyn fynd ymlaen, ‘da ni’n teimlo bod cynnwys Fideo Wyth wedi mynd o nerth i nerth. Fe ddaethon ni at ein gilydd am y tro cynta i ddarlledu o Sioe Datblygu Gemau Cymru yng Nghaerdydd. O fanno, aethon ni ymlaen i ŵyl Golwg i drefnu’r twrnament Mario Kart cynta yn y Gymraeg. Fe wnaeth pennod cynta’r gyfres fideo Er Mwyn Byw ddod yn fwy poblogaidd nag unrhyw eitem arall ganddon ni, ac arwain at un o aelodau Llwybr Llaethog i ddweud ar Facebook bod ganddon ni lawer gormod o amser rhydd. Ac, i goroni popeth, gawson ni ganiatâd i ailddarlledu penodau o’r hen gyfres Mega ar ein sianel. Ac roedd ‘na lawer o ddathlu.
Sbiwch, mewn difri calon. Pa mor dda ydi hwn?
Nid yn unig ydan ni’n mwynhau sgwennu a chynhyrchu fideo i’r wefan, ond ‘da ni hefyd yn meddwl ein bod ni’n gwneud gwaith eitha pwysig. Stiwpid, ond pwysig. I ni wybod, ni ydi un o’r unig lefydd y tu allan i S4C sy’n cynhyrchu deunydd fideo cyson yn Gymraeg. Yn sicr, does ‘na ddim lot o lefydd eraill sy’n gwneud hynny am ddim! ‘Da ni’n credu ein bod ni’n normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg mewn rhan o’r byd diwylliannol sydd ddim, yn draddodiadol, wedi cael sylw gan brif ffrwd y cyfryngau Cymraeg, ac yn dangos bod posib defnyddio’r iaith i drafod mwy na ffermio a chorau a rygbi. Hefyd, allwn ni ddim pwysleisio gormod jyst pa mor syfrdanol o boblogaidd ydi gemau’r dyddiau yma, yn enwedig ymysg plant a phobol ifanc. Mae angen cynrychiolaeth i’r Gymraeg yn y diwydiant gemau, ac mae angen i’r Cymry sy’n eu chwarae nhw gael darllen a gwylio newyddion, adolygiadau, ac yn y blaen, yn eu hiaith nhw.
Er hynny, ‘da ni ddim yn hapus efo maint ein cynulleidfa hyd yn hyn. Achos ‘da ni’n gwbwl sicr bod ‘na botensial yma. Dydi’r un ohonon ni ymysg y trydarwyr mwya dylanwadol yn y Gymraeg o bell ffordd (wir, Dyl Mei yn rhif 1? Pa fyth o fyd hunllefus ydi hwn?), nac yn arbennig o bwerus na phoblogaidd yn gyffredinol. Ac yn wael iawn am hybu’n hunain. A ‘da ni’n drewi. Felly problem farchnata ydi o, a ‘da ni angen eich help. Os ydych chi wedi mwynhau rhywbeth ar y wefan, neu ar ein sianel Youtube, neu os ‘da chi jyst yn meddwl bod ni’n cŵl, dywedwch wrth rhywun. Rhannwch y newyddion da. Ac, os ‘da chi ddim wedi gwneud yn barod, dilynwch ni, drwy WordPress neu Youtube neu Twitter neu Facebook. Neu i gyd ohonyn nhw.
Ac, ar ben popeth, os ‘da chi’n meddwl bod ni’n gwneud job rybish o hyn i gyd, ac yn meddwl allwch chi wneud yn well, mae croeso i chi adael sylw – ar WordPress neu Youtube neu Twitter neu Facebook – a chynnig cynhyrchu rhywbeth i ni. Does dim rhaid iddo fo fod am gemau fideo, chwaith. Mae ‘na sawl peth ar gemau bwrdd ganddon ni, ar ben stwff ar ffilmiau arswyd, ffilmiau kung fu gwael, cyfresi gwe, The Walking Dead, comics… dim bod ni isio sathru ar draed IAS, sy’n gwneud gwaith da iawn yn trafod y nyrdfyd yn fwy cyffredinol, ond mae lle i bob math o stwff ar Fideo Wyth. Mae ganddon ni gwpwl o gyfranwyr newydd wedi leinio i fyny yn barod, ond mae ‘na wastad groeso i fwy.
Does ‘na ddim rheswm pam na ddylai Fideo Wyth dyfu’n beth mawr iawn, iawn. O’r dechrau, rhai o’n dylanwadau mwya oedd y rhwydweithiau Geek & Sundry a Nerdist, sy’n gwadd pob math o gyfranwyr i gynhyrchu deunydd cyson o safon uchel iawn, yn fideo, yn bodlediadau, ac yn y blaen. Fe fyddai rhywbeth tebyg yn Gymraeg yn beth da i anelu ati. Ond fe allwn ni fynd ymhellach fyth. Be am gynhyrchu comics a nofelau graffeg gwreiddiol yn Gymraeg, er enghraifft? Neu gemau bwrdd o safon (h.y. dim Gêm y Steddfod)? Neu drefnu mwy o ddigwyddiadau nyrdi ar draws yr wlad? Neu weithio gyda’r diwydiant gemau fideo yng Nghymru i sicrhau bod mwy a mwy o gemau yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg? Mae rhein i gyd yn bosib, gydag amser. O hadau bach…
Felly. Blwyddyn gynta reit dda. Ond ‘da ni’n disgwyl ac yn gobeithio y bydd 2015 yn un llawer mwy i ni. Fydd ‘na fwy o ddigwyddiadau yn cael eu trefnu ganddon ni, gobeithio fydd ‘na fwy o gyfranwyr, cyfresi newydd, yr un hen nonsens fan hyn… a ‘da ni yn dechrau trafod y posibilrwydd o ehangu Fideo Wyth heibio i’r wefan yn barod, felly gwyliwch y gofod hwn…
Ac i’r rhai sydd yn ein dilyn yn selog, diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth. A sticiwch efo ni. ‘Da chi ddim ‘di gweld unrhywbeth eto.
– f8