Ar ôl dipyn bach o frêc, mae ein cyfres fwya poblogaidd yn ôl. Dyma’r rhifyn Nadolig o Er Mwyn Byw, lle mae ffrae dros “Secret Santa” yn y tŷ yn arwain at drip i ddimensiwn arall. Wel, wrth gwrs.
Dyma ein fideo mwya cymhleth ac uchelgeisiol o bell ffordd. Aeth ‘na lot fawr iawn o waith i mewn i’r peth, a dwi’n meddwl bod o’n dangos. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau, a Nadolig Llawen i chi i gyd oddi wrth Fideo Wyth.
– Elidir