Mae hi wedi bod yn sbel ers i Huwcyn bach ddangos ei ben rownd ffordd hyn. Ond doeddech chi’m yn meddwl y bysa fo’n colli Dolig, siŵr iawn…?
Os ‘da chi ddim yn gyfarwydd efo’r seico bach, dyma restr o’i holl fideos…
A dyma’r fideo newydd, lle mae Huwcyn druan yn mynd yn retro, ac yn styc efo’r Nintendo gwreiddiol dros y Dolig. Fedrwch chi ddyfalu pa mor dda mae hwnna’n mynd.
Mae gen i 2 – 3 o ddyddiau’n rhydd i wneud fideo Er Mwyn Byw newydd cyn Dolig, sy’n dipyn o job, gan eu bod nhw’n tueddu i fod braidd yn gymhleth. Ond dwi’n benderfynol o wneud. Noswyl Nadolig, ella…
– Elidir