Strapiwch eich hunain i mewn. Mae hi am ddod yn nyrdaidd ofnadwy rownd ffordd hyn.
Gen-Con ydi’r gynhadledd gemau bwrdd mwya yng Ngogledd America, ac yn ail yn unig i’r gynhadledd anferth sy’n cael ei gynnal yn Essen, Yr Almaen bob blwyddyn. Mae miloedd o bobol yn heidio i ddinas Lake Geneva, Wisconsin, i chwarae ac i brynu ac i arddangos yr holl stwff newydd sy’n mynd i roi’r byd gemau bwrdd ar dân dros y misoedd nesa. Ac mae o newydd fod. Felly pa amser gwell i gael golwg ar rai o uchafbwyntiau’r sioe, ac i edrych ymlaen at ddyfodol yr hobi?
Fydda i ddim yn sôn am bopeth oedd yn y sioe, wrth reswm – os oes awydd ganddoch chi neidio i mewn i’r nyrd-bwll yn llwyr, cymrwch olwg ar sianeli Youtube The Dice Tower a Drive Thru Review, neu wefan Shut Up & Sit Down. Ond dim cyn i chi ddarllen hwn. C’mon wan.
Cash ‘n’ Guns (Ail Argraffiad)
Be am ddechrau’n ysgafn, achos bod pethau am fynd yn reit drwm yn reit sydyn. Mae chwarae Cash ‘n’ Guns fel byw drwy fersiwn cartwnaidd o ddiwedd Reservoir Dogs. Fyddwch chi’n pwyntio gynnau plastig at eich gilydd, yn saethu’ch ffrindiau yn y cefn ac yn ymddwyn fel dihirod celwyddog, treisgar. Felly… ‘da chi’n gwbod. Jyst fel bywyd go-iawn.
Dyma griw Beer & Board Games yn chwarae’r gêm, i wneud pethau’n gliriach. Neu’n fwy aneglur, achos eu bod nhw’n feddw iawn ar y pwynt yma’n y noson. Dydi’r fideo yma ddim yn saff i’r gweithle, gyda llaw. O gwbwl.
Os wyliwch chi hwnna ac yn meddwl bod y gynnau oren yn edrych braidd yn rybish, a’r rheolau braidd yn syml, mae ‘na fersiwn newydd o’r gêm ar ei ffordd, efo’r holl broblemau wedi eu smwddio allan. Dwi’n edrych ymlaen at gael copi o hwn, achos ei fod o’n union y math o gêm barti caotig sy’n gweithio’n dda efo fy nghriw i o ffrindiau. Mwy o wybodaeth yma.
Star Wars: Imperial Assault / Star Wars: Armada
Mae gemau bwrdd lle ‘da chi’n crwydro dungeons yn ymladd bwystfilod – fel Dungeons & Dragons ond efo lot llai o chwarae rôl – yn genre poblogaidd iawn ar y funud. Descent sy’n arwain y pac, ond mae ‘na lu o rai eraill hefyd: Super Dungeon Explore, Thunderstone, Dungeon Run, a Wrath of Ashardalon, i enwi rhai yn unig. Ac fe fyddwch chi’n cael adio un arall at y rhestr yn fuan. Ond gydag un gwahaniaeth mawr…
Yn Star Wars: Imperial Assault, fe fyddwch chi’n arwain arwyr o fyd Star Wars o gwmpas cadarnleoedd yr Ymerodraeth, gydag un chwaraewr bach unig yn chwarae rhannau’r baddies i gyd. Mae o wedi ei gyhoeddi gan Fantasy Flight Games, un o gyhoeddwyr gorau’r byd gemau bwrdd, ac fe wnaeth Tom Vasel o The Dice Tower – dyn sydd byth yn anghywir am unrhywbeth, fel y gwelwch chi o’i lun…
…ei ddewis fel gêm y sioe yn ddiweddar. Felly, ‘da chi’n gwbod. Dyna ni hwnna.
Ac mae ‘na gêm Star Wars arall ar y ffordd, hefyd gan Fantasy Flight. Mae’r gêm Star Wars: X-Wing wedi bod allan am sbel, yn boblogaidd iawn, ac yn lot o hwyl i’w weld, fel y gwelwch chi o’r rhaglen Tabletop.
Yn hwn, ‘da chi’n rheoli X-Wings, Tie Fighters, y Millennium Falcon, ac yn y blaen…
… a ddylsa chi fod isio chwarae hwn yn barod…
… wrth i chi saethu’r crap byw allan o’ch ffrindiau. Yr unig broblem efo’r gêm ydi nad oes ‘na longau mawr fel y Star Destroyers ar gael, achos y bydda nhw mor fawr a’ch car. Yr ateb? Cyhoeddi gêm newydd sbon. Star Wars: Armada. Fel Star Wars: X-Wing. Ond yn fwy.
Kerching.
Dungeons & Dragons: Attack Wing
Neu, os dim Star Wars ydi’ch peth chi, a bod yn well ganddoch chi hedfan dreigiau anferth yn hytrach na llongau gofod, dyma chi Dungeons & Dragons: Attack Wing. Croeso.
The Witcher Adventure Game / X-COM: The Board Game
I ddod a phethau yn ôl at gemau cyfrifiadur am dipyn bach – mae ‘na ddau gêm fwrdd yn seiliedig ar gemau cyfrifiadur ar y ffordd, a’r ddau wedi eu cyhoeddi gan Fantasy Flight. Dydi hwnna’n gyd-ddigwyddiad bach neis?
Mae’r gyfres o gemau chwarae rôl The Witcher yn hardcore i’r craidd. Anodd, yn llawn dewisiadau gwahanol, wedi eu seilio ar gyfres o lyfrau ffantasi o Wlad Pwyl, yn cymryd oriau (ac oriau ac oriau) i’w gorffen, ac wedi eu hanelu at oedolion (oedolion tew efo beirf enfawr, yn ddelfrydol), dydyn nhw ddim yn gemau i’w trin yn ysgafn. Ac mae’r gêm fwrdd The Witcher i’w weld yn dilyn yn eu holion traed. Gwyliwch y fideo yma’n esbonio’r rheolau a triwch wneud synnwyr ohono fo. Dwi’n herio chi. Os ‘da chi’n licio stwff ffantasi trwm, dyma’r gêm i chi.
Fe gafodd y gêm X-COM diwetha ei ddylunio fel gêm fwrdd, yn ôl y sôn, cyn i’r rheolau gael eu trawsblannu i’r byd digidol. Mae o’n gwneud synnwyr felly bod gêm fwrdd lawn X-COM yn cael ei gynhyrchu. A dyma fo. Unwaith eto, mae o’n gêm trwm iawn yr olwg, efo thema sci-fi… dydi o ddim yn edrych yn wahanol iawn i lot o gemau eraill ar yr olwg gynta.
Oni bai am un peth, sydd wedi achosi dipyn o stŵr, i ddeud y gwir. Mae’r gêm yn gofyn i chi osod app arbennig ar eich ffôn er mwyn chwarae. Fe fydd yr app yn rheoli’r bobol ddrwg i gyd ac yn sortio lot o’r gwaith cyfrifo mwy diflas i chi. Mae o’n ddatblygiad sydd o bosib yn mynd i wyrdroi’r diwydiant gemau bwrdd. Neu ddim. Gawn ni weld sut fydd o’n gweithio allan.
Pathfinder Adventure Card Game ar iOS
Dwi ‘di bod isio trio Pathfinder Adventure Card Game am sbel. Mae o’n efelychu gemau chwarae rôl fel D & D (neu Pathfinder ei hun – duh), ond yn defnyddio cardiau yn hytrach na modelau, papur a phensel. A fedrwch chi chwarae ar eich pen eich hun, sy’n fonws ar gyfer pobol heb ffrindiau. Y… fyswn i’n dychmygu.
A bellach mae Obsidian (Baldur’s Gate, Fallout: New Vegas, South Park: The Stick Of Truth) yn cyhoeddi’r gêm ar dabledi iOS. Ond does gen i ddim tabled iOS. Pam wnewch CHI ddim ei lawrlwytho fo a gadael i fi wbod ydi o’n werth ei gael ai peidio? Ydw i’n gorfod gwneud y gwaith i gyd rownd y lle ‘ma?
Machi Koro
Gan symud i ffwrdd o Gen-Con, ac at y gemau oedd ddim yn y sioe (dwi’n cymryd), ond yn dod allan yn fuan ac yn siŵr o wella eich bywydau – dwi’n mynd i brynu Machi Koro yr eiliad mae o’n dod allan. Gêm rheoli adnoddau fel Settlers Of Catan, ond yn fyrrach, yn defnyddio cardiau yn hytrach na bwrdd, ac yn lot mwy ciwt a Siapaneaidd, mae pawb sy’n chwarae Machi Koro i’w gweld yn disgyn mewn cariad efo’r profiad yn syth. Mae geiriau fel “un o’r gemau gorau erioed” yn cael eu taflu o gwmpas, wili-nili. Dyma Rodney o’r gyfres grêt Watch It Played yn esbonio’r peth.
Dwi’n meddwl fydd angen i fi wneud trip arall i Rules Of Play pan mae hwn yn cael ei ryddhau ar ddiwedd y mis…
Gemau “Legacy”
Dair mlynedd yn ôl, gafodd Risk Legacy ei ryddhau. Roedd o’n chwyldroadwy. Roedd o’n chwarae lot fel yr hen fersiwn o Risk, ond gydag un gwahaniaeth mawr – roedd pethau’n newid o gêm i gêm. Wedi ei gynllunio i’w chwarae efo’r un grŵp o chwaraewyr bob tro, os ‘da chi’n ennill un gêm, gewch chi wneud pethau fel ailenwi cyfandir ar eich ôl chi, neu rwygo rhai o’r rheolau i fyny (yn llythrennol), ac yn y blaen. Syniad hollol wych. Yn anffodus, mae ‘na un peth gwael am Risk Legacy: dydi Risk ddim yn gêm da iawn yn y lle cynta.
Yn lwcus, mae ‘na gemau “legacy” eraill ar y ffordd. Un ydi Seafall Legacy – ond ‘da ni ddim yn gwybod unrhywbeth am hwnna, oni bai am y ffaith ei fod o’n gêm newydd sbon sy’n ymwneud â môr-ladron. Mwy cyffrous ydi Pandemic Legacy, sy’n defnyddio’r un math o syniadau welson ni yn Risk Legacy, ond yn eu sticio nhw ar gêm – Pandemic – sydd ymysg y gemau bwrdd gorau erioed. Fydd hwn yn briliant.
Whiw. A dyna ni. Un dydd, fydda i’n dysgu sut i sgwennu cofnodion byr. Dwi’n gaddo. Ond tan i hynny ddigwydd… wela i chi o gwmpas y bwrdd.
– Elidir
[…] i ni. Does dim rhaid iddo fo fod am gemau fideo, chwaith. Mae ‘na sawl peth ar gemau bwrdd ganddon ni, ar ben stwff ar ffilmiau arswyd, ffilmiau kung fu gwael, cyfresi gwe, The […]
[…] ni wedi sôn droeon ar f8 am gemau bwrdd modern, a pa mor hollol, hollol briliant ydyn nhw. Wir yr. Fedrwn ni’m stopio mynd ymlaen am y […]