Adolygiad: Spyfall

‘Da ni wedi sôn droeon ar f8 am gemau bwrdd modern, a pa mor hollol, hollol briliant ydyn nhw. Wir yr. Fedrwn ni’m stopio mynd ymlaen am y peth.

Deud y gwir – sibrydwch y peth – mae’n well gen i gemau bwrdd na gemau fideo. Dwi jyst ddim yn cael lot o gyfle i’w chwarae nhw. Felly pan dwi’n cael gwneud, ac mae’r profiad yn gofiadwy, mae o hyd yn oed yn fwy sbeshal. Ac mae’n falch gen i ddweud mod i wedi cael profiad fel’na yn ddiweddar.

Wnes i brynu’r gêm Spyfall  o siop hyfryd Rules Of Play yng Nghaerdydd heb wybod llawer amdano, heblaw am y ffaith bod pawb wrth eu boddau efo fo. Ac mae’n falch gen i ddweud bod yr holl heip yn haeddiannol.

SPY_box_ENG_front

Cyn i ni fynd ymhellach: y rheolau. Mae’n gêm sy’n ffitio rhwng 3 ac 8 o chwaraewyr, ond ella ar ei orau efo ryw 5 – 6. Mae’r rhan fwya o chwaraewyr yn cael cerdyn, efo’r un lleoliad arno fo – banc, archfarchnad, trên, garej, ysgol, etc. Mae ‘na 30 o leoliadau posib i gyd. Ond mae un yn cael cerdyn efo’r gair ‘Spy’ arno fo, a dydi’r chwaraewr truenus yna ddim yn gwybod lle mae nhw.

Sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr yn thematig, ond ta waeth. Wnawn ni symud ymlaen.

Yn ystod rownd o’r gêm – efo’r chwaraewyr yn penderfynu ar yr hyd, rhwng 8 ac 15 o funudau – fe fydd pawb yn gofyn cwestiynau i’w gilydd am y lleoliad. Mae’r chwaraewyr ‘ffyddlon’ yn trio gweithio allan pwy ydi’r ysbïwr, a’r ysbïwr yn trio gweithio allan lle mae nhw. Y tric, felly, ydi ateb y cwestiynau hynny fel bod y chwaraewyr eraill yn gwybod eich bod chi ar y lefel, ond i beidio rhoi digon o wybodaeth i’r ysbïwr allu gwybod unrhywbeth.

Mae ‘na chydig mwy i’r gêm na hynny, ond dwi’n gwbod bod eich amser yn werthfawr.

Ella bod o’n swnio, ar ôl clywed y rheolau’n sydyn fel’na, bod gan yr ysbïwr ddim llawer o siawns o ennill. Ond gan bod neb yn gwybod pwy ydyn nhw, mae’r atebion yn hynod o amwys, ac mae nhw’n gallu cael getawê efo’r atebion mwya hurt.

Y meistr yn hyn o beth, yn y sesiwn y noson o’r blaen, oedd fy ffrind Conor. Wnaeth o chwarae rôl yr ysbïwr nifer gwirion o weithiau, ac osgoi cael ei ddal y rhan fwya o’r amser. Roedd ‘na jyst rhywbeth am y ffordd oedd o’n blyrtio ei atebion allan, yn hollol hyderus, ac yn gwneud i bawb anghofio pa mor nyts oedden nhw.

Enghreifftiau?

Pan oedd pawb arall yn gweithio mewn theme park, roedd o’n gorfod ateb cwestiwn am ei ddyletswyddau yno. Ei ateb:

“I just generally scrape around.”

Wnaeth neb fatio amrant am hwnna. Anhygoel. Tro arall, pan oedd pawb yn gweithio mewn casino, fe atebodd o gwestiwn am ei gydweithwyr. Ei ateb:

“My colleagues fall by the wayside.”

Rŵan, dydi hwnna ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Ond gymaint ydi’r teimlad o ddryswch a pharanoia o gwmpas y bwrdd, wnaeth o ddianc y tro yna hefyd. Cymharwch hwn efo’r rownd pan o’n i’n ysbïwr, efo pawb arall yn gweithio mewn theatr, ac yn gorfod dweud pa gymwysterau oedd yn fy ngwneud i’n gymwys ar gyfer y swydd. Fy ateb i:

“Just some basic accounting.”

Ia. Ges i ddim getawê efo hwnna.

Mae Spyfall yn gêm ddigri. Iawn. Ac yn wahanol i gemau fel Cards Against Humanity, mae’r hiwmor i gyd yn dod o’r chwaraewyr. Ond eto, mae ‘na ddigon o fframwaith sylfaenol fel bod y gêm yn dda hyd yn oed ymysg pobol sydd ddim yn arbennig o hyderus.

Mae ‘na system o bwyntiau yma, ond dydi ennill ddim yn bwysig yn Spyfall. O gwbwl. Wnaethon ni anghofio am hwnna’n ddigon buan, a jyst chwarae. Ac yna fe ddigwyddodd rhywbeth gwyrthiol. Wnaethon ni golli trac ar amser yn llwyr, a chwarae tan chwarter wedi un, heb sylwi ei bod hi mor hwyr. Mae hynny’n digwydd efo gemau fideo yn aml, ond fel arfer pan ‘da chi ar ben eich hun. Tro yma, roedd ‘na bump ohonom ni. Dwi erioed wedi profi hynny efo gêm fwrdd o’r blaen.

Felly. Fel ‘da chi’n siŵr o fod wedi casglu, mae Spyfall yn gêm arbennig iawn. Un o’r gemau parti gorau i fi chwarae erioed, efo digon o strategaeth a gwaith meddwl i blesio’r nyrds sy’n hoff o stwff ychydig dyfnach.

Rhedwch i Rules Of Play, neu eich siop gemau lleol, er mwyn sicrhau copi. Achos mae o’n hollol briliant. Neu jyst steddwch yna yn eich trôns ac ordrwch gopi ar-lein. Eich dewis chi.

– Elidir

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s