Fideo Wyth ar Y Lle – Eto!

Helo, hen ffrindiau. Mae hi wedi bod yn sbel.

Mae ‘na reswm pam ein bod ni wedi bod braidd yn dawel yn ddiweddar – ‘da ni wedi bod yn brysur yn ffilmio ac yn golygu ein hymddangosiadau ar gyfres nesa Y Lle!

Os fethoch chi’r gyfres ddiwetha…

1) Pam?
2) Dyma chi. Pedair eitem, o’r dechrau i’r diwedd.

A tro ‘ma, mae ‘na chwech eitem. O’r diwedd, ‘da ni’n gwybod sut beth ydi gwaith go-iawn.

Pa fath o bethau fyddwn ni’n eu trafod ar y gyfres yma, ta? Wel…

– Er mawr siom i Daf, fyddwn ni’n edrych ar fwy o ffilmiau yn seiliedig ar gemau. Mae nhw’n hollol, hollol rybish, ac yn cynnwys Mortal Kombat: Annihilation – ella’r ffilm waetha erioed. Edrychwch ymlaen at hwnna

– Fe fydd Elidir yn trio hyfforddi Daf i fod yn chwaraewr gemau proffesiynol (Spoilers: heb lawer o lwc), ac yn trin a thrafod e-chwaraeon: y gemau ‘na sy’n denu torfeydd enfawr ar draws y byd.

– Golwg ar y gêm ryfel Warhammer a phopeth sy’n cylchdroi o’i amgylch, yn gemau fideo, yn ffilmiau, ac yn y blaen. Allwn ni ddim bod yn siŵr, ond ‘da ni’n meddwl mai dyma’r eitem cynta ar Warhammer i ymddangos ar y teli sy’n cynnwys jôc am Gwilym Owen.

– Pan fydd Calan Gaeaf yn dangos ei wyneb hyll, fe fyddwn ni’n trafod rhai o’r gemau arswyd gorau… a rhai eraill sy’n dychryn Daf am resymau hollol wahanol. Mae ‘na wisgoedd ffansi.

DSC_0162

– Yn ein ymdrech gora i efelychu’r Open University, fe fyddwn ni’n cyflwyno darlith am ffenomen ryfedd y “fanboy”. Ond un efo gags am Y Lolfa, a Pobol Y Cwm, a stwff fel’na. Un arall i apelio at gynulleidfa ifanc Y Lle, felly.

– Ac, o flaen rhyddhau Star Wars: The Force Awakens, fe fyddwn ni’n edrych ar ochr dywyll Star Wars – y llyfrau, comics, gemau a rhaglenni teledu sydd wedi gwneud eu gorau i sbwylio’r gyfres wrth fod yn gwbwl hurt.

Hip-hip hwrê! Mae’r holl shebang yn cychwyn nos Iau nesa am 10.30 ar S4C – ac fel arfer, fe fydd yr eitemau i’w cael ar ein sianel Youtube yn fuan wedi hynny.

Mae hi dal yn brysur yma, ond disgwyliwch i fwy o stwff ddechrau ymddangos wythnos nesa. ‘Da ni wrthi yn chwarae Armello, Super Mario Maker Destiny, ella gawn ni drip arall i Glwb Llyfrau f8… digon i’w wneud, felly. Dim ond angen amser i’w wneud o.

Hwyl am y tro.

– f8

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s