Mae’r cynta o gemau mawr yr Hydref / Gaeaf wedi cyrraedd, yn Super Mario Maker ar y Wii U. Gêm lle ‘da chi’n cynllunio eich lefelau Mario eich hun, uwchlwytho nhw i’r we, a chwarae lefelau gan bobol eraill, ar draws y byd.
Fyddwn i wrth fy modd yn gwneud adolygiad fideo o hwn, a brolio fy nghreadigaethau fel’na, ond dydi polisïau Nintendo tuag at Youtube ddim yn gwneud hwnna’n bosib, yn anffodus. Felly, gan gysidro ‘mod i’n bwriadu sgwennu am hwn yn fyr eto yn fy erthyglau cyson am gemau diweddar, ro’n i’n meddwl mai’r peth gora i wneud oedd sgwennu darn ar ôl treulio pedwar diwrnod efo’r gêm.
Y peth cynta i nodi: tysa chi wedi gofyn i fi, yn ryw wyth oed, be fysa fy gêm delfrydol, dwi’n siŵr mai rhywbeth fel’ma fyswn i wedi ei gynnig i chi. Ro’n i’n dylunio lefelau Super Mario Bros ar bapur beth bynnag. Fysa fy ymennydd bach wedi ffrwydro tysa rhywbeth fel’ma yn bodoli bryd hynny.
Ac, ar y cyfan, mae’n falch gen i ddweud bod Super Mario Maker yn gwireddu’r addewid gwallgo yna.
Cyn clodfori’r gêm hyd syrffed, rhaid nodi’r un gwendid eitha mawr sy’n amlwg reit o’r cychwyn. Dydi popeth ddim ar agor i chi yn syth. Deud y gwir, mae’r holl opsiynau yn cyflwyno eu hunain yn boenus o ara deg. Ar y dydd cynta, dim ond yr elfennau mwya syml o Mario (blociau, peipiau, Goombas a.y.y.b.) fydd ar gael i chi. Mae’n rhaid treulio o leia 5 munud yn adeiladu lefel, am wyth o ddyddiau, cyn i bopeth fod ar gael i chi. Mae hwnna’n wirion, braidd. Fedra i weld pam bod Nintendo wedi gwneud hyn, er mwyn peidio taflu dewisiadau di-ri at chwaraewyr o’r cychwyn, ond ella bod nhw wedi mynd fymryn rhy bell.
Ac mae’n bosib twyllo, wrth gwrs, wrth symud cloc y Wii U ymlaen. Ond ‘da ni ddim yn hoff o dwyllwyr yma ar f8. Felly stopiwch.
Lle dwi arni rŵan? Wel, mae gen i un lefel wedi ei wneud ar gyfer pob diwrnod dwi ‘di bod yn berchen ar y gêm. Mae’r ddau diwetha’n dda. Mae’n syfrdanol, deud y gwir, pa mor gyflym ‘da chi’n dysgu hanfodion y peth. Dwi’n gobeithio mai gwella eto fydd fy hanes i.
Mae’n bosib newid sut mae’r lefelau yn edrych, a sut mae Mario yn ymddwyn, yn cyfateb i’r gemau Super Mario Bros, Super Mario Bros 3, Super Mario World, a New Super Mario Bros U. Hyd yn hyn, dim ond yr elfennau o Super Mario World ddim ar gael gen i. Sy’n siom, achos mai estheteg y gêm yna ydi’r gora. Ac mae’n bosib i fi wneud lefelau tu allan, dan ddaear, dan ddŵr, mewn castell, neu ar long awyr, efo mwy o steiliau fel’na ar y ffordd. Ac ar ben yr elfennau cychwynnol, dwi bellach yn gallu defnyddio pob math o elynion ac eitemau newydd. Gan gynnwys yr Hammer Brothers.
Gas gen i’r Hammer Brothers.
Felly does dim rhaid i chi boeni am fy sgiliau i. O, na. Ond be am bawb arall? Sut mae’r lefelau eraill yn siapio fyny?
Wel, mae ‘na nifer braidd yn annifyr o lefelau sydd jyst yn chwarae eu hunain: mecanweithiau hynod o gymhleth, prydferth a chlyfar sy’n gwthio Mario tuag at ddiwedd y lefel heb i chi orfod gwneud dim byd. Sy’n iawn unwaith, ond mae ganddoch chi awydd dod i hyd i lefelau mwy traddodiadol bron yn syth. Ac mae hi’n gallu bod braidd yn anodd eu ffeindio nhw, yng nghanol lefelau byrrach sy’n ddim byd mwy na ryw jôc fach sydyn. Yn ffodus, fedrwch chi weld rhagolwg o fap y lefel cyn ei chwarae, er mwyn i chi allu dweud be sy’n eich disgwyl. Ac yng nghanol hyn i gyd, mae ‘na berlau. Fy hoff rai i hyd yn hyn ydi’r nifer sylweddol sy’n trio efelychu’r gemau Donkey Kong Country, yn defnyddio fframwaith Mario. Lot fawr iawn o hwyl.
Dipyn o berl felly, a gêm fydd yn dod yn fwy ac yn fwy o glasur wrth i amser fynd ymlaen, yn dal dychymyg rhywun yn union fel mae Minecraft yn gwneud, a gobeithio yn meithrin cenhedlaeth newydd o ddylunwyr gemau. Bril.
A cyn gorffen, wrth gwrs, mae’n rhaid i fi roi lincs i’r lefelau wnes i. Achos dyna be ‘da chi’n wneud yn y sefyllfa yma. Yn anffodus, yr unig ffordd o wneud ydi sgwennu côd eithriadol o hirwyntog. Ochenaid.
Lefel 1: 11E4-0000-0016-D779
Fy ymgais gynta, lle wnes i daflu pob math o bethau at y wal i weld be oedd yn sticio. Er mod i’n meddwl bod y lefel yma’n wirion o hawdd, dim ond 9% o chwaraewyr sydd wedi ei orffen. Dwi’m yn gwbod be mae nhw wedi ei wneud efo’u bywydau. Dim chwarae Mario, yn amlwg. Y ffyliaid. Dim byd i weld yma.
Lefel 2: 94C6-0000-001F-EB87
Dyma lle wnes i ddechrau chwarae efo syniadau ychydig yn fwy cymhleth. Sef: mae’r lefel yma dipyn yn haws os ‘da chi’n dod o hyd i’r blodyn cudd ar y cychwyn. Dyna fi ‘di sbwylio popeth i chi. Eto, dim byd sbeshal.
Lefel 3: 399F-0000-002D-7E92
Fy lefel mwya poblogaidd hyd yn hyn, efo tri o chwaraewyr wedi rhoi seren bach i fi, i nodi eu bod nhw wedi ei fwynhau. Trip hunllefus dan ddŵr, lle fyddwch chi’n gwynebu squids, sbeics, a gynnau sy’n saethu mwy o squids. Mae’r gwaith dylunio ar hwn gymaint gwell, a bron yn teimlo fel lefel go-iawn, os ga i ddeud.
Lefel 4: 0121-0000-0038-B4E1
Dwi mor, mor hapus efo hwn. Taith drwy gastell yn llawn triciau cas. Eto, dim ond un chwaraewyr truenus sydd wedi ei chwarae hyd yn hyn, a wnaethon nhw farw reit ar y cychwyn. Deud y gwir, mae o’n wirion o anodd, hyd yn oed os ‘da chi’n gwbod be sy’n dod i fyny. Ond dydi o (bron) byth yn annheg. O, ac mae ‘na Hammer Brothers dros y siop.
Ia. Sori am hwnna.
Os ‘da chi’n berchen ar Super Mario Maker ac wedi gwneud lefelau eich hunain, rhowch linc iddyn nhw yn y sylwadau. Fyswn i wrth fy modd yn eu concro nhw fel y brenin yr ydw i. Ac os ydw i’n gwneud unrhyw gampweithiau eraill, chi fydd y cynta i wbod, thgwrs.
– Elidir
[…] Un arall dwi wedi ei drafod yn barod. Fan hyn. […]