Gemau Diweddar, Rhan 9

Llwyth arall o gemau wedi eu gorffen, a finnau’n trio fy ngorau i glirio dipyn bach ar y backlog cyn i gemau mawr yr Hydref / Gaeaf (Uncharted Collection, Fallout 4, Star Wars: Battlefront, Xenoblade Chronicles, a mwy) gyrraedd.

Pob lwc i fi, felly.

Hitman: Blood Money (PS3 / Xbox 360 / PS2 / Xbox / PC, 2006)

Dwi ‘di bod yn parhau i chwarae drwy’r gemau Hitman, ac wedi cyrraedd Blood Money, sy’n cael ei gysidro yn aml fel y gorau yn y gyfres.

Y peth cynta sy’n eich taro chi pan yn chwarae’r gyfres yn gronolegol ydi’r naid mawr mewn graffeg yma. Mae ffigwr Agent 47 yn llenwi’r sgrîn yn Blood Money, a popeth yn lot mwy sgleiniog a hyfryd. Yn gyffredinol, hefyd, mae’r profiad chwarae yn fwy llyfn, ac mae’n teimlo fel gêm llawer mwy modern yn gyffredinol. Mae ‘na ddarnau yng nghanol torfeydd enfawr sy’n dal i edrych yn syfrdanol hyd heddiw. Doedd gen i ddim syniad bod y PS2 a’r Xbox yn gallu gwneud y fath bethau.

Ond ai dyma’r gêm Hitman gora go-iawn? Wel, mae’n anodd dweud. Daliwch i ddarllen…

Call Of Duty: Advanced Warfare (PS4 / Xbox One / PS3 / Xbox 360 / PC, 2014)

Wnes i fideo yn trafod hwn yn barod. Ond ‘da chi ‘di gwatshiad hwnna’n barod, dydach? *culhau llygaid*

Hitman: Absolution (PS3 / Xbox 360 / PC & Mac, 2012)

Ac felly dyma fi wedi cyrraedd y gêm Hitman diweddara… cyn i’r nesa yn y gyfres ymddangos flwyddyn nesa, beth bynnag.

Mae’n anodd trafod Absolution heb sgrechian am ei broblemau mawr i ddechrau. Y mwyaf o rheini, yn sicr, ydi’r driniaeth uffernol o ferched yma. Mae’r gêm yn dechrau efo dynes “artistig” o noeth yn cael ei llofruddio yn y gawod, a ‘da chi’n mynd ymlaen i ymladd criw o asasiniaid benywaidd sydd – am ddim rheswm – yn dewis gwneud eu gwaith mewn gwisgoedd lleianod latex. Dydi hi ddim fel bod yr agwedd yma o’r gêm wedi ei guddio chwaith. Roedd o yn yr holl hysbysebion.

Dydi gemau ddim angen rybish fel’na, ac mae’n amhosib ei anwybyddu. Ac am y rheswm yna, dwi’n casau fy hun am gyfadde fy mod i wedi mwynhau Hitman: Absolution fel arall. Cyn belled a’ch bod chi’n medru anwybyddu’r stori ddisynnwyr, a jyst cysidro bob un lefel fel uned fach ei hun, mae’r profiad chwarae yn grêt. Mae ganddoch chi lawer mwy o opsiynau a rhyddid nac yn y gemau eraill, mae o’n edrych yn well, yn teimlo’n well i’w reoli…

Ond mae ‘na rai pethau fedrwch chi fyth anghofio amdanyn nhw’n llwyr. Felly sori Absolution, ond oherwydd bod hwn wedi ei anelu’n syth at fechgyn anaeddfed 14 oed, dwi’n meddwl bod rhaid cysidro Blood Money fel gêm orau’r gyfres hyd heddiw.

Super Mario Maker (Wii U, 2015)

Un arall dwi wedi ei drafod yn barod. Fan hyn.

Ond mae ‘na fwy i’w ddweud. Erbyn hyn, dwi wedi datgloi popeth sydd gan Super Mario Maker i’w gynnig o ran creu lefelau, ac wedi ei chwarae o gwmpas lot mwy efo’r lefelau mae pobol eraill wedi eu gwneud. Ac mae hon yn sicr yn gêm o ddwy ran cwbwl wahanol.

O ran chwarae lefelau, mae Mario Maker yn gymaint o hwyl. OK, ella bod hi’n anodd dod o hyd i lefelau gwirioneddol dda heb wneud lot o waith ymchwil, ond hyd yn oed pan dydi’r lefelau ddim yn glasuron, mae nhw’n aml yn eich tynnu chi mewn beth bynnag, a ‘da chi wastad isio chwarae “jyst un arall”.

O ran creu lefelau, mae’r pecyn hefyd yn briliant. Ond… dwi ddim yn meddwl bod o cweit i fi. Mae creu lefel gwerth chweil jyst yn cymryd gymaint o amser, heb sôn am waith meddwl, gwaith paratoi, a chreadigrwydd. Mae creu lefel bach sydyn yn dal i fod yn lot o hwyl, ond pan o’n i’n eu cymharu i’r campweithiau sy’n bodoli’n barod, o’n i’n teimlo fymryn yn chwithig oherwydd fy sgiliau pitw fy hun. Ond dyna ni. Fy mhroblem i ydi hynny, a dim problem y gêm. Mae’n dal i fod yn un o uchafbwyntiau catalog y Wii U.

Blood Bowl 2 (PS4 / Xbox One / PC, 2015)

maxresdefault (2)

Bosib fydd ganddon ni lot mwy am Blood Bowl 2 yn dod, gan gynnwys fideo swmpus. Felly daliwch eich dŵr.

Am y tro, yr hanfodion: dyma gêm strategaeth, wedi ei seilio ar y gêm fwrdd o’r un enw, sy’n efelychu fersiwn y byd Warhammer o bêl-droed Americanaidd. Ac mae’n debyg fedrwch chi ddeud yn barod fyddwch chi’n mwynhau hwn ai peidio.

Mae hanfodion y gêm yn briliant. Mae’n dal ysbryd a theimlad chwarae gêm fwrdd yn grêt, efo synau dîs yn rowlio, a’r holl ganlyniadau ar waelod y sgrîn, ac ati. Mae’r rheolau yn cael eu dysgu’n dda (os ychydig yn ara deg), a’r profiad o chwarae efo pobol eraill yn gymaint o hwyl. Y prif atyniad ydi creu eich tîm eich hun a’u harwain o dwrnament i dwrnament, yn gweld chwaraewyr yn datblygu, a chael sgiliau newydd, a hyd yn oed yn marw. Os ‘di hwnna’n swnio’n dda, dwi’n oedi dim cyn argymell Blood Bowl 2.

Mae ‘na wendidau hefyd, fel y sylwebaeth “gomedi”, sy ddim yn ddigri, ac yn fwy ailadroddus nac unrhywbeth dwi wedi ei brofi ers dyddiau’r N64. Mae’r prif ymgyrch i un chwaraewr ychydig yn rhy hawdd ac ara deg. ‘Da chi’n cael llond llaw o dimau gwahanol i ddechrau, ond i gael mwy, mae’n rhaid i chi dalu £5 am bob un… ac mae ‘na 23 ohonyn nhw yn y gêm fwrdd. Ond os fedrwch chi anwybyddu’r problemau yma, ac os ‘da chi’n troi’r sylwebaeth i ffwrdd, mae ‘na lot fawr iawn o hwyl i’w gael yma.

Mass Effect 3 (PS3 / Xbox 360 / Wii U / PC, 2012)

O’r diwedd, ar ôl cychwyn flynyddoedd yn ôl, dwi wedi gorffen y gyfres Mass Effect. Ac mae lot o bobol yn drwglicio Mass Effect 3 – dim oherwydd y gêm ei hun, ond oherwydd y diweddglo. Y 10 munud ola sy’n cloi popeth.

Felly, er bod ‘na gymaint mwy i’w drafod, dwi’n meddwl bod rhaid canolbwyntio ar y diweddglo ‘na hefyd, er mwyn cadw mewn step efo’r drafodaeth. Mae’n wir ei fod fymryn yn fflat, a ddim wir yn clymu popeth at ei gilydd efo bwa bach neis, ac yn delio efo pethau sydd ddim wastad yn hawdd eu trafod mewn gemau. Ond dydi o ddim mor ddrwg. Ac mae ‘na fwy o gemau Mass Effect ar y ffordd, fydd ella’n mynd i fwy o ddyfnder. Felly calliwch.

Gweddill y gêm? Y 99% arall? Mae o’n… briliant. Yn parhau efo ysgrifennu gwych Mass Effect, yn llai ailadroddus na’r gemau eraill yn y gyfres, yn dyfnhau ac yn ymestyn ar y bydysawd a’r cymeriadau (y bydysawd gwyddonias gorau ers Star Wars, o bosib) yn effeithiol iawn, ac yn cynnwys rhai o’r darnau mwya epig dwi erioed wedi eu profi mewn gemau. Mae’r ffeit rhwng y Thresher Maw a’r Reaper yn ddigon i chwythu sanau rhywun i ffwrdd. Ac os ydi hynny’n swnio fel gibberish i chi… wel, mae’n bryd i chi neidio i mewn i Mass Effect hefyd felly, dydi? ‘Da chi’m yn gwbod be ‘da chi’n ei golli.

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s