Fi Yn Erbyn Y Byd… Eto

Mae hi’n brysur iawn tu ôl i’r llenni yn Fideo Wyth HQ, coeliwch neu beidio. Ac mae’n debyg fydd ganddon ni dipyn o newyddion reit fflash i chi erbyn diwedd yr wythnos. Ond am y tro… hwn.

Ella wnewch chi gofio ‘mod i wedi sgwennu am fy nhrip diweddar i Fryste, lle wnes i chwarae llwyth o gemau bwrdd. A cholli’n racs. Hei, dyma’r darn fan hyn. Rhybudd: dwi’n mynd braidd yn sopi ar y diwedd.

Wel, gesiwch be? Wnes i fynd lawr ‘na eto. A chwarae llwyth o gemau eto.

Wnes i golli’n racs eto?

Wel, fysa hwnna’n sbwylio petha, bysa?

Ond do. Do, mi wnes i.

Zombie Dice

Gewch chi ddarllen fy narn diwetha i ddysgu sut mae Zombie Dice yn chwarae. Does ‘na ddim syrpreis bod ni ‘di ei chwarae fo, achos dyna’r dril ar ddechrau sesiwn fel hyn bob tro.

A wnes i ennill! Goeliwch chi’r fath beth? OK, dim ond dau oedd yn chwarae. A does ‘na bron iawn i ddim strategaeth yn gysylltiedig efo’r gêm o gwbwl. Ond peidiwch chi a chymryd fy unig fuddugoliaeth i ffwrdd, y diawliaid.

Ia. Unig fuddugoliaeth.

Fi: 1    Gweddill y Byd: 0

Lords Of Waterdeep

O’n i braidd yn nerfus cyn cyflwyno’r gêm yma i’r grŵp. Dydi o ddim yn edrych fel y peth symla yn y byd, fel y gwelwch chi – dyma’n bwrdd ni yng nghanol chwarae.

DSC_0111

Hefyd, mae ‘na logo mawr Dungeons & Dragons ar y bocs, sy’n tueddu i roi rhai pobol i ffwrdd. Ac fel canlyniad, mae’r thema ffantasi ar yr ochr drwm, braidd.

Ond gesiwch be? Mae’r gêm yn briliant. A gawson ni amser gwych. Rhyfedd sut mae’r petha ‘ma’n gweithio allan.

Dyma Wil Wheaton a’r criw o Tabletop yn chwarae, os ‘da chi isio treulio hanner awr bach neis iawn yn dysgu am y gêm. Ond yn fyr: fyddwch chi’n chwarae fel un o arglwyddi dinas Waterdeep, yn gyrru eich asiantau chi ar draws y lle er mwyn cyflawni tasgau, ac ennill pwyntiau. Mae ‘na amryw o ffyrdd i sbwylio holl gynllwynion pawb arall, ac efo pob math o adeiladau a chardiau newydd yn dod allan mewn trefn gwahanol bob tro, mae bob gêm yn bownd o fod yn wahanol.

Ond wrth gwrs, wnes i’m ennill. I ddeud y gwir, wnes i’n uffernol o wael. Mor wael, roedd bob un arglwydd arall yn Waterdeep yn gwneud hwyl am fy mhen i.

Ond ta waeth, dwi’n siŵr o ddychwelyd efo hwn dan fy nghesail. Ac mae ‘na estyniad hefyd – Scroundrels Of Skullport – sy’n ychwanegu hyd yn oed mwy o betha i’w gwneud.

Sôn am estyniadau…

Fi: 1     Gweddill y Byd: 1

Machi Koro

Dwi wedi chwarae Machi Koro – gêm adeiladu tref bach Siapaneaidd yn defnyddio cardiau – sawl tro o’r blaen. Ond dyma oedd fy nghyfle cynta i’w chwarae efo’r estyniad newydd, The Harborsy’n ychwanegu llwyth o gardiau newydd ac yn newid y gêm yn sylweddol.

Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod o’n welliant o gwbwl. Yn yr hen gêm, oeddech chi’n rhoi pob un o’r cardiau posib allan ar y bwrdd i ddechrau, oedd yn rhoi’r un cyfle i bawb blanio eu strategaeth, a sicrhau tegwch. Ond bellach, mae ‘na gymaint o gardiau yn y pecyn, allwch chi ddim gwneud hwnna. Yn hytrach, dim ond deg o gardiau gwahanol sydd ar y bwrdd ar unwaith.

Ar un llaw, mae hwn yn sicrhau bod y gemau’n wahanol bob tro. Ond os – fel yn ein sesiwn ni – dydi’r cardiau sy’n dod allan ddim yn rhai sy’n bosib eu chwarae ar ddechrau’r gêm… wel, gewch chi ddim amser da iawn. Ar ben hyn i gyd, mae’r estyniad yn gadael i bump o bobol chwarae’r gêm yn hytrach na phedwar. Canlyniad hyn i gyd?

Wnaeth hi gymryd dwy awr i ni benderfynu rhoi’r gora i’r gêm, efo neb yn debyg o ennill yn fuan. Dwi erioed wedi chwarae gêm mor ara deg. Cymharwch hwn i’r hanner awr mae’r bocs yn dweud y bydd un gêm yn para.

Nonsens llwyr. Chwaraewch y fersiwn gwreiddiol o Machi Koro, ond gadewch yr estyniad lonydd. Tro ‘ma, wnaeth neb ennill.

Fi: 1     Gweddill y Byd: 1

Sushi Dice

Ar ôl y profiad diflas yna, aeth ‘na rai i’r gwely. Ond doedd dim stopio’r gemau’n gyfangwbl, ac felly wnaeth ‘na rai eistedd lawr efo gêm newydd arall, Sushi Dice, wnes i godi o silffoedd siop Rules Of Play yng Nghaerdydd heb wybod unrhywbeth amdano fo. Un adolygiad fedra i ffeindio arlein.

Yn hwn, fyddwch chi’n rowlio ac ail-rowlio chwe dîs, yn erbyn chwaraewr arall ac yn erbyn y cloc, i efelychu’r profiad o wneud sushi. Ond mae’n rhaid cadw golwg ar ddîs eich gelyn ar yr un pryd. Os ydyn nhw’n rowlio symbol y penglog du sydd arnyn nhw, mae hynny’n golygu bod eu sushi wedi mynd yn ddrwg. Mae o i fyny i chi wedyn i weiddi’r gair hud – “Yuck!” – tra bod y dîs yna’n dal ar y bwrdd, i’w fforsio nhw i ail-rowlio’r holl ddîs, gan chwalu eu holl waith caled.

Swnio’n hyfryd iawn. Ac mae o. Ond y peth gora am Sushi Dice? O bell, bell ffordd?

Mae ‘na gloch yn cael ei gynnwys fel rhan o’r pecyn.

tumblr_ni7iddZ6x71saikr2o1_500

Does ‘na ddim rheswm da am hyn. Allwch chi chwarae’r gêm yn berffaith iawn heb y gloch. Ond mae ‘na gloch beth bynnag. Ac am y rheswm yna, dwi’n argymell Sushi Dice yn harti.

Er ‘mod i ‘di colli.

Fi: 1     Gweddill y Byd: 2

Love Letter

Ac yna at gêm ola’r diwrnod. Efo pawb arall yn y gwely, wnes i a fy ffrind Abi chwarae rownd o Love Letter – gêm gardiau lle ‘da chi’n trio priodi tywysoges wrth ddyfalu pa gardiau sydd gan y chwaraewr arall.

Wel. Oes ganddoch chi ffordd well o wneud?

Mae o’n wych o gêm, wedi ennill sawl gwobr, a mor fach fedrwch chi stwffio fo’n eich poced a’i gludo unrhywle. Ac os dydi’r thema ddim cweit yn dal eich dychmyg, mae gen i dri gair i chi. Batman Love Letter.

Ac, i orffen y diwrnod mewn steil, wnes i ddiodde’r achos gwaetha o beginner’s luck i fi ddod ar ei draws erioed. Wnes i golli 7 – 2 yn erbyn rhywun doedd erioed wedi chwarae’r gêm o’r blaen.

Fi: 1    Gweddill y Byd: 3

Wna i ddial un dydd. O, gwnaf.

– Elidir

One comment

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s