Newyddion da o lawenydd mawr.
Os ‘da chi wedi bod yn meddwl bod hi braidd yn dawel rownd ffordd hyn yn ddiweddar, mae ‘na reswm am hynny. ‘Da ni wedi bod yn brysur.
O Nos Iau, Mawrth 19, fe fydd Fideo Wyth yn cyflwyno eitem bob yn ail wythnos ar Y Lle!
Be, ‘da chi ddim yn ein credu ni?
Be ydi hwnna ond llun o ddau idiot yn cael eu golygu mewn stiwdio deledu go-iawn?
Dros y gyfres yma, fe fyddwn ni yn:
– gwylio’r filmiau gwaetha un sydd wedi seilio ar gemau.
– rhoi cyflwyniad i fyd cyffrous (na, go iawn) gemau bwrdd modern.
– edrych eto ar y gêm Never Alone a thrafod sut y gallwn ni yng Nghymru gynhyrchu rhywbeth tebyg.
– a (thrio) trafod hen, hen gemau – anturiaethau testun, a llyfrau aml-ddewis… ond yna’n methu, a threulio gweddill yr eitem yn gwneud gags gwael am tuberculosis.
Ac ar ôl i bob rhaglen fynd ar y teli, fe fydd ein heitemau (a fersiynau estynedig ohonyn nhw, mewn rhai achosion) i fyny ar ein sianel Youtube. Felly tanysgrifiwch, da chitha.
Diolch o galon i griw Y Lle am y cyfle yma. Gobeithio y gwnewch chi ymuno efo ni.
– f8