Bisged Llwyr

Do’n i ddim yn hollol siŵr o’n i isio sgwennu’r darn yma, achos dydi o ddim fel ni yn nheulu hapus Fideo Wyth i fod yn negyddol, na’n flin, na’n sarhaus.

Ond mae ‘na rai pobol sy jyst yn rhy annifyr.

Ella’ch bod chi ddim yn gyfarwydd efo’r sylwebydd Youtube John Bain, sydd am ryw reswm yn galw ei hun yn “Totalbiscuit”. Os felly, ‘da chi’n lwcus.

John "TotalBiscuit" Bain - Portrait

Sbiwch ar y gwyneb ‘na. Pwy fysa’n gallu cymryd yn erbyn boi mor serchus a golygus, medda chi? Wel, am rai wythnosa, dwi ‘di teimlo’r ysfa annifyr i sbio’n aml ar ei ffrŵd Twitter, jyst achos dwi wir ddim yn gallu rhagweld pa fath o nonsens gwallgo sy’n mynd i dywallt o’i geg, bron yn ddyddiol.

Ychydig o gefndir. Mae Totalbiscuit yn raddedig yn y gyfraith ac yn gyn-ymgynghorydd ariannol. Sy’n frawddeg hollol nyts i’w ysgrifennu. Wedi iddo fo gael y sac, wnaeth o droi, yn ddigon naturiol, at wneud fideos am gemau cyfrifiadur. Os ‘da chi wir isio gwneud, gewch chi ddod o hyd i’w sianel fan hyn.

Dwi wedi bod yn hanner-ymwybodol o’r boi am sbel, a wastad wedi ei ffeindio dipyn bach yn boen. Dyma fo ar raglen Tabletop, er enghraifftMae ‘na rywbeth uffernol o smyg amdano fo. A wnes i drio gwylio un neu ddau o’i fideos ei hun, o ran tegwch, ond mae nhw’n ddiawledig o ddiflas. Mae popeth am yr opsiynau, a’r graffeg, a’r framerate. Rhifau a ffigyrau ydi bob dim iddo fo. Dydi celfyddyd ddim yn dod yn agos at y peth.

Yna, ym mis Ebrill y llynedd, fe wnaeth o ddarganfod bod ganddo fo gancr (sydd erbyn hyn, bron iawn wedi clirio). Ac, yn ddigon naturiol, fe wnaeth y gymuned o’i amgylch ymateb gyda sympathi. Am gyfnod, roedd y byd yn teimlo’n ddigon clên tuag at Totalbiscuit.

Ac yna daeth “mudiad” Gamergate. Yn hytrach nag ymuno â’i gyfoedion yn erbyn y don anhygoel o fygythiadau yn erbyn merched yn y diwydiant gemau, fe benderfynodd Totalbiscuit droi yn eu herbyn, mewn “safiad” dros… wel, dros be, dwi ddim yn siŵr. Mae o i’w weld yn casau’r erthygl yma gan Leigh Alexander yn arbennig, sy’n herio’r defnydd o’r gair “gamer”. I Totalbiscuit, mae cael defnyddio’r gair yna i ddisgrifio ei hun yn bwysicach na’r ffaith bod ‘na ecsodus o ferched yn gadael y diwydiant gemau.

Fel canlyniad, wrth gwrs, mae unrhyw sympathi tuag at y boi wedi mynd yn syth i lawr y toilet. Mae sawl un o’i gefnogwyr yn y gorffennol wedi troi eu cefnau arno, fel Wil Wheaton o Tabletopa’r rhan helaeth o newyddiadurwyr gemau traddodiadol ym Mhrydain, gan gynnwys Matt Lees a Leigh Alexander. Yn ddiweddar, fe wnaeth Ms Alexander roi ei barn am y gemau Bioshock ar wefan Gamasutra. Doedd Totalbiscuit ddim yn cytuno, felly yn naturiol fe wnaeth o ei galw’n alcoholic a gyrru ei holl ddilynwyr i wneud bygythiadau yn ei herbyn am wythnos. Achos dyna mae hi’n ei haeddu am gael barn am gemau fideo.

Oes, mae gan y dyn ddilynwyr at Twitter yn dal i fod. Digon ohonyn nhw, sydd ddim yn deall neu ddim yn malio ei fod yn fwli. Ac mae o wedi gwneud ffrindiau newydd hefyd, fel Milo Yannopolous – newyddiadurwr technoleg hynod o adain-dde oedd, tan yn ddiweddar, yn casau gemau a’r bobol oedd yn eu chwarae. Ond unwaith i’r holl wallgofrwydd diweddar ddechra, fe wnaeth o weld cyfle i achosi hafoc, a newid ei diwn. Ac mae ein hen ffrind Mr Bisged wedi neidio i mewn i’r gwely efo fo.

Ond mae Milo Yannopolous yn un peth: “newyddiadurwr” adain-dde Clarksonaidd sy’n poeni mwy am gynddeiriogi pobol nag unrhywbeth arall. Ond mae Totalbiscuit yn dal i fynnu ei fod yn ryddfrydwr bach da, a bod pawb arall yn ei gamddeall. Gawn ni wneud ein meddwl ein hunain i fyny, felly, yn seiliedig ar yr holl stwff mae o wedi ei ddweud a’i wneud yn ddiweddar.

Lle i ddechra? Ymysg pethau eraill, mae o wedi…

– mynnu bod bygythiadau yn erbyn bywyd rhywun ddim yn gredadwy os nad ydi’r un sy’n cael ei fygwth wedi eu lladd.

– honni bod hiliaeth ddim yn broblem yn Lloegr.

siarad yn erbyn gwasanaethau fel Patreon, sy’n gadael i bobol gefnogi artistiaid annibynnol o’u gwirfodd nhw eu hunain. Mor wahanol iddo fo, wrth gwrs, sy’n cael arian am wneud fideos am gemau cyfrifiadur… ond gan hysbysebwyr. Mor wahanol.

siarad yn erbyn pobol trawsrywiol, ac yna mynd ymlaen i ddweud bod gan y bobol yna ddim problemau o gwbwl. Achos dydyn nhw ddim yn byw yn Affrica.

cael ei gyfreithwyr i fygwth cwmni gemau oherwydd bod un o’u gweithwyr wedi ei insyltio.

Ac unrhywbryd mae unrhywun yn ei ypsetio, mae o’n mynnu eu bod nhw’n insyltio ei holl ffans mewn gwirionedd, ac yn eu gyrru ar ôl ei elynion.

tb1

Meddai’r dyn wnaeth insyltio tri miliwn o bobol heb broblem.

tb2

Mae’r trydariadau yma’n crisialu’r boi yn berffaith. Nid yn unig ydi o’n anhygoel o ragrithgar, ond mae o hefyd yn cysidro ei hun yn glyfar. Ond does neb yn fwy o “pseudo-intellectual” na’r dyn yma. Cysidrwch, er enghraifft, y trydariad diweddar yma, wnaeth ysgogi be ‘da chi’n ei ddarllen rŵan:

tb3

Waw.

Rŵan, o’n i’n arfer dysgu Saesneg mewn prifysgol. Ges i eitha dipyn o sylwadau gwirion mewn traethodau. Ges i un ferch oedd yn mynnu sillafu’r gair “poem” fel “pome”. Drosodd a throsodd. Er ‘mod i a’i Spellchecker yn mynnu dro ar ôl tro bod hwn yn anghywir. Ond do’n i erioed wedi dod ar draws unrhywbeth mor dwp â’r trydariad yma gan Totalbiscuit. Mae o’n gwybod lot o eiriau mawr, ond does ganddo fo ddim syniad sut i’w defnyddio nhw. Fysa fo ddim yn para diwrnod mewn unrhyw fath o awyrgylch academaidd.

Ond dyma’r peth. Mae cwmniau gemau yn dal i yrru eu cynnyrch at y boi, ac mae o’n dal i gael rhwydd hynt i fygwth pobol a sbowtio ei lol, er bod o a’i gyfeillion o Gamergate wedi gosod y diwydiant gemau’n ôl ryw ugain mlynedd neu fwy. Dydi gwneuthurwyr gemau ddim wedi condemnio fo a’i deip (gyda rhai eithriadau), ac mae ‘na bobol sydd i’w gweld yn weddol gall yn dal i gyfrannu i’w waith a’i bodlediadau, ac felly’n rhoi’r hawl iddo fo barhau efo’r ymddygiad ‘ma. Dydi newid mewn gemau ddim am ddod ar ben ei hun. Os ydan ni isio i drafodaeth am gemau fod yn fonheddig ac yn ddeallus, ac os ‘da ni isio i bobol eraill gysidro gemau fel celfyddyd, mae’n rhaid i ni dorri dynion fel hyn – fyddai ddim yn nabod gwaith celf tysa rywun yn malu’r Mona Lisa dros ei ben – allan yn llwyr.

Dim bod yr erthygl yma am wneud unrhyw wahaniaeth, wrth gwrs. Ond ‘da ni’n trio.

Tro pawb arall rŵan. Mae’n bryd i ni dorri Totalbiscuit allan o’n deiet.

– Elidir

4 comments

  1. […] Fydd dilynwyr selog f8 yn gwybod gymaint ‘da ni’n drwglicio’r sylwebydd John “Totalbiscuit” Bain – un o hoelion wyth y mudiad Gamergate, sydd wedi gwneud bywydau gymaint o bobol yn uffern ar y ddaear dros y misoedd diwetha. I wybod pam yn union allen ni ddim ei ddiodde o, clic clic. […]

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s