Fideo: Adolygiad Titan Souls

Golwg bach sydyn ar gêm fach sydyn wythnos yma. Mae Titan Souls (PC, PS4, Vita) yn cyfuno elfennau o Zelda, Shadow Of The Colossus, Dark Souls mewn un pecyn bach ciwt allwch chi orffen mewn chydig o oria. Gwyliwch y fideo am fwy o wybodaeth, siŵr iawn.

Nodyn bach am pam wnaethon ni benderfynu adolygu hwn, er mwyn gonestrwydd.

Fydd dilynwyr selog f8 yn gwybod gymaint ‘da ni’n drwglicio’r sylwebydd John “Totalbiscuit” Bain – un o hoelion wyth y mudiad Gamergate, sydd wedi gwneud bywydau gymaint o bobol yn uffern ar y ddaear dros y misoedd diwetha. I wybod pam yn union allen ni ddim ei ddiodde o, clic clic.

Wel, fe wnaeth o gyhoeddi ei fod o ddim am drafod Titan Souls yn ddiweddar. Ac fel ateb, fe wnaeth un o’r tîm y tu ôl i’r gêm fynegi pa mor falch oedd o am y peth.

titansouls

Amhroffesiynol? Wel, ella. Ond yn fy marn i, dylid gwobryo unrhyw ymdrech gan wneuthurwyr gemau i ymladd Gamergate a’r diawliaid gwirion sydd y tu ôl iddo fo. Mae ‘na gyn lleied sy’n gwneud. Ac felly, ein hadolygiad.

Rant drosodd. Mwynhewch y fideo.

– Elidir

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s