Mae hi ‘di bod yn sbel ers i fi redeg drwy’r gemau mwya diweddar i fi orffen. A’r rheswm syml ydi ‘mod i ddim wedi chwarae gymaint a ddylwn i. Dwi ‘di bod yn gwneud petha eraill. Fel darllen.
Bwwwwwww.
I fod yn hollol onest, doedd y gemau o’n i’n chwarae (a’r rhan fwya’n dal heb eu gorffen gen i) ddim wir yn dal fy sylw. Ond dwi’n falch o ddweud bod Bloodborne mor dda, mae o wedi ailgynnau fy angerdd tuag at gemau yn gyffredinol. Dwi’n gobeithio fydd hi ddim mor hir tan i chi weld un o’r rhein eto.
Crynodeb o adolygiadau fideo fydd hwn, gan fwya. Ond dwi’n gwbod yn iawn bod chi ddim wedi eu gwylio nhw i gyd. Steddwch i lawr efo panad a phaced o Hob-Nobs, da chitha.
Super Smash Bros. for Wii U (Wii U, 2014)
‘Ma chi’r cynta. Dwi ddim wedi chwarae Smash Bros ers ei adolygu, ond mae’n hen bryd i fi wneud, efo cymeriadau newydd wedi landio bellach, a mwy ar y ffordd…
Grim Fandango Remastered (PS4 / Vita / PC / Mac / Linux, 2015)
Y mwya dwi’n meddwl am Grim Fandango, y mwya dwi’n sylweddoli gymaint mae o wedi dyddio. Siom.
The Legend Of Zelda: Majora’s Mask 3D (3DS, 2015)
Mae gen i berthynas reit gymhleth efo Majora’s Mask. Er mai dim dyma fy hoff gêm Zelda, o bell ffordd, dwi wedi chwarae drwy’r peth dair gwaith erbyn hyn, gan gynnwys trip drwy’r fersiwn swanci 3D sydd newydd ei ryddhau. Ar yr un pryd, dwi’n deall yn iawn pam bod gymaint o bobol wrth eu boddau efo hwn. O ran stori ac awyrgylch, mae o heb ei ail. Mae ‘na gymaint wedi ei bacio i mewn. Wrth i chi chwarae tri diwrnod y gêm drosodd a throsodd, mae o bron fel eich bod chi’n byw eich Groundhog Day eich hun. Fedrwch chi frwydro drwy’r prif stori os hoffech chi, ond mae ‘na gymaint o bleser – os nad mwy – yn gweithio’ch ffordd drwy’r dwsinau a dwsinau o bethau cwbwl opsiynol i wneud. O ddod â chariadon at ei gilydd, i ffurfio côr o frogaod, i helpu llaw ysbrydol sy’n byw mewn toilet…
… y… OK…
… mae ‘na ddigon i ddal eich sylw. Dwi jyst ddim yn meddwl bod prif asgwrn cefn y gêm mor eiconig a hwyl a rhai o’r gemau eraill yn y gyfres. Mae o dal yn werth ei chwarae, wrth gwrs, ac efo llu o welliannau ar y 3DS, does ‘na ddim amser gwell i wneud.
Hyrule Warriors (Wii U, 2014)
Gêm Zelda arall, er ei fod yn spin-off o’r gyfres, yn hytrach na bod yn un o’r prif gemau, yn dilyn fformiwla’r gemau Dynasty Warriors yn hytrach na’r fformiwla Zelda cyfarwydd. Wnes i chwarae hwn am dipyn ar ôl iddo fo gael ei ryddhau fis Medi diwetha, ond yn eitha buan wnes i golli diddordeb a symud ymlaen at bethau eraill. Er ei fod o’n chwarae’n llyfn, a’r sglein Nintendo yn papuro dros unrhyw graciau, ro’n i hefyd yn ei weld braidd yn undonog. O’n i wir isio gweithio drwy bob un dim ar y ddisg, ond oedd hwnna werth gwneud yr un pethau drosodd a throsodd? Nag oedd, yn fy marn i.
Dim ond ar ôl dychwelyd i’r gêm yn ddiweddar wnes i ddechrau ei werthfawrogi. Dydi o ddim am roi’r byd ar dân na dim byd, ond wrth eistedd lawr efo copi o Hyrule Warriors am rai oriau, ‘da chi’n debyg o fynd i ryw stâd zen hynod o bleserus wrth i chi drywanu, saethu a llosgi miloedd o elynion mewn ryw fath o ballet o drais cartwnaidd. Ydi o werth y pris llawn? Nag’di, dwi’m yn meddwl. Dim o bell ffordd. Ond os allwch chi ddod o hyd i gopi o Hyrule Warriors yn rhad, allwch chi wneud yn lot gwaeth.
Bloodborne (PS4, 2015)
Dwi. Isio. Chwarae. Hwn. Eto.
Cystadleuydd cryf iawn ar gyfer teitl Gêm y Flwyddyn. ‘Da chi angen chwarae Bloodborne. Gwyliwch y fideo i ddarganfod pam.
Titan Souls (PS4 / Vita / PC, 2015)
A’r gêm mwya diweddar i fi orffen. Fe ddylsech chi fod wedi gweld yr adolygiad yma’n barod wythnos yma. Os ddim, pam ddim?
Wir yr. Rhei pobol.
– Elidir