Help. Dwi’n meddwl bod gen i broblem. Dwi’n dechrau cyffroi am Star Wars.
Roedd gen i’r un broblem ar ddiwedd y nawdegau. Bryd hynny, roeddwn i’n anadlu Star Wars. Ro’n i’n dilyn yr holl nofelau diddiwedd, wedi darllen yr encyclopedia o glawr i glawr, a rhentu Ewok Adventures: Caravan Of Courage o’r siop fideo. Ac yna fe ddaeth hi’n bryd i The Phantom Menace gael ei ryddhau. Wnes i lawrlwytho’r trelyr ar fy modem 56k, darllen yr holl heip yn y cylchgrawn swyddogol, a dechrau prynu’r holl drugareddau oedd yn gysylltiedig efo’r ffilm – gan gynnwys ffigwr Watto, y llyfr sgript swyddogol, a lolipop Jar Jar Binks.
Sydd dal gen i, heb ei agor. Pam?
A wedyn ddaeth y ffilm allan. Ro’n i wedi penderfynu o flaen llaw ‘mod i am ei weld lot o weithia yn y sinema, fel o’n i ‘di clywed bod pobol wedi gwneud efo A New Hope. Ac fe wnes i. Ddeg o weithia.
Wna i adael i hwnna suddo mewn am funud.
O’n i’n gwbod yn weddol fuan bod o ddim yn dod yn agos at yr hen ffilmiau, ond jyst ddim isio cyfadde’r peth. Ac erbyn i’r ffilm ddod allan ar fideo, ro’n i wedi cael digon o Star Wars yn gyffredinol. Roedd The Matrix wedi dangos i fi sut y dylai ffilmiau ffuglen wyddonol gael ei wneud, ac roedd The Fellowship Of The Ring ar fîn gwneud yr un peth ar gyfer ffilmiau ffantasi. O’n i fwy o ffan o Attack Of The Clones a Revenge Of The Sith ar yr olwg gynta, ond wedi dychwelyd atyn nhw ar DVD… na. Jyst na.
Wnes i daflu Star Wars allan o ‘mywyd. Wnes i stopio darllen y llyfra o gwmpas yr adeg wnaethon nhw benderfynu lladd Chewbacca, stopio dal i fyny efo’r newyddion, a hyd yn oed stopio chwarae’r gemau.
Ond rŵan…
O, be am jyst wylio’r trelyr?
Mae o’n fy nghael i. Bob. Un. Tro. Dwi’n dallt yn iawn pam bod pobol yn ymateb fel hyn.
Mae’r ddau funud yna yn dal mwy o ysbryd y ffilmiau gwreiddiol na chwe awr o’r prequels. Oes, mae ‘na gymeriadau o’r ffilmiau cynta ynddo fo. A gyda llaw, mae Harrison Ford – Harrison Ford, o bawb – yn rhoi mwy o angerdd i’w un lein yn y trelyr na wnaeth Hayden Christensen ei roi i rôl Anakin yn ei gyfanrwydd. Ond mae ‘na lot mwy na hynny. Mae ‘na effeithiau corfforol, go-iawn, yn hytrach na môr diflas o CG. Ac ella yn bwysicach na dim byd, mae ‘na deimlad o hwyl i’r peth. Y darn ‘na lle mae’r peilot X-Wing yn gweiddi mewn llawenydd wrth wibio dros y llyn? Doedd ‘na ddim byd fel’na ym Mhenodau 1 – 3.
Swnio’n hyfryd. A dyna’r broblem. Achos fel ddywedais i, dwi ‘di bod yma o’r blaen. Ddwi ddim isio eistedd yn y sinema, fel wnes i ar ddechrau The Phantom Menace, a gweld fy holl obeithion yn diflannu o mewn pum munud.
Ddeg gwaith drosodd.
Ond mae ‘na wahaniaethau fan hyn. Mae lot yn anghofio mai The Phantom Menace oedd y ffilm cynta wnaeth George Lucas ei gyfarwyddo ers A New Hope, dros ugain mlynedd ynghynt. Doedd o ddim ar dôp ei gêm o bell ffordd – a fedrwch chi ddadlau ei fod o erioed wedi deall sut i drîn actorion yn gyffredinol. Ar y llaw arall, mae J.J. Abrams yn gyfarwyddwr ar ei anterth. Ella dydi bob dim mae o wedi ei gyffwrdd ddim wedi troi’n aur, ond mae’r ffilm Star Trek yn llwyddo i deimlo mwy fel Star Wars na’r un o ffilmiau diweddar George Lucas. Fedrwch chi hyd yn oed ddadlau bod J.J. Abrams, sydd wedi tyfu fyny fel ffan o Star Wars, yn deall mwy am apêl y gyfres na wnaeth Lucas erioed.
Ac mae ‘na fwy o le i obeithio. Achos ar ôl ugain mlynedd o nofelau, comics, gemau, cartŵns, a Duw a ŵyr be arall, mae Lucasfilm a Disney wedi weipio’r llechen yn lân, a jyst dechra eto. A tra bod ‘na lot o bethau da am y math yma o stwff (yr “Expanded Universe”, fel mae’n cael ei alw) – Grand Admiral Thrawn! Kyle Katarn! Shadows Of The Empire! – mae ‘na lot fawr o rybish hefyd. Ac mae hi bellach bron yn amhosib i rywun sy’n newydd i’r holl beth ddal i fyny. Mae o’n benderfyniad doeth iawn, dwi’n meddwl.
A dydyn nhw ddim wedi dechra’r Expanded Universe newydd yn rhy ffôl, chwaith. Mae ‘na sawl cyfres gomics newydd, wedi eu cyhoeddi gan Marvel – Star Wars, Darth Vader, a Princess Leia – ac mae mwy ar y ffordd. Dwi’n edrych ymlaen yn arbennig at Shattered Empire, fydd yn datgelu be ddigwyddodd go-iawn ar ôl digwyddiadau Return Of The Jedi. Fel y trelyr, mae’r comics hyd-yn-hyn yn dal ysbryd y ffilmiau gwreddiol yn berffaith – a hyd yn oed yn ehangu ar gymeriad Darth Vader yn effeithiol, yn hollol wahanol i’r ffordd aeth y prequels ati. Dwi’n edrych ymlaen at ddal i fyny efo’r comics, at ddechrau darllen y nofelau eto, o bosib – ac wrth gwrs, at yr holl gemau fideo sydd ar y ffordd. Gan gynnwys…
Dwi isio bod yn ran o hwnna, diolch yn fawr.
Felly dyma’r sefyllfa. Bosib iawn ‘mod i’n rong am hyn i gyd. Bod The Force Awakens yn mynd i fod yn rybish llwyr, a ‘mod i’n cerdded i mewn i siom anferth arall. Ond ar y funud… dwi ddim yn malio. Achos mae Star Wars yn ôl yn fy mywyd, mewn ffordd fawr, am y tro cynta mewn bron i ugain mlynedd. A – sori i swnio’n sopi – dwi’n hapus iawn am hynny.
Felly byddwch yn sinigaidd am y peth. Ella mai chi sy’n iawn. Motsh gen i. Achos…
Meh. O’n i’n mynd i wneud ryw bwynt mawr a phwysig fanna. Ond dwi jyst isio gwylio hwn eto.
– Elidir
[…] Dwi Isio Bod Yn Jedi Eto […]
[…] mae’r amser wedi dod i gyffroi’n lân am Star Wars eto. A ryw fis cyn i The Force Awakens gyrraedd, fydd Battlefront yn glanio i’n llusgo […]