Croeso i Fideo Wyth

gan Elidir Jones

‘Da ni wedi bod yn gwneud hyn am ddwy flynedd bellach. Allech chi goelio’r fath beth?

A wnaeth o fy nharo i’r diwrnod o’r blaen ein bod ni erioed wedi rhoi rhyw fath o mission statement yma ar f8 – cyflwyniad i gemau, ac i’r wefan, ac i’n amcanion – i’r rhai sydd ddim efallai mor gyfarwydd efo ni. Felly dyna be dwi wedi bod yn ei roi at ei gilydd heddiw. O hyn ymlaen, dyma be welwch chi os gliciwch chi ar ‘Ymbyti Fideo Wyth’ ar dop ein prif dudalen. Ond waeth i fi ei roi o fan hyn hefyd. Pwyntiwch at hwn y tro nesa ‘da chi ar fideowyth.com ac mae rhywun yn gofyn i chi be ddiawl ‘da chi’n ei wneud yn edrych ar y fath rybish.

O, ac mae o ar ffurf ffug-gyfweliad efo fi fy hun. Wrth gwrs ei fod o.

cropped-fideo8_bn.jpg

Lle ydw i? Be sy’n digwydd?

O. Helo. Croeso i fideowyth.com – gwefan sy’n trafod popeth nyrdi, drwy gyfrwng y Gymraeg, efo pwyslais pendant ar gemau fideo.

Gemau fideo? Pff. Chwarae plant.

Wel… y… na. Ar gyfartaledd, mae’r chwaraewr tebygol rhywle yn ei 30au. O, ac mae tua hanner y chwaraewyr yn ferched, gyda llaw. Rhag ofn dy fod ti’n bwriadu bod yn haerllug am hynny hefyd. Ti’n swnio fel y teip.

Ym…

Sori.

Na. Ti’n iawn. Dyna fy nheip i’n union. Wnes i ddarllen yn y Daily Mail bod pob un gêm yn dreisgar ac yn debyg o arwain at ddymchwel llwyr cymdeithas. Ydi hynny’n wir?

Ochenaid. Tra bod ‘na ddigon o drais mewn gemau fel Doom Mortal Kombat, dydi rhain ddim yn arbennig o gynrychiolaidd o gemau ar y cyfan. Llawer llai nag oedden nhw yn y gorffennol, mae’n debyg. Mae ‘na ddigon o drais mewn ffilmiau a llyfrau hefyd, cofiwch. Ac er bod ‘na eitha dipyn o astudiaethau wedi eu gwneud i astudio trais mewn gemau, dydi’r un wedi darganfod cysylltiad pendant rhwng gemau treisgar ac ymddygiad ymosodol. I’r gwrthwyneb – mae rhai wedi dod i’r casgliad, er enghraifft, bod gan chwarae gemau fideo amryw o fanteision yn natblygiad pobol ifanc.

Wela i. Felly mae byd y gemau yn fêl i gyd? O, dewch ‘mlaen.

Wnes i ddim dweud y fath beth. Yn ddiweddar, mae sgandal Gamergate wedi llusgo’r drafodaeth am gemau yn ôl tua ugain mlynedd, efo byddin o drols yn gwthio merched allan o’r diwydiant, yn rhoi lot gormod o barchffigyrau hynod o annymunol, ac yn gwylltio pan mae gemau’n meiddio trafod pynciau pwysig. Ond mudiad o gasineb ydi hyn sydd ddim wir wedi ei wreiddio mewn gemau, gan amlygu’r problemau sy’n bodoli yn y cyfryngau cymdeithasol a’r we yn fwy cyffredinol. Dydi lot o’r bobol sy’n ei gefnogi ddim wir yn hoffi gemau o gwbwl.

Felly does ‘na ddim gemau sy’n trafod pethau difrifol? Mae pob un yn pydru’r meddwl efo’u blîpio diddiwedd a’u lliwiau llachar bondigrybwyll?

Anghywir eto. Er bod ‘na amryw o gemau mawr, drud, sy’n ddigon difeddwl – blockbusters byd y gemau, os hoffech chi, ein fersiwn ni o’r ffilmiau Transformers neu Teenage Mutant Ninja Turtles – mae ‘na ddigonedd sy’n rhoi digon o waith meddwl i’r chwaraewr, ac yn gwthio’r cyfrwng ymlaen mewn ffyrdd diddorol. Be am gêm wedi ei leoli ar y ffîn rhwng dwy wlad ddychmygol yn Nwyrain Ewrop? Neu un sy’n eich addysgu am draddodiadau un o lwythau’r Inuit? Neu gyfres o gemau amrywiol sy’n adrodd straeon mewn ffyrdd newydd, gyda chi’n gwneud y penderfyniadau? Fe allwn ni gymharu’r diwydiant gemau annibynnol ar y funud i’r cyfnod yn Hollywood pan roedd ffilmiau fel Taxi Driver ac Easy Rider yn rhoi’r byd ar dân. Mae’n gyfnod gwirioneddol gyffrous.

Ond does ‘na ddim digon o drafodaeth am y pethau ‘ma ar y we yn barod? Pam gwneud yn Gymraeg? A dydi hyn i gyd ddim dipyn bach yn niche beth bynnag?

Be, diwydiant niche sy’n gwneud llawer mwy o arian bob blwyddyn na’r diwydiant ffilm?

Beeeeeeeee?

Ella dydi’r math yma o beth ddim wedi cael llawer o sylw cyn hyn yn y Gymraeg, ond fe fydden ni yma yn f8 yn fodlon betio bod mwy â diddordeb mewn gemau na nifer o’r pethau sy’n cael eu trafod hyd syrffed yn ein cyfryngau. Mae gwefanau fel ein un ni yn debyg o gyrraedd cynulleidfa eang, a normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg mewn maes sydd wir ei angen.

Ond does dim gemau yn y Gymraeg…

Oes tad. Enaid Coll ydi’r mwya – wele ni’n ei thrafod fan hyn a fan hyn. Fel arall, mae ‘na amryw o gemau ac aps addysgiadol, ac ychydig o bethau dipyn mwy swmpus heb eu rhyddhau, sydd wedi bod ar y gweill ers sbel. Ond mae’n wir does dim gemau sy’n delio gyda Cymreigrwydd fel y cyfryw. Rydym ni yma’n awyddus i weithio efo’r sector gemau yng Nghymru i wneud rhywbeth tebyg yn fwy posib, ac i hybu gemau o Gymru yn fwy cyffredinol.

‘Ni’ ydi…?

Aha. Diolch am ofyn. Ein prif gyfrannwyr ydi’r newyddiadurwr a sgaliwag o fri, Daf Prys, a’r awdur, cerddor a digrifwr Elidir Jones. Ond mae amryw o bobol eraill wedi cyfrannu yma, gan gynnwys Miriam Elin Jones, Joe Hill, ac Osian Llew. Ac os ydych chi’n awyddus i gyfrannu hefyd, rhowch floedd ar Facebook neu Twitter. Mae croeso i bawb yma ar Fideo Wyth.

Ia. Am yr enw ‘na…

Fel gwasanaeth fideos y dechreuodd Fideo Wyth, ‘da chi’n gweld, a dyna ein bara menyn yn dal i fod. Fe allwch chi weld ein cynnyrch ar Youtube, gan gynnwys nifer o eitemau sydd wedi ymddangos ar Y Lle‘Da ni’n sêr teli, ar ben pob dim arall.

Ac os ydw i’n diflasu ar gemau…

‘Da ni hefyd yn trafod ffilmiau, comics, gemau bwrdd, llenyddiaeth… mae cartref i unrhyw beth efo twtsh o nyrdrwydd yma ar f8!

Wel. Mae hyn i gyd yn swnio’n hyfryd. Dwi’n meddwl wna i sticio o gwmpas am sbel.

Ti ‘di newid dy diwn. Roeddet ti’n dipyn o boen ar ddechrau’r darn ‘ma…

Dwi’n ran o dy ddychymyg. Yn newid fy mhersonoliaeth yn llwyr i ffitio dy fympwyon di.

O. Ti ffansi gwneud panad i fi?

Na.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s