gan Miriam Elin Jones
‘Let’s go Barbie…’
‘Dwi’m yn meddwl, Kenneth, dwi’n mynd i aros fan hyn i ddylunio gêmau, ok?’
‘Um…’
Pan oeddwn yn ferch fach, roedd gennyf lond bocs o ddoliau Barbie, ac wrth feddwl nawr, roedd y rhan fwyaf ohonynt wedi gwisgo’n binc o’u corunau aur i’w sodlau uchel ac yn hollol annhebyg i fi fy hun. Roedd Barbie’n coginio, yn glanhau, yn edrych yn bert… a dyna ‘ny. Un o’r Barbies mwyaf ‘high tech’ (os gellid hyd yn oed dweud hynny…) roeddwn yn berchen arni oedd un a ddaeth gyda’i pheiriant golchi’i hun a fyddai’n newid lliw ei dillad o un shade o binc i shade arall o binc.
Wrth gwrs, fe welais oleuni maes o law a throi at Pokemon.
Fodd bynnag, petai yna Farbie tebycach i’r Barbie newydd hon, ‘Game Developer Barbie’, dwi’n meddwl y byddwn wedi bod tipyn hapusach fy myd – ac yn llai tebygol o fynd ati i chwarae Salon Trin Gwallt a gwneud bob un o fy noliau yn skinheads.
Yn y byd sydd ohoni, mae mwy o alw ar Barbie i droi cefn ar y darlun ystrydebol o ditzy blonde a bod role model fwy addas i ferched yr unfed ganrif ar hugain.
Hanes y Barbie Newydd
Crëwyd Barbie cyffelyb yn 2010, ond roedd ei get-up hi’n binc i gyd, a datgelwyd mewn llyfryn nad oedd hi’n gallu gweithio ar liwt ei hun – roedd hi’n gorfod gofyn i ‘Steve’ a ‘Brian’ (ahem, so when did Ken get dumped?) am eu help o hyd ac o hyd.
Mae’r Barbie newydd yn ddigon cymwys i wneud hynny ar ei phen ei hun, a sylwch fod hon yn edrych tipyn gwahanol i’r Barbie arferol, gyda gwallt fflamgoch ac outfit sy’n bur wahanol i’r hyn yr ydym wedi ei weld gan Barbie yn y gorffennol. Dyma wisg o grys-T ffasiynol a jîns sydd heb os, yn fwy addas at ddiwrnod o waith.
Hen, hen bryd amdani, weda i.
‘Dim ond dol yw hi…’
O ie? Digon teg, ond mae’n un o’r dolis mwyaf poblogaidd ledled y byd, gyda Barbie’n enw cyfarwydd ers dyfodiad y ddoli gyntaf yn 1959. Dychmygwch faint o ferched fydd, o bosib, yn dod ar draws y ddoli mewn archfarchnadoedd a siopau teganau, a meddwl, ‘Hmm, dwi’n lico honna,’ yn union fel yr oeddwn innau fy hun yn ei wneud tra’n Woolworths slawer dydd.
Mae’r ddol hyn, er yn gam bach, yn gam yn y cyfeiriad cywir.
Wrth wneud ‘Game Developer Barbie’ yn weledol, mae’n bosib bydd merched ifanc yn ei gweld ac yn ystyried gyrfa mewn maes gwahanol, lle mae yna brinder dybryd o ferched, a hynny er bod o leiaf hanner o’r gynulleidfa ar gyfer gemau fideo yn ferched.
Felly, gyda’r byd datblygu gemau yn cael ei gynrychioli’n decach ym myd y merched, beth am fwrw ati i gynrychioli’r merched yn decach ym myd y gemau?
Ac os ydych chi ffansi’r Barbie newydd i ychwanegu i’ch casgliad, dyma chi.