gan f8
Newyddion da o lawenydd mawr!
Go iawn, tro ‘ma.
Yng nyfnder nos Fercher, mewn ystafelloedd tywyll ym Mangor ac Aberystwyth, fe wnaeth Daf ac Elidir recordio rhifyn cynta podlediad Fideo Wyth! Neu bodlediad f8 i osgoi dryswch, gan bod ‘na ddim fideo yn agos at y peth. ‘Da ni’n trafod bob math o stwff o fyd y gemau a thu hwnt, gan gynnwys:
– Y gemau mae’r bois wedi bod yn eu chwarae yn ddiweddar, yn lle mynd allan a mercheta. Gan gynnwys Overwatch, Doom, The Witcher 3, a Blood Bowl 2.
– Mwydro swmpus am bopeth i ddod allan o Nintendo HQ yn ddiweddar. Ac mae ‘na lot. Pokemon Go, yr NX, NES Classic Edition… a mwy! Ella.
– Yn y byd ffilmiau a theledu, gawn ni wybod be mae’r ‘ogia yn ei feddwl o Star Trek Beyond, Ghostbusters, a Stranger Things. Hefyd, cyfle i glywed am rai o uchafbwyntiau (ac isafbwyntiau) Star Wars Celebration a Comic-Con flwyddyn yma.
– Ac yn ola, rundown handi o’r pethau sydd wedi bod yn rhoi darllenwyr a gwylwyr fideowyth.com ar dân yn ddiweddar, a chipolwg bach slei ar be sydd i ddod.
Hwyl, sbri, chwerthin… o, a lot fawr iawn o Daf yn drysu rhwng pobol enwog sydd wedi marw.
‘Da ni’n falch iawn o hwn, yn gobeithio fyddwch chi’n gwrando, ac yn gwneud am flynyddoedd i ddod. Mae’r podlediad ar gael mewn sawl lle, fel iTunes, Stitcher, a TuneIn. Cofiwch danysgrifio iddyn nhw, neu i’n ffrŵd Soundcloud fan hyn, ac os oes ‘na unrhyw le arall fydde’n well ganddoch chi wrando, rhowch wybod.
Diolch am eich cefnogaeth, a mwynhewch.
Yn bendant mae ‘nostalgia’ yn pwssig – dwi wedi bod on chwarae Sonic The Hedgehog 1 a 2 ar yr iPad am yr un reswm!
Marchnad fawr iawn: o standups ar promenâds i Stranger Things.