gan Elidir Jones
Fideo bach sydyn i chi wythnos yma, tra dwi off yn galifantio rownd y Steddfod bondigrybwyll ‘na.
Mae World of Warcraft wedi bod allan am ddeuddeg mlynedd bellach. Rhywsut, dwi ‘di osgoi ei chwarae am yr holl amser ‘na.
Dyma fi felly, o’r diwedd, yn adrodd yn ôl o fy nhrip cynta i fyd Azeroth, ac yn darganfod sut beth ydi mentro i mewn i gêm mor astrus a hirsefydlog fel chwaraewr newydd.
A pam wnes i beth mor hurt yn y lle cynta? Wel, fydd rhaid i chi wylio i ffeindio allan…
Testun y fideo fan hyn, i’r rhai yn eich mysg sydd ofn lluniau sy’n symud:
“Coeliwch neu beidio, mae World Of Warcraft wedi bod yn ffenomenon ym myd y gemau ers deuddeg mlynedd bellach. OK, dydi’r gêm ddim mor boblogaidd rŵan ag oedd o nôl yn 2010, er enghraifft, pan roedd ‘na 12 miliwn o bobol yn chwarae’n gyson, ond mae o dal yn… yn beth. Sy’n anhygoel, pan ‘da chi’n cofio bod rhan helaeth o gemau’n cael eu anghofio ar ôl mis. Mae ‘na estyniad newydd ar y ffordd, Legion, ac fe wnaeth y ffilm Warcraft diweddar blesio ffans o’r gêm eitha dipyn… tra’n drysu pawb arall yn racs.
A dyna grynhoi’r profiad World Of Warcraft, dwi’n meddwl. Rhyfedd a nyrdi ac annealladwy i bawb ond y rhai sy’n ei chwarae. Iddyn nhw, mae’n dod yn agos at fod yn grefydd. Wel… dwi, coeliwch neu beidio, erioed wedi ei chwarae. A pwy ydw i i wrthod unrhyw grefydd da?
Rŵan… rhaid i fi fod yn onest. Mae ‘na reswm am y droedigaeth sydyn ‘ma. Unwaith i chi gyrraedd lefel 20 yn World Of Warcraft, mae’n datgloi gwobr sgleiniog arbennig yn Hearthstone. Mwy am hynny nes ‘mlaen. Sy’n handi, achos mae’n rhoi pwynt cyfleus i fi stopio chwarae, rhag ofn i World Of Warcraft ddod yn un arall o fy obsesiynau.
Dim adolygiad ydi hwn. Mae ‘na ormod o bethau i’w gwneud yn y gêm i fi allu trafod popeth. Meddyliwch am hwn fel cofnod o fy nghamau cynta i mewn i fyd mawr iawn…
Felly. Dyma fy nghymeriad. Ei enw ydi Wyth… wrth gwrs. Blood Elf Mage… ac os ydi hwnna’n swnio’n rhy nyrdi i chi, waeth i chi droi’r fideo ‘ma i ffwrdd rŵan. O’n i am adrodd ei holl anturiaethau… ond i fod yn onest, fysa hwnna’n stori ddiflas iawn. Heb ddechrau, canol, na diwedd. I gyd wnaeth Wyth, mewn gwirionedd, oedd lladd nifer gwirioneddol stiwpid o zombies, trols, creaduriaid rheibus… dwi’m yn meddwl bod fersiwn y byd yma o’r RSPCA yn hapus iawn efo fo.
O ia. ‘Sa’n well i fi esbonio pam bod gen i, ar brydiau, fabi gorila a ryw fath o hanner draig / hanner aderyn yn fy nilyn i o gwmpas. Mae gan Warcraft system lle allwch chi fagu anifeiliaid anwes a’u gwneud nhw frwydro ei gilydd… eto, fydd yr RSPCA yn gandryll. Ond do’n i’m yn gallu gweithio allan sut i wneud, felly oedd gen i anifeiliaid yn fy nilyn i o gwmpas drwy’r amser, am ddim rheswm. Rhaid ‘mod i ‘di edrych yn weird.
Wnaeth y gêm ddim job da iawn o esbonio i fi sut yn union mae defnyddio fy anifeiliaid bach ciwt, ac yn gyffredinol, wnaeth o ddim job da iawn o esbonio unrhywbeth, oni bai am y pethau hollol sylfaenol – symud, ymladd, ac ati. Wnes i ddim gofyn i unrhywun chwaith, achos er bod World Of Warcraft yn gêm eithriadol o gymdeithasol yn y bôn, roedd fy mhrofiad i yn boenus o unig. A dwi’n dallt bod hynny’n tynnu lot o reswm i chwarae’r peth yn y lle cynta, ond o’n i’n… swil. Ges i gynigion. Ges i bobol yn gofyn i fi ymuno efo nhw ar eu anturiaethau, ac un dyn yn cynnig ffeit i fi – yn serchus iawn, cofiwch – ond do’n i ddim yn teimlo’n gyfforddus yn gwneud. Pan mae ‘na gêm ‘di bod allan am ddeuddeg mlynedd, a chitha ‘di bod yn chwarae am ryw ddwy awr, ‘da chi’n teimlo allan o’ch dyfnder rhywsut. Sgen i neb i feio ond fi fy hun.
Yr unig gysylltiad arall ges i efo pobol go-iawn oedd pan wnaeth ‘na griw ohonyn nhw ladd rhywun mewn pentre o’n i wir angen siarad efo fo er mwyn parhau efo’r gêm. Felly… dwn i’m. Ella wnes i’r penderfyniad cywir beth bynnag. Mae pobol… jyst yn horibl.
Beth bynnag. Mage o’n i, fel wnes i ddeud. Y dewis anghywir, o bosib, a chysidro mai dim ond un peth fedrwch chi wneud ar gychwyn y gêm, sef taflu rhew at y gelyn… neu, mewn geiriau dipyn bach mwy prosaic, pwyso “1” ar y keyboard. Drosodd. A throsodd. Mae pethau’n gwella, wrth gwrs. ‘Da chi’n datgloi mwy o bwerau cudd wrth fynd ymlaen. Erbyn lefel 10, ges i’r dewis o saethu tân yn lle rhew. Wnes i gytuno, achos dwi’n licio llosgi petha. Erbyn lefel 15, ‘da chi’n datgloi ‘talentau’, sef ffyrdd ychwanegol o addasu eich cymeriad. Fedrwch chi glymu pwerau at ei gilydd i greu combos… neu, mewn geiriau dipyn bach mwy prosaic, pwyso “2” ar y keyboard ddwywaith, a wedyn pwyso “3”… ond does ‘na ddim byd lot cymhlethach na hynny yn y rhan cynnar yma o’r gêm.
Wna i ddim honni bod i ‘di mwynhau fy mhrofiad cynta o World Of Warcraft gymaint â hynny, er ‘mod i’n medru gwerthfawrogi, ar ôl treulio ryw naw awr yn crwydro un cornel pitw o’r map, gymaint sydd ‘na i wneud yn y gêm, a dyfnder y byd mae Blizzard wedi ei greu yma. Fedra i weld pam bod pobol yn magu gymaint o obsesiwn… neu o leia, fedra i weld sut wnaethon nhw. Erbyn hyn, mae’r gêm yn dechrau edrych dipyn yn hen-ffasiwn, a’r nifer o chwaraewyr – ac felly, y gymuned sy’n gwneud y gêm yn werth ei chwarae – yn dechrau diflannu.
Ac mae hynny’n siom, achos dwi’n meddwl ein bod ni angen World Of Warcraft, neu brofiad tebyg. Dydi gemau MMO ddim wedi datblygu i’r un raddfa â genres eraill. Er bod gemau fel Destiny wedi bod yn llwyddiant mawr, ac yn gwneud rhai pethau newydd, yr un fformiwla sydd yna mewn gwirionedd. Mae’n hen bryd i rhywun gymryd yr awennau a thrio gwneud rwbath hollol newydd, rhag ofn i’r math yma o gêm gael ei adael yn y gorffennol yn llwyr.
Wrth gwrs, fydd pobol yn dal i chwarae tra bod ‘na reswm iddyn nhw wneud. A pam wnes i yn y lle cynta, ‘da chi’n gofyn? Pa reswm mawr oedd gen i adael y byd yma ar fy ôl a threulio naw awr cyfan yn y World Of Warcraft? Wel… y fraint o gael chwarae fel y cymeriad yma, Liadrin, yn Hearthstone. Dim bod o’n newid y gêm. Mae o jyst… jyst yn beth cosmetig. Dim ond darlun. Ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth i’r profiad o gwbwl. Ond… ‘da chi’m yn dallt. O’n i ei hangen hi. OK? O’n i ei hangen hi.
Hmm… ia. Dwi’n sicr ddim angen obsesiwn arall.”
Sa i wedi chwarae’r peth chwaith er fod e’d yr math o peth mod i’n hoffi – mae ofn arna i o’r “time sink” gallai e fod!