Pokémon yn 20

gan Miriam Elin Jones

Dathlu #Pokemon20

Mae hi’n anodd credu bod Pokémon yn ffenomen sydd wedi bodoli am ugain mlynedd. UGAIN MLYNEDD. Mae’n ffaith, dwi ond dwtsh yn hŷn na Pikachu. Ta beth, ers gweld y cartŵn ar SM:TV Live slawer dydd, meddiannwyd fy mhlentyndod gan y creaduriaid bychain, a rhuthrais allan yn 7 oed i brynu Pokémon Blue.

Miriam yn 8 efo crys-t Pokemon

Mae pethau, rhaid dweud, wedi datblygu cryn dipyn ers hynny – i mi ac ym myd Pokémon .

Er fy mod yn ysgrifennu hwn â rhyw fath o bellter, a minnau heb edrych ar Pokémon Platinum (y gêm ddiwethaf i mi brynu ar y Nintendo DS) ers cryn dipyn o amser, dwi’n awyddus i gwestiynu a fydd Pokémon yma ymhen can mlynedd.

 Cysyniad syml… ond effeithiol.

O ran y gêmau, gan ddechrau gyda Pokémon Blue/Red hyd at Pokémon Platinum, mae’r fformat yn gymharol syml a phoblogaidd. (Bydd y bois yn gwybod mwy am hyn yng nghyd-destun gêmau cyfrifiadurol yn gyffredinol na fi.) Chi off ar daith, mae yna sialensiau amrywiol, chi’n casglu bathodynau ac yna’n trio’ch gorau i ddal pob un o’r 150 Pokémon sy’n rhan o’r gêm.

Digon i wneud felly.

image

Ceir hefyd elfen ryngweithiol ‘ewch-i-chwarae-gyda’ch-ffrindiau-a-chymdeithasu’ i’r gemau (yr hen arfer oedd ymbalfalu â gwifrau niferus wrth gysylltu Gameboy-to-Gameboy ond mae’n digwydd megis wi-fi erbyn hyn, sy’n neud fi’n drist am rhyw reswm). Medrwch gysylltu eich profiad, swopio Pokémon a chael ambell i frwydr. Mae ambell fantais wrth wneud hyn, gyda llond llaw o Pokémon ond yn esblygu i fath arall o Pokémon drwy neud swops fel yma. Mewn undod mae nerth, mae’n wir am UMCA a, yrm, Pokémon .
image

Stwff, stwff, stwff.

Dim ond nawr, wrth sylwi GYMAINT o stwff Pokémon oedd i’w chwenychu, ‘mod i’n gweld pa mor hawdd oedd hi i’r gyfres ddenu plant ifanc. Nid yn unig yr oedd y gêmau ar gyfer y Gameboy a’r Nintendo, ond roedd yna ategolion (roeddwn yn berchen ar sandals Pokémon ar un adeg) a’r cardiau i’w casglu. Roeddwn yn berchen ar dîm o dedis Pokémon – gan gynnwys Mew yr enillais mewn ffair – ac roedd yna gylchgronnau di-ri, yn llawn tips a cheats handi iawn, a FFILMIAU. Roeddech yn mynd i weld y ffilm Pokémon cyntaf yn y sinema ac yn derbyn cerdyn ECSGLIWSIF am ddim yn rhan o’r fargen.

Nid yn unig yr oedd y gêmau antur, ond roedd yna Pokémon Pinball (a oedd yn hollol rybish) a’r gêm gardiau ar Gameboy (a oedd fymryn yn bizzare). Rhyddhawyd Pokémon  Stadium 1 a 2 ar y Nintendo 64, ac mae’n rhaid i mi gyfaddef, datblygodd Pokémon Snap yn un o’m guilty pleasures i.

Esblygu’n gyson

Wrth gwrs, mae’r gyfres wedi datblygu cryn dipyn ar hyd y blynyddoedd. Erbyn hyn mae ‘cenhedlaeth’ newydd o Bokémon yn bodoli, sy’n bur wahanol i’r 150 (151 os ydych yn cyfri Mew yn un o’r rheini) gwreiddiol. Fel rhywun a fagwyd ar ddeiet o’r creaduriaid cyntaf o Bokémon , rwyf yn mynd fwyfwy amheus o allu’r cynllunwyr gemau i ddyfeisio Pokémon newydd. Dyw enwau megis Pumpkaboom a Meowstic ddim wir yn fy argyhoeddi… Ta waeth, dyna’r unig Pokémon a ŵyr y genhedlaeth sydd ohoni amdanynt, ac yn un ffordd o gadw’r gêmau i ddod am genedlaethau (go iawn, ac o ran y creaduriaid) i ddod.

Fy Mhokémon i

image

Ond yr hyn sy’n gwneud Pokemon mor arbennig, yn fy marn i, yw’r modd y gellir gwneud y gyfres yn un sy’n berchen i chi’n bersonol. Mae eich tîm yn datblygu’n rhyw fath o deulu i chi  – mae rhywun yn dueddol o aros gyda’r un criw drwyddi draw, a thyfu gyda nhw – wrth fynd ati i gwblhau’r gêm.

Felly’r cwestiwn mawr: a fydd ‘na 20 mlynedd arall o Pokemon? Wel, pwy a ŵyr. Bydd hi’n dipyn o gamp i’r cynhyrchwyr greu cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o Bokémons, a hwythau eisoes ar y bedwaredd, os nad pumed, cenhedlaeth eisoes.

Yr unig beth a wn i bellach, yw fy mod yn hynod tempted i ail-ymuno ar y daith gyda’r gêmau newydd ar y Nintendo 3DS.

5 comments

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s