Wyth Uchaf 2016

gan f8

Ydi, mae diwedd y flwyddyn cwbwl, cwbwl hunllefus yma bron ar ben, gan addo blwyddyn… wel, hyd yn oed gwaeth tro nesa, o bosib. Diolch, Obama Trump.

Fyddwch chi’n gweld lot o edrych yn ôl ar 2016 ac edrych ymlaen at 2017 yma dros y wythnosau nesa – fyddwn ni’n trafod holl deledu, ffilmiau a cherddoriaeth gorau’r flwyddyn, yn dadlau dros gemau gora’r flwyddyn ar y podlediad, ac ati ac yn y blaen.

Ond gynta, golwg yn ôl ar ein fideos ac erthyglau mwya poblogaidd dros y flwyddyn. Wyth ohonyn nhw, wrth reswm. Mam bach, ‘da ni ‘di bod yn brysur.

Honourable mention i’r blyrb newydd amdanom ni’n hunain sydd wedi profi’n boblogaidd iawn – ond mae pawb yn clicio arno fo drwy’r amser beth bynnag achos bod ‘na linc yn syth o’r dudalen flaen, 24/7. Felly dydi o’m yn cyfri, achos rheolau. Serch hynny, mae hwnna’n rhoi syniad da i chi be ‘da ni’n wneud rownd ffor’ma, os ‘da chi’n newydd.

Reit. Dyma ni. Fideo Wyth ar ei orau. Strapiwch eich hunain i mewn.

#8 – Fideo: Bar Gemau Bwrdd

Y fideo mwya poblogaidd o’r gyfres ddiweddara o Y Lle, pan aethon ni rownd yr holl chyffin wlad yn ymweld â digwyddiadau nyrdaidd gwahanol. ‘Da ni’n hapus iawn efo’r eitemau yma’n gyffredinol.  Mae’r gweddill werth eich hamser chi hefyd – ein dau fideo o sioe EGX, a thaith Elidir i Comic-Con Caer. Clasuron oll.

#7 – Fideo: Sonic The Hedgehog

Heb os nac oni bai, y peth mwya hurt ‘da ni erioed wedi ei wneud. Ond mae hurtrwydd yn gwerthu, bois. Dyma Daf ac Elidir ar Y Lle yn cymryd rhan mewn ffilm ddogfen am Sonic The Hedgehog, wedi gwisgo fyny fel ffyliaid, efo llais melfedaidd neb llai na Jeifin Jenkins yn rhan o’r peth hefyd. Dydi bywyd ddim yn dod yn lot gwell na hyn.

#6 – Y Cyfieithiadau Coll

Darn sydd wedi achosi mwy o drafod yn ein sylwadau nac unrhywbeth arall yn ein hanes. Darllenwch Elidir yn erfyn ar gwmnïau cyhoeddi Cymru i gyfieithu mwy o glasuron ffantasi a ffug-wydd i’r Gymraeg. A wedyn darllenwch sylwadau pawb arall yn ei alw’n idiot. Hwyl a sbri.

#5 – Adolygiad: Ghostbusters

Ymddangosiad cynta Miriam Elin Jones yn yr wyth uchaf flwyddyn yma, lle mae hi’n ymateb i’r ffilm Ghostbusters newydd wnaeth hollti cymaint o farn flwyddyn yma. Yn bennaf rhwng troliaid ar-lein a phawb arall, ond ‘na ni.

#4 – Pro Evolution Soccer Yn Gymraeg

Ddylsa chi ‘di gweld f8 HQ y bore wnaethon nhw ddatgelu bod Pro Evolution Soccer 2016 am gael fersiwn iaith Gymraeg o’r gwaith celf. “Dyma ein bara menyn,” medd Daf. “Ia wir,” cytunodd Elidir, cyn ffonio’r gwneuthurwyr, Konami, a chael pob math o wybodaeth am y penderfyniad doedd ddim ar gael o unrhyw ffynhonell arall, a chychwyn perthynas eitha llewyrchus efo nhw ar yr un pryd. Bron i ni deimlo fel newyddiadurwyr go-iawn y bore ‘na.

Bron.

#3 – Pokemon Yn 20

Dyma Miriam yn ôl eto, yn dathlu trydydd degawd Pokemon mewn steil. A wyddoch chi, dwi ddim wedi cyffwrdd â’r gyfres ers y gêm cynta. Ella bod hi’n bryd newid hynny…

#2 – Fideo: Gemau Yr Haf

Ein eitem mwya poblogaidd ar Y Lle flwyddyn yma, pan wnaethon ni edrych ymlaen ar gemau mawr yr haf, sy’n teimlo mor bell yn ôl erbyn hyn. Uncharted 4! Doom! Overwatch! No Man’s Sky! Ac wrth gwrs, yr outro yna, lle mae Daf rhywsut yn rhagweld popeth drwg ddigwyddodd ar ddiwedd y flwyddyn. Bosib iawn ei fod o’n deithiwr amser. ‘Di o’m yn deud.

#1 – Fideo: Virtual Reality Yn Aberystwyth

A dyma ni, y peth mwya poblogaidd i ni wneud flwyddyn yma, sef cyfwyniad Daf i fyd cyffrous virtual reality… ond yn Aberystwyth. A stwff. Mae o jyst yn mynd i ddangos bod sticio’r bardd Eurig Salisbury yng nghanol eich cynnyrch, dim ots be ydi o, yn guaranteed winner. Y fideo cynta i gynnig isdeitlau Saesneg dewisol hefyd, sy’n ehangu ein apêl, tra’n cadw ein naws Cymreigaidd, caib-a-rhaw i’r dim. Disgwyliwch fwy o hynny yn y dyfodol wrth i Fideo Wyth droi’r fwy ac yn fwy o fehemoth diwylliannol dridrugaredd.

Rhywbeth arall i edrych ymlaen ato flwyddyn nesa, felly.

Leave a comment