gan Elidir Jones
Weithiau, mae’r byd yn eich synnu chi.
Yn dilyn Gareth Bale yn cael ei sticio ar flaen bocs y fersiwn diweddara o Pro Evolution Soccer, mae datblygwr y gêm, Konami, wedi mynd un cam ymhellach… a rhyddhau fersiwn iaith Gymraeg o’r gwaith celf fydd yn ymddangos ar y gêm ei hun.
A dyma fo.
Mae gan y cwmni dipyn o hanes yn hyn o beth yn ddiweddar. Mae nhw wedi gwneud ambell i drydariad yn y Gymraeg, a hefyd wedi rhyddhau’r hysbyseb yma yn y gorffennol:
Ta waeth, roedd hyn yn syrpreis arbennig o neis beth bynnag. Dydi hi ddim yn brifo bod stoc Pro Evolution Soccer wedi bod yn codi dros y blynyddoedd diwetha. Dydi’r gêm newydd – sy’n cynnwys asedau llawn ar gyfer ailgreu pencamwpriaeth Ewro 2016, ar ben y system addasiadol newydd, myClub – ddim yn edrych yn ffôl o gwbwl.
Fe wnaethon ni gysylltu gyda Konami am sylwadau. Meddai Steve Merrett, rheolwr cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer y cwmni:
“Gyda Gareth Bale yn ymddangos ar y clawr, roedden ni hefyd eisiau dathlu rhan Cymru yn Ewro 2016 ac roedd hyn yn teimlo fel ffordd addas o wneud hynny. Dyma’r tro cyntaf i gêm fideo gynhyrchu clawr yn yr iaith Gymraeg, a roedden ni’n meddwl ei bod yn ffordd dda o nodi llwyddiant ddiweddar y tîm cenedlaethol, a’u rôl yn y gêm.”
Ac meddai Erik Badlinieres, Cyfarwyddwr Brand Ewropeaidd Pêl-Droed Konami:
“Bydd Gareth yn siŵr o chwarae rhan allweddol i Gymru yn y bencampwriaeth, ac rydyn ni’n gwybod y bydd pawb yng Nghymru yn cefnogi’r tîm i’r carn. Rydyn ni’n falch iawn o gael Gareth yn rhan bwysig o’n cynnwys ar gyfer UEFA Ewro 2016 ac yn gobeithio bydd cefnogwyr Cymru yn manteisio i’r eithaf ar y clawr arbennig hwn.”
Fysa ni ddim ‘di gallu dweud y peth yn well ein hunain. Er mwyn lawrlwytho copi safon uchel o’r clawr yn rhad am ddim, a’i brintio fo allan er mwyn ei gynnwys yn eich gêm, brysiwch da chithau i wefan PES Fan, fan hyn.
[…] #4 – Pro Evolution Soccer Yn Gymraeg […]