Goreuon Yr MCU

gan Elidir Jones

Mae’n amser prysur iawn yma yn f8 HQ, ac yn debyg o aros felly am rai wythnosau. Ro’n i wedi bwriadu gorffen Dark Souls 3 a gwneud adolygiad fideo ohono erbyn hyn, ond dydw i ddim cweit wedi ei drechu o eto. Ac mae ‘na amryw o fideos eraill ar y gweill. O, oes. Peidiwch chi â phoeni.

Felly i aros pryd, rhywbeth bach i godi trafodaeth.

civilwar

Mae Captain America: Civil War ar y ffordd i sinemâu ar ddiwedd y mis. Dwi ‘di cyffroi’n lân. Mae’r trelyr yma yn ddigon i gynhyrfu unrhywun, debyg iawn, ac mae hynny cyn i chi gael golwg ar yr adolygiadau. Ac mae nhw’n wirion o dda.

Felly, i ddathlu be mae nhw’n galw yn ffilm gorau’r MCU (Marvel Cinematic Universe), be am i ni gymryd golwg sydyn yn ôl at rai o oreuon y gyfres hyd yn hyn? Y darnau ‘na ohonyn nhw sy’n gwneud i ni neidio allan o’n seddi, clapio, chwerthin… weithiau i gyd ar unwaith. Ac os wnaethoch chi fwynhau rhain… be ar wyneb y ddaear, feddyliwch chi, sydd gan Civil War i’w curo nhw?

Drax the Destroyer (Guardians Of The Galaxy)

Er fy mod i’n anghyfarwydd â’r comic, do’n i ddim yn hapus iawn pan gafodd Dave Bautista ei ddewis i chwarae Drax the Destroyer yn y ffilm Guardians Of The Galaxy. Fel rhywun sydd wedi gwylio ei siâr o reslo proffesiynol yn y gorffennol (leiniwch fyny, ferched…), do’n i erioed yn ffan o’r boi, ar gamera nac oddi arno. Ond mam bach, wnaeth o fy mhrofi i’n anghywir.

Drax, dwi’n meddwl, ydi’r cymeriad mwya digri yn yr holl MCU. O’i ddeialog perffaith (“Nothing goes over my head. My reflexes are too fast. I would catch it.”), i’w ymateb sych yn yr olygfa hurt bost yma:

Ac, ar nodyn chydig mwy difrifol, mae plant awstistig hefyd wedi ymateb yn gadarnhaol iawn i Drax, ac yn ei gysidro fel superhero sy’n ymddwyn yn debyg iddyn nhw, ac yn gwbwl anedifar am y peth. Cam pwysig tuag at y dydd pan fydd gan bawb ffigwr tebyg i uniaethu efo nhw.

Star-Spangled Man (Captain America: The First Avenger)

Y ffilmiau Captain America ydi fy hoff rai yn yr MCU. Dyna un rheswm mawr pam dwi’n edrych ymlaen gymaint at Civil War. Ac er fy mod i o’r farn mai The Winter Soldier ydi’r ffilm orau o’r lot, dwi’n meddwl bod moment gorau’r ffilmiau Captain America (hyd yn hyn) yn ymddangos yn y cynta, The First Avenger.

Mae’n cymryd lot o gyts i sticio cân yn syth o sioe gerdd yng nghanol ffilm fel hynYn enwedig cân sydd ddim yn cymryd ei hun o ddifri. O gwbwl. Ond mae hwn jyst yn gweithio.

Nid yn unig bod hwn yn gweithio’n grêt fel montage – yn dangos Steve Rogers / Captain America yn cryfhau ei gymeriad ac yn dechrau arfer â’i bersona newydd – ond mae o hefyd yn homage anhygoel i oes aur comics. ‘Da ni ‘di tyfu’n rhy sinigaidd bellach i optimistiaeth fel hyn weithio’n aneironig, ond yn y cyd-destun yma, ellith o ddim peidio rhoi gwên ar eich gwyneb. Dyma Marvel fwy neu lai yn diolch i’r rhai ddaeth o’u blaenau nhw wnaeth gael y bêl i rowlio. Fedrith unrhywun un sydd wedi tyfu i fyny yn darllen comics werthfawrogi hynny.

Ac wrth gwrs, mae’n gyferbyniad llwyr efo diwedd y ffilm sydd… wel… dipyn tywyllach.

Hulk (Avengers Assemble)

Wnaeth ffrind i fi ddisgrifio Avengers Assemble fel y ffilm Hulk gorau sydd erioed wedi ei wneud. Ac mae’n berffaith gywir. Er fy mod i’n eitha hoff o The Incredible Hulk (2008), mae’r dyn mawr gwyrdd yn taflu cysgod anferth dros bopeth arall yn Avengers. Ac mae Mark Ruffalo gymaint gwell nac Edward Norton beth bynnag.

Fedra i ddim dewis un moment benodol, felly be am jyst redeg drwyddyn nhw i gyd?

Ei ymddangosiad cynta. Roedd Dr Banner yn newid i mewn i’r Hulk wastad yn fy nychryn i yn y gyfres deledu o’r 70au / 80au, ac mae’r darn yma yn dal lot o’r dôn brawychus yna.

– Eitha gwahanol i’w drawsnewidiad yn yr olygfa yma (“I’m always angry.”), sydd jyst yn epig. Yn arwain i…

“Hulk? Smash.”

– Ac yna, wrth gwrs, ella’r foment fwya digri yn yr MCU i gyd:

“Puny God.”

Fo ‘di’r gora. Dydi hi ddim yn hen bryd i ni gael ffilm Hulk newydd, rŵan bod Mark Ruffalo wedi profi ei fod o wedi ei eni i chwarae’r rôl? C’mon Marvel. ‘Da chi ddim isio’n gadael ni lawr, na ‘dach?

Dim ond rhestr byr (iawn) ydi hwn, wrth gwrs. Be amdanoch chi? Unrhyw ddarnau eraill o’r 12 (!) ffilm Marvel sydd wedi eu rhyddhau hyd yn hyn sy’n eich ticlo chi? Rhowch wybod isod, a gadewch i’r heip ar gyfer Civil War gychwyn go-iawn.

Rŵan ta. Dydi hi ddim yn bosib gorffen erthygl ar Marvel heb sticio “Excelsior!” i mewn yn rwla. Felly…

“Excelsior!”

Sori.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s