gan f8
Amser am eitem bach arall o gyfres Y Lle? O, go on ta. ‘Da ni’n mynd ffwl pelt, bois.
Tro ‘ma, golwg ar rai o’r gemau mawr sy’n dod allan dros yr Haf. Mae’r eitem yma yn cynnwys y crys-T gorau i Elidir wisgo erioed, ac araith gan Daf sydd o bosib yr un gora erioed i’w ddarlledu ar S4C. Dim rheswm i beidio gwylio felly.
I’r rhai sensitif yn eich plith, mae’r clipiau o Doom yn waedlyd. Iawn. Ia, ella bod nhw wedi mynd yn rhy bell efo’r un yna…
Un peth arall: gan bod hon wedi cael ei ddarlledu yn ystod tymor etholiadol, roedd rhaid cymryd y gags am y Blaid Werdd a Nigel Farage allan ar y teledu. Ond ar y we, does dim rheolau. Mwynhewch y fersiwn estynedig yma.