gan Elidir Jones
Amser am fideo bach arall. Tro ‘ma, golwg ar y gêm dwi ‘di bod yn edrych mlaen ati fwya flwyddyn yma, sef Dark Souls 3. A dyma fideo arall lle dwi ‘di mynnu cynnwys cerddoriaeth hurt bost mewn ryw fath o montage. Fysa chi ‘di meddwl y byswn i ‘di cael digon o’r lol yna ar ôl Alien Isolation.
Yr holl ogoniant i’w weld fan hyn. ↓
Ac os ‘da chi ddim yn hoff o glicio botymau a gwylio fideos a chael hwyl, dyma destun yr adolygiad:
Molwch yr haul, mae Dark Souls 3 yma o’r diwedd. Yn dilyn llwyddiant ysgubol Bloodborne flwyddyn diwetha, mae gemau Hidetaka Miyazaki a From Software yn mynd o nerth i nerth, ac wedi mynd o fod yn lwyddiant cwlt, i gemau sy’n rhoi’r byd ar dân pan mae nhw’n cael eu rhyddhau. Fedrith Dark Souls 3 dorri drwy’r heip? Ta ydi’r gyfres bellach yn bygwth disgyn yn ddarnau o dan ei bwysau ei hun?
Wel…
I ddechra: mae Dark Souls 3, wrth gwrs, yn anodd. Os ‘da chi’n newydd i gemau, arhoswch yn glir o hwn fel y pla. Ond os ‘da chi’n newydd i Dark Souls, debyg iawn mai dyma’r lle gora i gychwyn. Er bod y gêm yn dod yn lladdfa gyfarwydd yn y man, ar y cychwyn mae o… sibrydwch y peth… yn deg. Oes, mae’n rhaid i chi guro bos anferth cyn i chi allu gwella eich cymeriad mewn unrhyw ffordd… ond does dim rhaid i chi slogio drwy ddwsinau o elynion i’w gyrraedd o, fel yn Bloodborne. Does dim peryg o ffeindio’ch hun mewn ardal lot rhy anodd o’r map, fel yn y Dark Souls cynta. A fydd hi’n cymryd ryw 10 neu 15 awr cyn i chi fod isio malu’r teli mewn ffit o pique. Bonws.
Ar y pryd, ro’n i’n teimlo bod yr ardaloedd cynta ‘ma fymryn bach yn bland. Dydyn nhw ddim mor wahanol i’r stwff ‘da ni ‘di ei weld o’r blaen, efo’r ardal Undead Settlement, yn enwedig, yn teimlo fel ei fod o wedi ei rwygo’n syth allan o Bloodborne. Ond wrth edrych yn ôl, a finnau’n gorfod delio efo rhai bosys gwirioneddol nyts nes mlaen, dwi’n falch bod y gêm wedi cynnwys y dechra ara deg, gweddol saff ‘ma. Mae’n neis cael rhywbeth mymryn bach ysgafnach fel hyn er mwyn dod i arfer â’r profiad. Fyddwch chi’n falch ohono fo pan mae pethau, yn y man, yn mynd yn Dark Souls iawn.
Mae ‘na fosys chydig ar yr ochr ddiflas yma, mae’n wir. Ond yn gyffredinol, mae ‘na ddigon yma sy’n sefyll ochr-yn-ochr â goreuon y gyfres. Gan gynnwys…
Yr Abyss Watchers! Criw o nytars efo cleddyfau sy’n ddigon hapus i’w hymladd ei gilydd. Pan dydyn nhw ddim yn eich torri chi’n ddarnau, wrth gwrs!
Deacons Of The Deep! Gang hapus o fynaich cythreulig fydd – os ‘da chi ddim yn eu curo nhw yn ddigon cyflym – jyst yn eich lladd chi heb rybudd. O, cesys ‘dy nhw.
Oceiros, the Consumed King! Ryw fath o ddraig salw sydd, yng nghanol eich ffeit, yn dechrau crio oherwydd ei faban marw! Ho ho ho! Mae ‘na hwyl i gael.
Ges i lot o hwyl tro ‘ma yn helpu pobol i guro bosys a pharhau yn ei gêm nhw, ac mae’r elfen yma o’r gyfres yn un do’n i ddim wir wedi ei brofi gormod yn y gorffennol. A wnes i hefyd lusgo pobol i mewn i fy gêm i pan es i’n styc. A na, ‘di hwnna ddim yn cyfri fel twyllo. Onest. Mae’n ran anatod o’r profiad, a’r rheswm pennaf pam bod Dark Souls yn sialens iach, yn hytrach na thasg Sisyffaidd amhosib. Y cam nesa: neidio i mewn i gemau pobol eraill er mwyn eu hymladd nhw, yn hytrach na’u helpu nhw.
Wna i fethu. Wna i fethu’n racs.
A dim ond un rheswm ydi hwnna i ddal i fynd ar ôl i’r credydau rowlio. Mae ‘na nifer gwirioneddol stiwpid o ffyrdd o chwarae, o daflu hud dros y lle wili-nili, i smacio pobol dros y pen efo morthwyl enfawr, i drio sleifio o gwmpas yn dawel.
Ia. Bob lwc efo hwnna.
Ac yn wahanol i Bloodborne, ac un peth sydd ella yn codi Dark Souls 3 uwchben y gêm yna – fy hoff gêm o’r flwyddyn ddiwetha, cofiwch – ydi bod ‘na gymaint o ddewisiadau o ran arfau ac offer. Dyma sut o’n i’n edrych wrth gychwyn chwarae – fel ryw Ninja Turtle reit bathetig yr olwg. Ac wrth orffen… slic. Fedra i’m gwneud unrhywbeth am fy ngwyneb, gwaetha’r modd. Ond dal. Slic. A dwi ddim eto’n ddigon da i iwsio 90% o’r offer sydd ar gael, felly mae gen i siwrne hir o mlaen i eto.
Dwi’n teimlo braidd yn euog cyhoeddi’r fideo yma achos, er ‘mod i wedi gorffen Dark Souls 3, dwi ddim wedi gorffen efo fo. Dwi’n gwbod digon i ddweud bod hon yn gêm dda. Yn dda iawn. Ond dwi ddim eto’n teimlo fel fy mod i wedi gwneud bob dim, dwi ddim ‘di dechrau edrych mewn i’r stori gynnil a chymhleth, a dwi ddim yn siŵr lle mae’n sefyll o fewn y gyfres yn gyffredinol. Fyswn i’n gallu mynd ymlaen am Dark Souls 3 drwy’r dydd, ac yn anffodus, wneith Youtube ddim gadael i fi. Digon am y tro i ddweud bod o’n hanfodol i unrhyw un sy’n ffan o’r gyfres. Hanfodol, deud y gwir, i unrhyw un sy’n chwarae gemau. Ac i bawb arall… wel, gewch chi laff jyst yn ein gwatshiad ni’n marw. Eto. Ac eto. Ac eto.
Ac eto.
Mae Dark Souls 3 allan rŵan ar y PC, PS4, a’r Xbox One. Cofiwch hoffi, rhannu, a thanysgrifio. Am fwy o drafod gemau – yn Gymraeg – sticiwch efo ni yma ar fideowyth.com.