gan Osian Llew
Does dim angen esbonio’n or-fanwl bod cerddoriaeth a thraciau sain gemau bellach yn bethau *dipyn* haws i gael gafael ynddynt. Mae sawl cwmni wedi sylwi bod awch gan chwaraewyr i gael copïau swyddogol, ansawdd-uchel o gerddoriaeth eu cynnyrch – boed hynny’n ddigidol, ar gryno-ddisg neu (os ‘dech chi scarily o ddifri’ am y peth) ar feinyl. Ond beth os oeddech chi am fynd gam ymhellach? Beth fyddai’n digwydd petai’r cwmnïau mawrion yn caniatâu perfformiadau byw o sgoriau eu IPs mwyaf? Beth os – syndod a rhyfeddod! – fyddai’r cyngherddau hynny’n cynnwys cerddorfeydd a chorau a phob dim fyddai’n dod â chyngerdd clasurol arferol? Dyma’r syniad tu ôl i The Legend of Zelda: Symphony of the Goddesses.
Nid bod y syniad honno’n un newydd. Mae’r twf ym mhoblogrwydd cerddoriaeth gemau wedi egino sawl taith debyg dros y ddegawd diwethaf, boed rheiny’n ddathliad o’r ffurf yn gyffredinol (fel Video Games Live, poster-boy y genre), neu’n canolbwyntio ar gyfresi unigol ( fel Distant Worlds, sy’n delio’n unswydd â’r gemau Final Fantasy). Nid one-offs ‘stafelloedd cefn gan ensembles bach dienw mo’r rhain, chwaith: perfformiwyd y gyngerdd dan sylw yn yr SSE Wembley Arena, hefo’r Royal Philharmonic Concert Orchestra a’r Capital Voices yn chwarae a chanu i dorf enfawr, eiddgar. Hen ac ifanc; teuluoedd ac unigolion; cosplayers a’r rhai daflodd y crys-T cynta’ welson nhw’n y wardrôb ‘mlaen – roedd y gynulleidfa’n hyfryd o amrywiaethol.
Erthygl am y gyngerdd ydi hon, serch hynny – ac roedd hi’n un dda iawn. Mae Symphony of the Goddesses yn llenwi’r bwlch sydd rhwng cyngerdd clasurol “arferol” (fawr ddim o siarad rhwng darnau, dim sgriniau ar gyfer delweddau, ag ati) ac arddull Video Games Live o roi naws gig roc i’r holl beth – ac, ar y cyfan, yn llwyddo’n arbennig o dda. Roedd ansawdd seiniau’r gerddorfa a’r côr gymaint cliriach na chyngherddau eraill (mae tueddiad gan VGL i ddefnyddio llawer o draciau wedi’u recordio ymlaen llaw, gall foddi’r gwaith byw ar brydiau) ac roedd yr un sgrîn fawr tu ôl i’r perfformwyr yn gwneud ei waith heb dynnu dim oddi wrtho. Yn wir, roedd camerâu o amgylch yr arena yn darlledu perfformiadau unigolion ar y sgrîn o bryd i’w gilydd, bron iawn fel petai nhw am eich hatgoffa fod pob dim yn digwydd o flaen eich llygaid. (Dychmygwch ddarllediad ‘Steddfod ‘fo cerddoriaeth ‘dech chi’n malio amdano, a ‘dech chi ‘na.) Mae safon y gerddorfa a’r côr werth ei nodi, hefyd: doedd dim arlliw o deimlad eu bod nhw’n well na’r trefniannau hyn, bod y gerddoriaeth yn israddol oherwydd ei darddiad. Roedd emosiwn ac ystyr tu ôl i bob nodyn, gyda’r cyngerdd ar ei orau wrth i’r ensemble cyfan gael torri’n rhydd a llenwi’r arena hefo’u cân.
Cymerodd y gyngerdd strwythr cyngerdd glasurol arferol – darnau byrion, standalone i ddechrau, cyn torri fewn i symudiadau symffonig hirach yn seiliedig ar rai o gemau mwyaf poblogaidd y gyfres. Byddai’r rheini a brynodd gyhoeddiad cyntaf The Legend of Zelda: Skyward Sword yn adnabod rhai trefniannau o’r CD a ddaeth hefo’r gêm honno –cafodd pob trac ar yr albwm bonws honno eu chwarae, ond am un. Nid bod hynny’n destun cwyno, deallwch – ‘swn i wedi dechrau cyflafan ‘tase nhw heb chwarae symudiad The Wind Waker. (Rhaid nodi hefyd, fel ym mhob cyngerdd Zelda ers y dechrau, cafodd darn yma’r gyngerdd ei harwain gan Kevin Zakresky yn defnyddio replica o’r baton hudol ei hun.) Cafodd y gemau mawrion i gyd eu moment, hefo A Link to the Past, The Ocarina of Time, Majora’s Mask, The Wind Waker a Twilight Princess i gyd yn derbyn gwerth deg munud o siwrne gerddorol yr un.
Siwrne ydi’r gair, hefyd. Oherwydd yr amser ychwanegol gall gyngerdd cyfres-unigol ei gynnig, roedd yr holl ddarnau’n fwy na trefniannau syml o brif themau’r gemau hynny. Roedd llif pendant i bob un – a hynny’n cael ei danlinellu gan y fideoau ar y sgrîn fawr, yn dangos lle’r gerddoriaeth yn stori’r gemau penodol. Roedd pob un – rhyfedd ddigon – yn creu ei chwedl ei hun, yn cydio’n y gynulleidfa a’u tywys ar daith cerddorol. O ddrama Wagner-aidd A Link to the Past i seiniau Celtaidd The Wind Waker, roedd pob un yn llwyddo cyfleu naws eu gêm yn gywrain. Os ‘dech chi wedi chwarae gêm Zelda erioed, fydd rhywbeth yma i ddirdynnu eich bron.
Does dim o’i le ar y gerddoriaeth, felly – daw’r cwynion (mân) o ran cyflwyniad y noson. Daeth yr unig anerchiad byw o’r llwyfan ei hun ar y cychwyn cyntaf, wrth i Jason Michael Paul (cynhyrchydd y cyngherddau) arwain teyrnged fer i Prince, bu farw ynghynt yn yr wythnos. Cyflwynwyd gweddill y rhaglen gan glipiau o Shigeru Miyamoto, Eiji Aonuma a Koji Kondo ar y sgrîn fawr… A dyna ni. Er mor ddiddorol oedd cael clywed am y gemau a’r gerddoriaeth gan y rhai sy’n gyfrifol amdanynt, roedd y diffyg cyfathrebiad byw ‘fo’r gynulleidfa yn anghydnaws ‘fo profiad gweddill y noson. Byddai cael yr arweinydd i ddweud gair bach wedi bod o fudd, neu cael compere penodol bob hwnt ag yma (fel y gwnaeth Zelda Williams, merch y digrifwr Robin Williams, yn y gyngerdd gyntaf oll). Bu diwedd y gyngerdd ychydig yn ddi-nôd oherwydd y diffyg cyfathrebiad yma – doedd neb ar lwyfan i leisio diolch ar ran y gynulleidfa, fel cyngerdd arferol.
Hollti blew ydi hynny, fodd bynnag – y gerddoriaeth sy’n bwysig, ac roedd hwnnw’n arbennig o dda. Os gewch chi gyfle i fynd, a’ch bod chi’n ffan o Zelda, cerddoriaeth gemau neu o gerddorfeydd yn gyffredinol, chewch chi mo’ch siomi. Fydd ddim rhaid aros yn rhy hir am y nesa’, ‘chwaith – mae dyddiadau nesa’r daith yn y DU wedi’u rhyddhau! Dyma nhw isod, yn y ffurf pwynt-bwled traddodiadol:
- 9fed HYDREF: Symphony Hall, Birmingham
- 13eg HYDREF: Neuadd Bridgewater, Manceinion
- 20fed HYDREF: Awditoriwm Clyde, Glasgow
Peidiwch â’i gadw’n gyfrinach rhag pawb – ewch i wylio Symphony of the Goddesses!
[…] Jones. Ond mae amryw o bobol eraill wedi cyfrannu yma, gan gynnwys Miriam Elin Jones, Joe Hill, ac Osian Llew. Ac os ydych chi’n awyddus i gyfrannu hefyd, rhowch floedd ar Facebook neu Twitter. Mae […]
[…] dri is-gategori, bellach: y Gig-Gyngerdd (wele Video Games Live), y Gyngerdd Un-Gyfres (wele adolygiad f8 o gyngerdd Symphony of the Goddesses) a’r Gyngerdd Glasurol (wele’r adolygiad yma). Dyma i chi ben bandit y math yma o ddigwyddiad […]
[…] dod allan. ‘Da ni ddim fel arfer yn trafod cerddoriaeth ar f8, wedi’r cwbwl, oni bai am ddarnau achlysurol Osian […]