Adolygiad: Cyngerdd Symphonic Fantasies

gan Osian Llew

Llundain, 6/10/2016

Fuoch chi erioed i wylio cyngerdd glasurol *pur* yn eich oes? Dim gimmicks na giamocs tu ôl i’r perfformwyr – ‘mond symffoni’n eich taro chi â’i sain. Llond awditoriwm o bobl yn gwrando’n astud, mewn perlewyg bron, ar un nodyn tawel ar y feiolin. Y synnwyr, wrth i’r noson ddirwyn i ben, y cafodd rhywbeth hudolus ei hesgor yn y gwagle rhwng cerddorfa a chynulleidfa. Fyddai cyngerdd cerddoriaeth gemau o’r fath methu â chreu’r un awyrgylch, does bosib?

sf_cologne_2012

Mae’r genre Cyngherddau Gema wedi esblygu’n gyflym yn y ddegawd diwethaf. Yn wir, mae modd eu didoli’n dri is-gategori, bellach: y Gig-Gyngerdd (wele Video Games Live), y Gyngerdd Un-Gyfres (wele adolygiad f8 o gyngerdd Symphony of the Goddesses) a’r Gyngerdd Glasurol (wele’r adolygiad yma). Dyma i chi ben bandit y math yma o ddigwyddiad i’w gefnogwyr – cerddoriaeth gemau’n cael ei drin (a’i ymdrin) fel cerddoriaeth glasurol “go-iawn”. Yn nghyd-destun y noson hon, golygai hynny y cawsom y London Symphony Orchestra a’r London Symphony Chorus yn chwarae trefniannau cymleth, cywrain Jonne Valtonen a Roger Wanamo o gerddoriaeth pedwar cyfres RPG gan Square Enix – Kingdom Hearts, Secret of Mana, Chrono Trigger / Cross a (syndod y byd) Final Fantasy. Nid datganiadau prif themau’n unig oedd i’w clywed yma, ond plethiadau a datblygiadau syniadau byddai unrhyw gyfansoddwr o Wagner ymlaen wedi bod yn blês ‘fo nhw.

Rhaid i mi gyfaddef – dwi heb chwarae dim o’r RPGs uchod. Do’n i heb glywed nodyn o sgôr Secret of Mana cyn dechrau’r noson, ac rhyw frith-wybodaeth am gerddoriaeth y lleill diolch i Video Games Live (honno eto) a Distant Worlds (Cyngerdd Un-Gyfres i Final Fantasy). Mae’n destament i rym y cyfansoddwr, y trefnwr a’r gerddorfa, felly, mae dyna’r darn i fy ngadael bron mewn dagrau. Y rheswm? Y trefniant: yn hytrach na chael y corws fel cantorion yn unig, cawsant eu defnyddio fel offeryn cyfan, neu stiwdio Foley, i greu effaith storm. Clicio bysedd, taro gwefusau, siffrwd papur eu sgorau – dyna greodd yr hud o flaen cynulleidfa llwyr-lawn y Barbican y noson honno.

Nid bod y noson wedi bod yn un sych a ffroenuchel – er bod pob parch wedi’i roi i’r gerddoriaeth a’r unawdwyr hyfryd (Slava Siordenko ar y piano; Rony Barak ar ddrwm y darbouka), roedd digon o hwyl i’w gael yn y trefniannau hefyd. Daeth yr enghraifft orau o hyn yn y bedwaredd Ffantasi, Final Fantasy. O floedd cyntaf y gynulleidfa pan glywsant y delyn yn canu’r preliwd enwog, roedd cyffro’r disgwyliadau i’w deimlo. A wnewn nhw ‘One-Winged Angel’, thema Sephiroth o FFVII? Cyn hir, daeth y cordiau agoriadol i’r amlwg. Teimloch chi gynulleidfa o bron i 2,000 o bobl yn dal eu gwynt. Yna, fel fflach, torrwyd drwy hynny’n syth gan thema’r Chocobo – ac roedd y gynulleidfa’n eu dyblau. Chafodd ‘One-Winged Angel’ mo’i chwarae yn ei chyfanrwydd tan yr encore – medli o themau bosýs y pedair gem dan sylw – a cheisiodd y chocobo ymyrryd ar y darn unwaith eto, ond greodd hyn awyrgylch anhygoel, unigryw yn y neuadd.

Do, esgorwyd ar rhywbeth hudolus yn y gwagle awditorol hwnnw’r noson honno. Esgorwyd ar gysylltiad annatod rhwng y gerddoriaeth a’r gwrandawr. Am ddwyawr gyfan, roedd neuadd cyfan o bobl ar union yr un siwrne, yn rhannu ac yn ymfalchïo yng ngrym cerddoriaeth o bob math i’ch tywys ar anturiaethau i fydoedd ffantasïol. Mae rhaglen y gyngerdd yn datgan y bydd cerddoriaeth gemau yn ôl yn nwylo’r LSO yn 2017 – hir oes i hynny, am eu bod yn ddwylo dawnus tu hwnt.

2 comments

  1. […] Do’n i ddim yn siŵr o’n i isio cynnwys categori cerddoriaeth flwyddyn yma, er bod ‘na ddigon o stwff da wedi dod allan. ‘Da ni ddim fel arfer yn trafod cerddoriaeth ar f8, wedi’r cwbwl, oni bai am ddarnau achlysurol Osian Llew. […]

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s